Neidio i'r prif gynnwy

Y Bwrdd Iechyd i gynnal digwyddiad recriwtio brechiadau COVID-19 i gefnogi rhaglen frechiadau atgyfnerthu'r hydref

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn recriwtio staff brechu ychwanegol yn barod ar gyfer y rhaglen atgyfnerthu COVID-19, a ddechreuodd yn gynharach fis yma.

Mae gan y Bwrdd Iechyd yng Ngogledd Cymru nifer o gyfleoedd ar gael ar gyfer brechwyr a gweinyddwyr brechu i weithio mewn clinigau ar draws y rhanbarth ar sail tymor penodol hyd nes diwedd Mawrth 2022.  

Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i ymuno â digwyddiad e-recriwtio’r bwrdd iechyd, a gynhelir am 10am ddydd Llun 27 Medi dros Microsoft Teams.

Bydd y digwyddiad rhithwir yn rhoi cyfle i chi siarad â’r staff sy’n gysylltiedig â’r rhaglen a dod i wybod sut brofiad ydyw i weithio yng nghanolfannau brechu.

Yn dilyn y digwyddiad, bydd y rhai sy’n mynychu yn cael eu gwahodd i ymgeisio ar-lein, gyda chyfweliadau yn cael eu cynnal yr wythnos ganlynol.  Bydd proses recriwtio carlam yn sicrhau y gall staff newydd gael eu hadleoli’n gyflym.  

Mae Gill Knight wedi gweithio fel brechwr COVID-19 ers mis Rhagfyr 2020. Meddai: “Mae gweithio ar y rhaglen frechu COVID-19 yn wobrwyol iawn ac rydym yn falch iawn o’r rôl yr ydym ni wedi’i chwarae i droi’r llanw ar y pandemig.

“Dyma’r rhaglen frechu fwyaf yn hanes y GIG ac mae wedi cymryd ymdrech tîm mawr i frechu gymaint o bobl, mor gyflym.

“Os ydych yn chwilio am sialens newydd, gweithio mewn rôl wobrwyol a gwerth chweil, yna byddwn yn argymell ymuno â’n timau brechu.”

Mae’r Cyd-bwyllgor Brechiadau ac Imiwneiddiadau (JCVI) wedi cynghori y dylai dos atgyfnerthol o’r brechlyn COVID-19 gael ei roi i’r rhai mwyaf bregus, gan fod tebygolrwydd y bydd yr imiwnedd a ddarperir o gael dau ddos yn gostwng dros amser.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad e-recriwtio brechu, cliciwch ar y ddolen isod, a llenwch eich manylion.  Bydd nodyn atgoffa a dolen i gael mynediad at y digwyddiad ar Microsoft Teams yn cael eu hanfon yn agosach at yr amser.

https://outlook.office365.com/owa/calendar/MassVaccinationCentreRecruitmentDay@nhswales365.onmicrosoft.com/bookings/