Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb y Bwrdd Iechyd: Adroddiad Archwilio Cymru

15/02/2024

Mae Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi croesawu Adroddiad Archwillio Cymru heddiw sy’n datgan, o gymharu â blwyddyn yn ôl, bod y Bwrdd mewn sefyllfa fwy cadarn a bod cydberthnasau gwaith ymysg uwch arweinwyr yn fwy positif.

Dywedodd Dyfed Edwards: “Rydw i’n croesawu’r adroddiad hwn sy’n cydnabod y cynnydd y mae’r bwrdd iechyd wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydw i’n deall yn llwyr bod llawer iawn mwy i’w wneud wrth i ni barhau ar ein taith wella er mwyn darparu gwasanaethau gofal iechyd ardderchog ar gyfer pobl gogledd Cymru.”

“Rydw i’n gweld adroddiad Archwilio Cymru yn garreg filltir i ddangos ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi gweithio i greu sefydlogrwydd a diwylliant cadarnhaol a chefnogol yn y bwrdd iechyd, gan ganolbwyntio ar ansawdd darpariaeth gwasanaeth ac estyn allan at y cleifion a’r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae gennym sylfaen gadarn i adeiladu arni, gan fod Prif Weithredwr ac Aelodau Bwrdd newydd yn eu swyddi sy’n ymrwymedig i wella ein dulliau llywodraethu, rheoli ariannol ac uwchlaw popeth, gwella ein ffocws ar ansawdd a phrofiad y cleifion a’u teuluoedd.

“Rydw i’n ddiolchgar am gefnogaeth ein partneriaid a’r Llywodraeth gyda phob un o’n hymdrechion.”

 

Nodyn i’r Golygydd:

Mae adroddiad Archwilio Cymru yn datgan bod ymchwiliadau’n ymwneud â’r afreoleidd-dra ariannol a ganfuwyd ganddynt a chan adolygiad EY yn gymhleth a bod hyn wedi cael effaith drafferthus ar y tîm cyllid. Mae nifer fach o staff o’n Hadran Gyllid wedi cael eu hatal rhag gweithio tra bo’r ymchwiliad yn parhau. Mae gan y bwrdd iechyd ddyletswydd gofal tuag at staff ac ni all wneud sylw pellach hyd nes y daw’r ymchwiliad i ben.