Mae Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Critigol, a fydd yn gyfrifol am drosglwyddo'r cleifion mwyaf difrifol wael a rhai sydd wedi'u hanafu'n fwyaf difrifol i ganolfannau arbenigol i gael triniaeth, wedi cael ei lansio yng Ngogledd Cymru.
Roedd disgyblion yn gegrwth wrth glywed straeon “Ffolant” 91 mlynedd, dawns awyrluddwr gyda’r Dywysoges Margaret a mwy fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig.
Cynhaliwyd sesiwn cwestiwn ac ateb rhwng plant ysgol gynradd o Ysgol Maes Y Felin, Treffynnon, a phobl hŷn o ward Ffynnon yn ysbyty cymuned y dref
Roedd cerflun cywrain a chlyfar a anfonwyd at ddau aelod o staff y gwasanaeth fasgwlaidd yn arwydd o fwy na dim ond achub bywyd ar gyfer cwpwl oedd wedi bod yn briod am 50 mlynedd.
Fe wnaeth y cleifion yn adran fasgwlaidd Ysbyty Glan Clwyd (gelwir hwy yn Mr a Mrs A i ddiogelu eu preifatrwydd) anfon anrheg anghyffredin a phersonol at aelodau'r tîm ar ôl llawdriniaeth a wnaeth achub bywyd yng Ngorffennaf eleni
Mae Canolfan Integredig Dementia ac Iechyd Meddwl Oedolion newydd wedi agor yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn datblygu cynigion i adeiladu cartref gofal o’r radd flaenaf i bobl hyn yn y Fflint, gan weithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae nyrs theatr orthopaedig a grïodd pan gafodd ei secondio i uned gofal critigol pan oedd y pandemig yn ei anterth bellach o'r farn mai "ffawd' oedd symud yno.
Roedd Hayley Baldwin wedi gweithio fel nyrs theatr yn uned orthopaedig Abergele am 11 mlynedd pan arweiniodd Covid at orfod cau'r uned dros dro y llynedd
MAE GWEITHWYR GOFAL IECHYD AR Y RHENG FLAEN wedi galw ar bobl ledled Gogledd Cymru i amddiffyn eu hunain a'r rhai sy'n annwyl iddynt drwy gael y brechlyn ffliw y gaeaf hwn
Mae cydlynydd gweithgareddau ar gyfer cleifion wedi derbyn gwobr efydd ac arian am ei hymdrechion ychwanegol fel Pencampwr Profiad y Claf.
Gyda thristwch mawr gwnaethom ddysgu am farwolaeth sydyn Dr Andy Fowell dros y penwythnos.
Mae llawfeddyg yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael gwobr arbennig am ddefnyddio technoleg arloesol i wella gofal cleifion.
Lleoliad gwaith offthalmoleg “ysbrydolgar” myfyrwraig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd y catalydd ar gyfer tri enwebiad yn seremoni wobrwyo rhai o wobrau pwysicaf nyrsio.
Mae teuluoedd rhoddwyr organau a staff y GIG wedi cyfranogi mewn taith gerdded emosiynol i fyny’r Wyddfa i gofio am anwyliaid ac i godi ymwybyddiaeth hanfodol ar gyfer y sawl sy’n dal i ddisgwyl am roddwr.
Mae staff a chleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar draws Gogledd Cymru yn cefnogi treial newydd i helpu i werthuso prawf datgelu aml-ganserau newydd.
Mae grŵp o feddygon yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael gwobr am wella mynediad at ddulliau atal-cenhedlu ar ôl geni yn ystod pandemig COVID-19.
Bydd canolfan frechu newydd yn agor ym Mangor yr wythnos hon i gyd-fynd â cham nesaf y rhaglen frechu.
Mae nyrs sydd wedi cael profiad uniongyrchol o effaith dorcalonnus COVID-19 wedi dod yr unigolyn cyntaf yng Nghymru ac yn un o'r rhai cyntaf yn y DU i dderbyn brechlyn atgyfnerthu.
Mae meddyg o Ysbyty Gwynedd wedi derbyn gwobr arbennig am ei gyfraniad at dreial ymchwil cenedlaethol allweddol yn ystod y pandemig.
I nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar y 10fed o Fedi, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi creu neges o gefnogaeth ar gyfer pobl yng Ngogledd Cymru:
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nawr yn cynnig brechiadau COVID-19 i blant a phobl ifanc 12-15 oed gyda chyflyrau iechyd isorweddol a phlant a phobl ifanc 12 i 17 oed sy’n byw gydag oedolion â system imiwnedd gwan.