Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion o'r Bwrdd Iechyd

28/09/23
Timau haematoleg ac ymchwil yn Ysbyty Glan Clwyd yn gwneud argraff ar banel beirniadu mewn gwobrau cenedlaethol

Mae timau haematoleg ac ymchwil yn Ysbyty Glan Clwyd wedi ennill yr ail safle am gymryd rhan mewn treialon ac astudiaethau'n ymwneud â Lewcemia Myeloid Acíwt (AML) mewn seremoni wobrwyo genedlaethol fawreddog

25/09/23
Cleifion yn cael eu trin yn gynt diolch i gydweithio i wella gofal orthopedig

Mae canolfan lawfeddygol warchodedig yn Ysbyty Abergele yn hybu’r ymdrech i...

20/09/23
Beicwyr gwirfoddol 'rhyfeddol' sy'n dosbarthu llaeth y fron a gyfrannwyd yn 'achub bywydau babanod cyn-amserol' medd nyrs newydd-enedigol

Mae criw o feicwyr gwirfoddol ymroddedig, sy'n dosbarthu llaeth y fron a roddwyd ar gyfer  babanod cyn-amser, yn achub bywydau yn ôl uwch nyrs.

Aeth dau o wirfoddolwyr â chalonnau mawr o Feiciau Gwaed Cymru i uned newydd-enedigol Ysbyty Glan Clwyd i ddangos eu beiciau a siarad am y gwaith maen nhw'n ei wneud.

15/09/23
Interniaid lleol i ddysgu sgiliau newydd yn sector cyhoeddus Sir y Fflint

Mae wyth o interniaid wedi dechrau ar eu rolau newydd gyda Chyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y mis hwn i ddatblygu eu sgiliau a’u profiad.

11/09/23
"Doeddwn i ddim yn disgwyl mynd i'r ysbyty a gadael gyda ffrind" - Bachgen a fethodd noson prom ei ysgol a gwyliau gyda'i deulu oherwydd anaf yn canmol y gofal a gafodd yn Ysbyty Gwynedd

Mae bachgen yn ei arddegau a fethodd fynd i'w brom ysgol oherwydd ei fod yn yr ysbyty ar ôl anaf pêl-droed, wedi diolch i aelod o staff Ysbyty Gwynedd am fynd y filltir ychwanegol iddo.

04/09/23
Mae ap newydd i helpu i drawsnewid darpariaeth gofal dementia wedi cael ei greu yng Ngogledd Cymru

Mae ap digidol newydd, rhad ac am ddim wedi’i greu er mwyn helpu i ddarparu mwy o amgylcheddau gofal sy’n ystyriol o ddementia a chefnogi cleifion bellach yn fyw ar ôl cael ei ddatblygu a'i brofi yng Ngogledd Cymru.

01/09/23
Merch yn ei harddegau yn diolch i staff practis meddygol ym Mlaenau Ffestiniog am achub ei bywyd

Mae merch yn ei harddegau wedi diolch i staff practis meddygol ym Mlaenau Ffestiniog am achub ei bywyd ar ôl iddi fynd yn ddifrifol wael yn sgil Diabetes Math 1 oedd heb ei ddiagnosio.

31/08/23
Lansio gwasanaeth newydd i helpu lleihau nifer y marwolaethau yng Nghymru o ganlyniad i orddos cyffuriau.
30/08/23
Cleifion yn croesawu llawdriniaeth robotig yn Ysbyty Gwynedd

Gall cleifion canser y coluddyn o bob rhan o Ogledd Cymru bellach elwa ar wella'n gyflymach ar ôl llawdriniaeth, diolch i'r dechnoleg robotig ddiweddaraf.

25/08/23
Uwch Ymarferydd Nyrsio yn ennill ysgoloriaeth ymchwil chwenychedig am waith 'ysbrydoledig' yng nghanolfan feddygol Bae Colwyn

Mae Uwch Ymarferydd Nyrsio (ANP), a ddisgrifiwyd fel “ysbrydoliaeth” gan gydweithwyr, wedi ennill gwobr ysgoloriaeth genedlaethol chwenychedig ar ôl datblygu ymchwil yn ei chanolfan feddygol.

