Neidio i'r prif gynnwy

"Ni fu erioed mor bwysig" - nyrsys yn annog pobl i gael eu brechlyn ffliw y gaeaf hwn

MAE GWEITHWYR GOFAL IECHYD AR Y RHENG FLAEN wedi galw ar bobl ledled Gogledd Cymru i amddiffyn eu hunain a'r rhai sy'n annwyl iddynt drwy gael y brechlyn ffliw y gaeaf hwn. 

Mae nyrsys o bob rhan o ardal Betsi Cadwaladr wedi dod ynghyd i annog y boblogaeth i dderbyn y cynnig o gael eu brechu - i gadw eu hunain, eu teuluoedd a'u cymunedau yn ddiogel.

Gall firws y ffliw fod yn angheuol ac yn nodweddiadol mae'n arwain at ddwsinau o dderbyniadau i unedau gofal critigol ledled Gogledd Cymru bob blwyddyn.

Bydd degau o filoedd o bobl 50 mlwydd oed a hŷn yn cael eu galw am frechlyn ffliw am ddim o ddechrau ymgyrch eleni am y tro cyntaf. Mae grwpiau blaenoriaeth eraill yn cynnwys plant dwy a thair blwydd oed, gweithwyr iechyd a gofal, ac unrhyw un sydd â chyflwr iechyd tanategol.

 

Amddiffyn 

Mae'r nyrs anadlol arbenigol Linda Tadgell wedi brechu miloedd rhag y ffliw dros y bum mlynedd diwethaf yn ei rôl yn brechu staff rhag y ffliw yn y bwrdd iechyd.

Llynedd, derbyniodd wobr genedlaethol am ei rôl yn brechu ei chydweithwyr yn Ysbyty Glan Clwyd.  

Dywedodd: "Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael eich brechlyn ffliw eleni, oherwydd bydd yn helpu i'ch amddiffyn chi a'r bobl sy'n bwysig i chi - y rhai sy'n annwyl i chi, teulu a ffrindiau, a pherthnasau sy'n agored i niwed neu a allai fod ar y rhestr warchod.

"Mae cael pigiad y ffliw yn hawdd - mae'n cymryd pum munud, mae am ddim i bobl mewn grwpiau targed, ac mae'n lleihau'r risg o salwch difrifol."

Ategwyd ei neges gan Katherine White, Nyrs Arbenigol Rheoli Meddyginiaethau yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

"Gall ffliw ledaenu'n hawdd iawn. Gallwn wneud ein rhan i amddiffyn ein hunain trwy olchi ein dwylo yn rheolaidd, a thrwy disian a pheswch i mewn i hancesi a sicrhau eu bod yn cael eu rhoi yn y bin sbwriel,” meddai.

"Eleni yn fwy nag erioed, oherwydd COVID, mae mor bwysig bod pobl yn gwneud yr hyn a allant i amddiffyn eu hunain ac eraill - a thrwy gael y brechlyn ffliw gallwn amddiffyn y bobl hynny sy'n fwy agored i niwed."

 

Ddiweddaru

Mae'r dadansoddwr ymddygiad, Tony Green, yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Anghenion Cymhleth yn Bryn Y Neuadd yn Llanfairfechan.

Dywedodd: "Os ydych chi'n dal y ffliw yna fe allech chi fynd adref, efallai ei roi i'ch teulu, eich plant, neu berthnasau oedrannus yn arbennig a allai fod yn llawer mwy agored i niwed, ac unrhyw un sydd ag unrhyw gymhlethdodau iechyd tanategol.

"Mae'r ffliw yn gyflwr difrifol, gyda chanlyniadau difrifol.  Fel y gwyddom, mae'r ffliw yn newid bob blwyddyn - felly mae'n bwysig cael eich pigiad yn flynyddol i ddiweddaru'r amddiffyniad hwnnw."

Mae Nyrs Endosgopi dan Hyfforddiant, Sandra Ewing, yn gwirfoddoli i frechu ei chydweithwyr yn Ysbyty Gwynedd rhag y ffliw.

"Rydym eisiau i bobl fod yn iach ac rydym eisiau i'n staff fod yn iach," dywedodd.  "Rydym eisiau gostwng yr effaith ar ofal critigol a gostwng y pwysau ar welyau ysbyty.

"Fy nghyngor i fyddai nid yn unig meddwl amdanoch chi'ch hun, ond meddwl am yr amddiffyniad rydych chi'n ei roi i eraill hefyd. Mae'n bwysig iawn - ni fu erioed mor bwysig."

 

Gwahoddiadau

Dylai pobl mewn grwpiau blaenoriaeth o ran eu brechu gadw llygad am wahoddiadau i dderbyn eu brechiad ffliw o'u meddygfa, neu fynd i un o'r dwsinau o fferyllfeydd cymunedol sy'n rhoi brechlynnau ffliw ledled Gogledd Cymru y gaeaf hwn. 

Bydd plant ysgol yn derbyn eu brechlyn ffliw trwy chwistrell drwynol yn eu hysgol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Betsi Cadwaladr, Teresa Owen, fod y GIG yng Ngogledd Cymru unwaith eto'n wynebu'r posibilrwydd o aeaf hynod o brysur, gyda choronafeirws yn cylchredeg yn eang yn y gymuned.

"Oherwydd ymgyrch brechu rhag y ffliw llwyddiannus a mesurau i reoli lledaeniad COVID-19, prin iawn oedd yr achosion o ffliw yng Ngogledd Cymru y gaeaf diwethaf," meddai.

Ond, wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio dros y misoedd diwethaf, mae risg wirioneddol o'r ffliw y gaeaf hwn. Gyda mwy ohonom yn crwydro a chymdeithasu, mae gan firws y ffliw mwy o gyfle i ledaenu.

"Os ydych yn bodloni'r meini prawf, y peth gorau y gallwch ei wneud i aros yn iach y gaeaf hwn yw sicrhau eich bod yn cael eich brechlyn ffliw a'ch pigiad atgyfnerthu COVID. Bydd hyn yn rhoi'r amddiffyniad gorau posibl i chi a'r rhai sy'n annwyl i chi yn erbyn y ddau firws, yn helpu i arafu eu lledaeniad, ac yn helpu i amddiffyn y GIG."

Am fwy o wybodaeth am frechlyn y ffliw cliciwch yma.