Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys Ymgynghorol sydd newydd eu recriwtio yn ceisio helpu'r bwrdd Iechyd i ddarparu safon aur mewn gofal dementia

Mae dwy Nyrs Ymgynghorol Dementia sydd wedi’u recriwtio’n ddiweddar wedi amlinellu sut maent yn gobeithio helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu safon aur mewn gofal dementia.

Mae Amy Kerti a Dr Tracey Williamson, a benodwyd i’r swydd yn gynharach y mis hwn, yn dweud eu bod yn edrych ymlaen at weithio gyda staff y GIG, partneriaid allanol, pobl â dementia a’u teuluoedd i adeiladu ar y gwelliannau diweddar i ofal dementia ar draws y rhanbarth.

Mae’r Bwrdd Iechyd ar gyfer Gogledd Cymru wedi recriwtio’r ddwy yma sy’n brofiadol fel rhan o’i ymdrechion parhaus i sicrhau fod pobl â dementia a’u teuluoedd yn cael y gofal gorau posibl sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Yn flaenorol mae Amy wedi datblygu gwasanaeth cenedlaethol i bobl ifanc sy’n byw â dementia a’u teuluoedd. Fel nyrs iechyd meddwl, mae ganddi brofiad amrywiol mewn gofal dementia ac mae wedi datblygu dau wasanaeth Nyrsys Admiral pellach mewn gofal cymdeithasol ac ar draws darparwr gofal iechyd mawr. 

Yn flaenorol, roedd Tracey yn gweithio yn y Gymdeithas ar gyfer Astudiaethau Dementia ym Mhrifysgol Worcester fel Athro Gofal Teulu mewn Dementia, wedi’i ariannu’n rhannol gan yr elusen Dementia Carers Count.

Fel Nyrs Gyffredinol Gofrestredig, mae cefndir Tracey mewn nyrsio oedolion hŷn, gan weithio’n bennaf mewn lleoliad ysbyty llym, er hynny mae ganddi brofiad blaenorol o weithio fel Nyrs Ymgynghorol mewn Gofal Canolradd a Phobl Hŷn.

Bydd y ddwy rôl yn gwasanaethu ar gyfer Gogledd Cymru gyfan, gyda phwyslais ar Gyfarwyddiaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu’r Bwrdd Iechyd a gwasanaethau pobl hŷn.

Dywedodd Amy: “Mae’r ddwy ohonom yn edrych ymlaen at ddechrau yn y rôl hon a gweithio gyda phobl â dementia, teuluoedd a staff ar draws BIPBC. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i bobl sy’n byw â dementia, yn enwedig gan mai dementia yw’r cyflwr mwyaf oedd yn bodoli’n barod i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan Covid-19 ar draws Cymru a Lloegr.

“Hefyd, mae pobl â dementia yn aml wedi’u hynysu’n gymdeithasol a’u harwahanu oddi wrth eu teuluoedd. Rydym yn cydnabod bod hyn wedi bod yn anodd iawn i’r staff sy’n darparu’r gofal hwn sydd wedi cael eu hanawsterau personol eu hunain mewn ymateb i’r pandemig. Rydym yn bwriadu gweithio gyda staff, pobl â dementia a theuluoedd i adeiladu ar arfer da, dynodi gwersi a ddysgwyd o’r pandemig, grymuso staff a chofleidio dull sy’n canolbwyntio’n llawn ar yr unigolyn ac sy’n canolbwyntio ar berthnasau i ofalu am bobl â dementia a’u teuluoedd, fel bod BIPBC yn dod yn safon aur ar gyfer gofal dementia.”

Ychwanegodd Tracey: “Rwy’n awyddus iawn i ddynodi arfer dementia da, p’un ai ar raddfa fach neu fawr, a chydnabod y staff, gwirfoddolwyr ac eraill sy’n ei gyflawni. Yna gellir rhannu syniadau ac arfer da ag eraill i wneud y profiad o ofal dementia yn BIPBC y gorau y gallai fod.

“I ddechrau, byddwn yn gwneud llawer o wrando i weld beth sydd wedi’i wneud o’r blaen yn BIPBC cyn cytuno ar y ffordd ymlaen. Rydym yn gobeithio y bydd staff, partneriaid allanol, gofalwyr teuluol a chleifion yn dysgu’n sydyn bod ein dull yn un dilys, sy’n cynnwys pobl, yn gwerthfawrogi ac yn gwella.

“Rydym yn cynllunio ffyrdd i fod yn hygyrch fel y gall unrhyw un gysylltu â ni gyda syniadau, arferion da i’w rhannu neu unrhyw bryderon, a byddwn yn chwilio am ffyrdd i ymgysylltu pobl wrth gynllunio a darparu cefnogaeth a gofal gwell i’r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio gan ddementia.”

Gallwch gysylltu ag Amy Kerti neu Tracey.Williamson.

Gellir dod o hyd i gyfrif Twitter pwrpasol dementia nurses.