Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarthiadau natur sy'n helpu cleifion i fod â chysylltiad â'r awyr agored yn derbyn cyllid y Loteri Fawr

Mae dosbarthiadau gyda’r thema natur sy’n helpu cleifion ysbyty cymuned i fod â chysylltiad â’r byd tu allan wedi derbyn Cyllid Cymunedol y Loteri Fawr oherwydd ei lwyddiant.

Mae’r sesiynau, a elwir yn Grow4it, yn annog lles seicolegol a chyswllt cymdeithasol trwy weithgareddau natur rhyngweithiol gan gynnwys astudiaeth o anifeiliaid a gemau a chwisiau gyda thema natur.

Roedd Isa Lamb, sy’n rhedeg y sesiynau fel rhan o’i menter gymdeithasol King’s Garden, yn cyflwyno sesiynau yn Ysbyty Cymuned Dinbych ac Ysbyty Cymuned Treffynnon nes gorfododd y pandemig i’r sesiynau ddod i ben mis Mawrth y llynedd.

Trwy weithredu mesurau atal heintiau llym gan gynnwys pellhau cymdeithasol, diheintio deunyddiau’r sesiwn a chadw cleifion yn ddiogel mewn grwpiau bach, roedd Isa yn gallu ailddechrau’r sesiynau astudiaethau natur yn Ysbyty Cymuned Treffynnon ym mis Medi 2020.

Meddai Isa: “Yn ystod y pandemig, profodd y prosiect i fod yn werthfawr iawn i gleifion gan fod Grow4it wedi eu helpu i gadw cysylltiad gyda’r byd y tu allan i’w ffenestr. Cwblhawyd y rownd o gyllid ar gyfer sesiynau yn Ysbyty Cymuned Treffynnon ym mis Mehefin 2021, ond mae’r sesiynau wedi parhau gyda chefnogaeth ‘Good Companions’, grŵp cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr.

“Mae Ward Ffynnon wedi cynnwys y sesiynau yn eu rhaglen adferiad a nawr mae’n ddigwyddiad wythnosol poblogaidd.”

Bydd Cyllid Cymunedol y Loteri Fawr yn cefnogi Grow4it i gael ei gyflwyno yn Ysbyty Cymuned Bae Colwyn am flwyddyn, tra’n datblygu elfen rhithwir ychwanegol ar gyfer Treffynnon a Bae Colwyn.

Bydd Isa yn gweithio gyda gweithwyr cefnogi dementia a chleifion yn y ddau ysbyty cymuned i ddylunio a chreu eu sesiynau rhithwir eu hunain, i gleifion gael mynediad atynt wrth erchwyn eu gwely unrhyw bryd.

Gall sesiynau helpu i leihau diflastod ymysg cleifion, mae’n hyrwyddo lles a chymdeithasu, yn ogystal â helpu i symbylu diddordeb, gweithgaredd a sgwrs, ac mae’n tynnu sylw oddi ar boen corfforol a seicolegol.

Ychwanegodd Isa: “Ni fydd raid i’r un claf fethu allan a gellir defnyddio’r sesiynau rhithwir unrhyw bryd, ddydd a nos. Gobeithir y bydd y sesiynau rhithwir yn ychwanegu at hir oes y sesiynau wyneb yn wyneb ac ymestyn ei gyrhaeddiad a’i fuddion. Y budd therapiwtig yr ydw i’n cefnogi cleifion i gysylltu ag o, ac mae ymgysylltiad y cleifion yn llifo drosodd i’r staff.”

Mae’r sesiynau yn rhoi cyfle ar gyfer therapi mewn gosodiad llai ffurfiol, gan annog ymarfer gwybyddol a sgwrs rhwng cyfranogwyr.

Meddai Rebecca McConnell, Prif Nyrs Ward yn Ysbyty Cymuned Treffynnon: “Mae’r sesiynau wedi cael eu croesawu gan ein cleifion. Rydym wedi gorfod bod yn ofalus a llym iawn gyda’n mesurau atal heintiau ers gwanwyn diwethaf, sydd wedi cynnwys cyfyngiadau i ymweliadau.

“Mae’r sesiynau hyn yn bwysig iawn i helpu cleifion i ymdopi gyda’r amser maen nhw’n ei dreulio yn yr ysbyty ac i hyrwyddo’r teimlad o normalrwydd ac ymgysylltiad ar amser pan rydym ni’n llai cysylltiedig nag erioed o’r blaen.”

Mae Isa wedi bod yn cynnal sesiynau blasu yn Ysbyty Cymuned Bae Colwyn, ac meddai Elizabeth Anderson, Gweithiwr Cefnogi Dementia: “Mae cleifion yn gadael wedi’u hysbrydoli ac yn awyddus i ddweud wrth eu cyd-gleifion ar y ward beth maen nhw wedi’i ddysgu. Mae bod yn yr ysbyty yn golygu fod gan gleifion hŷn fynediad cyfyngedig at yr awyr agored, ac mae llawer o’r cleifion hyn wrth eu boddau yn eu gerddi ac yn cofleidio bod y tu allan. Mae’n anodd disgrifio eu hwynebau a gymaint y maen nhw’n mwynhau'r sesiynau hyn.

“Mae ein cleifion mor frwdfrydig i fynychu fel bod rhaid dweud wrth rai na allent fynychu oherwydd eu poblogrwydd, felly wrth ddarparu’r sesiynau yn rhithwir, ni fyddai angen iddynt fethu allan, a byddai’n bosibl eu defnyddio ar gyfer cleifion sydd ddim yn gallu codi o’r gwely.”