Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Nyrsio Ardal Gogledd Meirionnydd yn derbyn dyfarniad cyllid er mwyn sefydlu prosiect arloesol i wella gofal yn eu cymuned

1 Medi 2020

Mae Nyrsys Ardal sy'n gweithio yng Ngogledd Meirionnydd yng Ngwynedd wedi derbyn dyfarniad cyllid gan Sefydliad Nyrsio'r Frenhines er mwyn gwella gofal cymhleth yn eu cymuned.

Mae'r Tîm Nyrsio Ardal yn y Gorllewin yn rhoi cymorth i dros 4,280 o gleifion sy'n gaeth i'w cartrefi ar draws Gwynedd a Môn.

Mae eu prosiect, sef Un Pwynt Mynediad Nyrsio Ardal, wedi derbyn £5,000 o gyllid a bydd yn helpu'r tîm i sefydlu gwasanaeth di-dor, mwy trefnus ac sy'n canolbwyntio ar unigolion yn agos i'r cartref.

Bydd y prosiect yn helpu i atal cleifion sydd ag anghenion cymhleth rhag gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty am gyflyrau y gellir eu rheoli yn y gymuned os oes mynediad at y bobl gywir ar yr adeg gywir.

Dywedodd Llio Griffiths, Deilydd Achosion Nyrs Ardal Gogledd Meirionnydd: "Gan fod y galw i ofalu am gleifion cymhleth yn cynyddu a chan fod adnoddau'n brin, mae angen gwasanaeth sy'n fwy di-dor er mwyn galluogi unigolion i fyw eu bywyd fel y maent yn awyddus i'w fyw gyda gwasanaeth trefnus yn agosach i'r cartref.

"Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i Sefydliad Nyrsio'r Frenhines am ddyfarnu'r cyllid hwn i ni. Bydd yn caniatáu i ni brynu ffonau clyfar ar gyfer aelodau'r tîm a staff allweddol fel Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion er mwyn treialu ap negeseuon diogel a fydd yn ein helpu i wella cyfathrebu, a fydd yn ei dro yn gwella mynediad at aelodau'r Tîm Adnoddau Cymunedol (CRT) i reoli achosion cymhleth yn rhagweithiol yn ein cymuned."

Mae hwb wedi'i sefydlu erbyn hyn ac mae wedi'i staffio gan Nyrs Ardal rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac mae'n blaenoriaethu ac yn cydlynu gofal a phryderon pob unigolyn gan alw ar gymorth arbenigol gan gydweithwyr ym maes Gofal Cymunedol, Gofal Eilaidd a Gofal Cychwynnol os oes angen.

"Gan fod y gwasanaeth wedi'i staffio gan Nyrs Ardal, sy'n adnabod y cleifion cymhleth, yr ardal a'r gwasanaethau a'r adnoddau sydd ar gael yn y gymuned, bydd yn gallu manteisio ar gymorth arbenigol yn ôl yr angen ar draws taith gyfan y claf trwy ddarparu gwybodaeth yn gyflym ac yn effeithiol i bawb sydd ei hangen," ychwanegodd Llio.

Dywed Angharad Jones, Nyrs Ardal, fod rheoli cleifion cymhleth yn y gymuned yn ystod y pandemig COVID wedi dod yn fwy heriol ac y bydd y cyllid maent wedi'i dderbyn yn helpu i wella'r gofal a gynigir i gleifion.

Dywedodd: "Mae ein prosiect yn arloesol gan mai hwn yw'r cyntaf o'i fath yng Ngogledd-orllewin Cymru.

"Bydd y prosiect yn rhoi cydnabyddiaeth i'r nyrsys ardal, ac yn gwella ac yn datblygu'r broses hollbwysig o gydlynu cleifion sydd ag anghenion cymhleth a fydd yn ei dro o fudd mawr i gleifion sydd ag anghenion cymhleth, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn ein cymuned.

"Rydym yn wynebu un o'r adegau mwyaf heriol o'n bywydau ar hyn o bryd gyda newidiadau cyson i'r ffordd rydym yn gweithio.

"Mae'r galw am ein gwasanaeth yn uwch nag erioed o'r blaen ac ers y pandemig, mae cydlynu gofal i gleifion cymhleth yn agosach i'r cartref wedi bod yn heriol.

"Bydd y prosiect hwn yn rhoi'r hyder a'r cymorth i ni helpu holl aelodau'r Tîm Adnoddau Cymunedol i ddeall ein gweledigaeth o greu gwasanaeth di-dor sy'n gwella lles ac ansawdd bywyd cleifion sydd ag anghenion cymhleth yn ein cymuned."

Dywedodd llefarydd o Sefydliad Nyrsio'r Frenhines: "Mae'n bleser gan Sefydliad Nyrsio'r Frenhines ddyfarnu cyllid i Dîm Nyrsio Ardal Gogledd Meirionnydd am eu prosiect newydd i wella gofal nyrsio i bobl yn eu cymuned.

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r tîm i wireddu eu syniadau i gynnig gofal iechyd ardderchog mewn cartrefi a chymunedau dros y flwyddyn sydd i ddod.

Ychwanegodd Louise Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio Cymunedol yn y Gorllewin: "Mae'n fraint gweithio gyda Nyrsys Ardal mor arloesol a blaengar sydd bob amser yn mynd y filltir ychwanegol i'w cleifion a'u cydweithwyr.

"Mae'r cyllid hwn yn haeddiannol iawn ac mae'n cydnabod ac yn cefnogi arfer nyrsio arloesol yng Ngogledd Cymru wledig."