24/08/23
Llawdriniaeth achos dydd i osod clun a phen-glin newydd yn trawsnewid taith adferiad claf

Mae nyrs sy'n gofalu am oedolion ag anableddau dysgu wedi canmol y tîm yn Ysbyty Gwynedd ar ôl derbyn llawdriniaeth i osod clun newydd a newidiodd ei fywyd a'i caniataodd i fynd adref ar yr un diwrnod.

24/08/23
Merch ifanc yn cael aduniad gyda'r meddygon a achubodd ei bywy

Mae Niamh (naw oed) a'i theulu wedi cael aduniad gyda staff Ysbyty Maelor Wrecsam i ddiolch yn bersonol iddynt am achub bywyd Niamh pan wnaeth ei chalon stopio ar ôl iddi fynd yn wael iawn a gorfod cael llawdriniaeth frys.

23/08/23
Enwebiadau ar gyfer gwobrau mawreddog i dîm enghreifftiol sydd yn brwydro yn erbyn achos mwyaf marwolaethau y gellir eu hatal mewn ysbytai

Mae tîm amlddisgyblaethol enghreifftiol o staff meddygol wedi'i enwebu ar gyfer dwy wobr sy'n cydnabod eu hymrwymiad i leihau'r achos mwyaf marwolaethau y gellir eu hatal mewn ysbytai.

23/08/23
Bydd Swyddogion Amgylchedd Di-fwg cyfeillgar a thosturiol yn dod â chwa o awyr iach i ysbytai Gogledd Cymru

Bydd yr aelodau staff yn helpu i leihau ysmygu ar dir ysbytai trwy siarad â phobl sy'n ysmygu a'u hatgoffa am ein rheolau di-fwg.

15/08/23
Dathlu dysgwyr prosiect SEARCH wrth i garfan newydd YGC agor

Yn ddiweddar, cafodd interniaid Prosiect SEARCH gyfle i ddathlu eu llwyddiant gyda’u teuluoedd mewn seremoni galonogol a gynhaliwyd yng Ngholeg Llandrillo.

10/08/23
'Roedd fy ngŵr yn meddwl fy mod i'n marw' – sut gwnaeth Clinig Diagnosis Cyflym helpu nain i drechu canser

Roedd teulu nain o Ruddlan yn meddwl ei bod hi'n mynd i farw pan fu gostyngiad o 25% yn ei phwysau mewn deufis yn unig.

Fodd bynnag, cyfeiriodd ei Meddyg Teulu hi at Glinig Diagnosis Cyflym Ysbyty Glan Clwyd. Darganfu fod ganddi ganser yr arennau ac yna pennwyd ei rhaglen driniaethau o fewn naw diwrnod.

08/08/23
Llawfeddyg Ysbyty Maelor Wrecsam yn perfformio triniaeth lawfeddygol laser 'carreg boeth' gyntaf

Am y tro cyntaf yng Ngogledd Cymru, mae’r timau Wroleg a’r Theatr Llawdriniaethau wedi perfformio llawdriniaeth frys ‘poeth’ ar gyfer cerrig ar yr arennau gan ddefnyddio triniaeth lawfeddygol laser ar flaen y gad.

04/08/23
Cymorth Canser Macmillan yn buddsoddi dros £400,000 ar gyfer rolau canser y croen o fewn y Bwrdd Iechyd wrth i achosion gynyddu

Mae Cymorth Canser Macmillan wedi buddsoddi dros £400,000 ar gyfer chwe rôl canser y croen arbenigol newydd yng Ngogledd Cymru i helpu i fodloni galw cynyddol am ofal a thriniaeth.

03/08/23
Gwobr fawr am ofal canser i Ysbyty Gwynedd

Mae Ysbyty Gwynedd wedi cipio gwobr genedlaethol am eu gwaith gyda chleifion sy'n byw gyda chanser gwaed anwelladwy.

03/08/23
Nenfydau awyr las hardd i helpu i wella profiadau cleifion

Mae paneli nenfwd LED wedi cael eu gosod mewn wardiau ac adrannau ar hyd a lled Ysbyty Maelor Wrecsam i helpu i wella profiadau cleifion.