Neidio i'r prif gynnwy

Taith Gerdded i fyny'r Wyddfa i nodi Wythnos Rhoi Organau

Mae teuluoedd rhoddwyr organau a staff y GIG wedi cyfranogi mewn taith gerdded emosiynol i fyny’r Wyddfa i gofio am anwyliaid ac i godi ymwybyddiaeth hanfodol ar gyfer y sawl sy’n dal i ddisgwyl am roddwr.

Eleni, i nodi Wythnos Rhoi Organau, digwyddiad sy’n para wythnos i ddathlu rhoi organau ledled y DU, fe wnaeth Nyrsys Arbenigol Rhoi Organau y Bwrdd Iechyd drefnu taith gerdded arbennig i fyny mynydd uchaf Cymru.

Fe wnaeth nifer o staff y GIG a theuluoedd rhoddwyr organau ymuno yn y daith gerdded a drefnwyd gan dri Nyrs Arbenigol Rhoi Organau Gogledd Cymru, sef Abi Roberts, Phil Jones a Helen Bullock.

Wrth i’r grŵp gyrraedd y copa, fe wnaethant nodi’r foment emosiynol trwy ddal lluniau o anwyliaid ac unigolion a roddodd rodd o fywyd i weddnewid bywydau pobl eraill.

Un o’r unigolion yn y lluniau oedd Joanne Williams, o Fae Colwyn, oedd yn ddim ond 40 mlwydd oed pan hunodd yn drist iawn yn dilyn damwain beic modur yn 2015.  

Dywedodd ei llysfam, Shirley Williams: “Dydd Sul y Pasg 2015 oedd hi, ac roedd yn ddiwrnod hyfryd. Daeth Joanne a’i chariad i’n gweld ni a dweud eu bod yn mynd i reidio beiciau modur i Fetws-y-Coed.

“Nid oeddem ni wedi clywed ganddynt erbyn yn hwyr yn y prynhawn, ond yna, cawsom ni alwad yn gofyn i ni fynd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, oherwydd roedd damwain wedi digwydd.

“Yn anffodus, bu farw ei chariad yn y fan a’r lle ond roedd ar Joanne angen llawdriniaeth.

“Pan gawsom ni gyfle o’r diwedd i fynd i weld Joanne, roedd hi ar beiriant cynnal bywyd yn yr Uned Gofal Dwys.”

Yn anffodus, ni wnaeth Joanne fyth adennill ymwybyddiaeth, oherwydd roedd ei hanafiadau hi mor ddifrifol. Yn ystod y cyfnod yn yr ysbyty, daeth Abi Roberts, Nyrs Arbenigol Rhoi Organau, at Shirley ac Alan, tad Joanne, a gofyn iddynt a oeddent wedi ystyried rhoi organau.

“Pan ofynnwyd i ni am roi organau, roedd yn benderfyniad hawdd iawn ei wneud. Rydym ni’n dau yn credu’n gryf mewn rhoi organau ac roeddem ni wedi trafod y pwnc yn flaenorol â Joanne ac roedd hithau’n credu’n gryf yn hynny hefyd.

“Roedd Joanne yn eneth afieithus, glyfar a hwyliog iawn oedd â chwerthiniad heintus, a byddai ei chariad at fywyd yn goleuo unrhyw ystafell.

“Er ei bod hi’n drychineb enfawr i ni, roeddem ni’n falch fod rhywbeth da wedi deillio o hyn a bod bywydau wedi’u hachub oherwydd Joanne.

“Roedd hi’n hyfryd gweld un o’r nyrsys yn dal llun o Joanne ar ben yr Wyddfa, teyrnged fendigedig i bawb sydd wedi rhoi rhodd o fywyd,” ychwanegodd Shirley.

Mae Abi y Nyrs Arbenigol, a’i chydweithwyr Phil a Helen, yn dymuno diolch i bawb a gyfranogodd yn y daith gerdded i helpu i godi ymwybyddiaeth o roi organau.

Dywedodd Abi: “Roeddem ni wrth ein bodd fod cymaint o bobl a theuluoedd rhoddwyr organau wedi dymuno ymuno â ni i nodi’r wythnos arbennig hon.

“Ar waethaf y tywydd, fe wnaethom ni gyrraedd y copa ac roedd gweld aelodau teuluoedd rhoddwyr organau yn treulio ennyd arbennig yn cofio’u hanwyliaid yn brofiad emosiynol iawn.

“Y brif neges rydyn ni’n dymuno’i chyfleu yr wythnos hon yw pa mor bwysig yw siarad ag aelodau eich teulu am roi organau.

“Mae’n bwysig iawn i deuluoedd wybod dymuniadau eu hanwyliaid fel y bydd ganddynt y sicrwydd i ategu eu penderfyniad ar adeg mor anodd.

“Mae rhoi organau yn benderfyniad personol iawn, ni all fyth leihau galar teuluoedd sydd mewn profedigaeth, ond dywed llawer o deuluoedd, megis teulu Joanne, fod gwybod fod eu perthynas wedi helpu i achub a gweddnewid bywydau pobl eraill yn cynnig rhywfaint o gysur iddynt.”

I gael rhagor o wybodaeth am roi organau ac i gofrestru eich penderfyniad, trowch at www.organdonationwales.org