Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau COVID-19 yn lleddfu pryderon plant gyda chyflyrau iechyd isorweddol a'r rhai sy'n byw gydag oedolion â system imiwnedd gwan

09/09/2021

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nawr yn cynnig brechiadau COVID-19 i blant a phobl ifanc 12-15 oed gyda chyflyrau iechyd isorweddol a phlant a phobl ifanc 12 i 17 oed sy’n byw gydag oedolion â system imiwnedd gwan.

Yn unol â chyngor gan y Cyd-bwyllgor Brechiadau ac Imiwneiddiadau (JCVI), mae’r Bwrdd Iechyd yn anfon gwahoddiadau am apwyntiadau i blant 12 i 15 oed sydd â risg uwch o fod yn ddifrifol wael gyda COVID-19. Mae hyn yn cynnwys plant gyda niwroanableddau difrifol, syndrom Down, system imiwnedd gwan neu anableddau dysgu difrifol. Bydd yr apwyntiadau hyn trwy wahoddiad yn unig ac ni ellir eu trefnu ar lein ac nid ydynt ar gael yn y sesiynau galw heibio.

Mynychodd James, 12, o’r Fflint am ei frechiad yng Nghanolfan Frechu Torfol Glannau Dyfrdwy gyda’i dad, Liam.

Meddai Liam: “Mae James yn ei gael i amddiffyn ei iechyd, gostwng y risg o gael covid hir, a gan ein bod wedi bod yn cael ein gwarchod, meddyliom mai dyma’r peth gorau iddo. Rwy’n credu y bydd y brechiad yn rhoi mwy o hyder iddo ryngweithio gyda’i ffrindiau. Roedd yn ei flwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd, a chyda’r plant yn cael eu gwahanu ac mewn bybls, ‘tydi o ddim wedi gallu cymysgu, felly bydd hyn yn ei helpu i gael rhyddid i wneud hynny a theimlo’n well am y peth. Mae ganddo ychydig o bryderon ynghylch y brechiad, ond mae o’n ddewr ac rydw i’n falch iawn ohono.”

Mae plant a phobl ifanc 12 i 17 oed sy’n byw gydag oedolyn â system imiwnedd gwan hefyd yn gymwys i gael eu dos cyntaf.  Gall rhiant/gwarcheidwad hunan-ddynodi plant 12-15 oed sy’n byw gydag oedolyn â system imiwnedd gwan gan ddefnyddio ffurflen ar wefan Llywodraeth Cymru 

Gall pobl ifanc 16-17 oed sy’n byw gydag oedolyn â system imiwnedd gwan drefnu apwyntiad yn uniongyrchol gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu apwyntiadau ar lein neu fynychu un o’n sesiynau galw heibio.   

Derbyniodd Tesni, 12, ei brechiad yr wythnos diwethaf gyda chefnogaeth ei mam Heledd.  Meddai: “Mae Tesni yn cael y brechiad o gysur i ni.  Fe wnaethom drefnu ar lein i Tesni gael y brechlyn gan ei bod yn gymwys i’w gael, fe wnaethon ni lenwi’r ffurflen ar wefan y llywodraeth, a chael apwyntiad a oedd yn hawdd ei wneud.” 

Mynychodd Ryan, 13, am ei frechiad gyda’i fam Colleen, sydd wedi cael trawsblaniad aren ac sydd â system imiwnedd gwan.  

Meddai Colleen, o Wrecsam: “Ffoniodd fy Meddyg Teulu a dweud bod ffurflen hunan gyfeirio ar gael ar lein, felly gofynnais i Ryan a oedd o’n awyddus i gael ei frechu, ac fe roedd, felly fe wnaethon ni drefnu apwyntiad.  Mae o wedi bod yn eithaf pryderus ynghylch COVID-19, a gobeithio y bydd hyn yn lleddfu rhywfaint ar y pryderon hyn nawr.  Gan ei fod yn mynychu ysgol anghenion addysgol arbennig, maen nhw’n eithaf llym o ran pellter cymdeithasol, ac felly gobeithio y bydd nifer o’r plant yn cael eu brechiad a fydd yn helpu Ryan i deimlo’n well hefyd.” 

Am fwy o wybodaeth ewch i adran Cwestiynau Cyffredin Brechlyn COVID-19 ar wefan y Bwrdd Iechyd.