Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan frechu newydd yn agor ym Mangor

Bydd canolfan frechu newydd yn agor ym Mangor yr wythnos hon i gyd-fynd â cham nesaf y rhaglen frechu. 

Bydd y safle newydd, sy’n disodli Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant ym Mangor, yn agor ar 22 Medi a bydd wedi’i leoli ar Ffordd Ffriddoedd, ar dir campws Grŵp Llandrillo Menai.

Rhoddwyd dros 16,000 o frechlynnau yn Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant ers ei hagor ar ddechrau mis Gorffennaf.

Dywedodd Anwen Last, Arweinydd Prosiect Brechu Covid: "Hoffem ddiolch yn fawr i'r Gadeirlan am ganiatáu i ni ddefnyddio'r gofod i roi brechlynnau i'r rheiny yn ein cymuned dros y misoedd diwethaf. 

"Bellach, rydym yn edrych ymlaen at symud i'n lleoliad newydd ar Ffordd Ffriddoedd a hoffem ddiolch i Grŵp Llandrillo Menai am eu cefnogaeth yn hyn ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda nhw yn y ganolfan frechu newydd.

"Mae hwn yn gyfleuster penigamp a fydd yn caniatáu i ni barhau i gyflwyno'r rhaglen frechu a rhoi'r cyfle gorau posibl i ni gadw pawb yn iach."

Dywed y Canon Tracey Jones o Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant ei bod wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o’r rhaglen frechu.

Dywedodd: "Mae'r Gadeirlan hon, yng nghanol Bangor i bawb, a braint oedd cynnal y ganolfan frechu dros fisoedd yr haf.

"Rydym yn hynod falch ein bod ni wedi gallu croesawu rhai sydd wedi dod i gael eu brechu, ac mae proffesiynoldeb ac ymroddiad staff a gwirfoddolwyr y GIG wedi creu cymaint o argraff arnom."

Mae arweinwyr Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn yn parhau i annog preswylwyr i ddod i gael eu pigiadau i gael eu hamddiffyn rhag y firws.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi: "Mae sicrhau eich bod yn cael eich brechu'n llawn yn un o'r mathau gorau o amddiffyniad rhag y Coronafeirws. Mae nifer y trigolion sydd wedi eu brechu yn Ynys Môn wedi bod yn ardderchog a bydd y ganolfan frechu newydd hon ar Ffordd Ffriddoedd yn helpu i gynnal y momentwm; yn enwedig wrth gyflwyno'r brechlyn atgyfnerthu a brechu plant 12-15 mlwydd oed hefyd ar y gweill."

"Hoffwn ddiolch i Betsi Cadwaladr, Grŵp Llandrillo Menai, staff y Cyngor a'r holl bartneriaid am eu hymdrechion parhaus yn ystod cyfnod mor heriol."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: "Dyma gam pwysig arall yn yr ymdrechion i gyflwyno'r brechlyn i fwy o drigolion Gwynedd. Cael ein brechu'n llawn yw'r cam pwysicaf y gallwn ei gymryd i helpu i reoli lledaeniad Covid-19 ac i amddiffyn ein hunain a'n teuluoedd.

"Rydym yn gwybod bod nifer o bobl o hyd a allai gael eu brechu nad ydynt wedi cael y brechlyn eto. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu - felly os nad ydych wedi cael y pigiad eto, cymerwch y cam pwysig hwn i amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid a chael eich brechu."