Neidio i'r prif gynnwy

Teyrnged i Dr Andy Fowell

Gyda thristwch mawr gwnaethom ddysgu am farwolaeth sydyn Dr Andy Fowell dros y penwythnos.

Dr Fowell oedd un o’r meddygon ymgynghorol gofal lliniarol cyntaf yng Nghymru, ac y cyntaf un yng Ngogledd Cymru. Gwnaeth Dr Fowell gyflawni rhan hollbwysig wrth sefydlu’r Gwasanaeth Gofal Lliniarol ar gyfer Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd,  Tîm Gofal Lliniarol Arbenigol yr ysbyty ac am arwain y tîm cymunedol.

Roedd Dr Fowell wrth wraidd penderfyniadau gofal ar gyfer dyddiau olaf yng Nghymru i wella gofal i gleifion ym mhob sefyllfa ar ddiwedd oes. Roedd hefyd yn ganolog wrth gefnogi gwasanaethau hosbis yn y cartref fel y gall cleifion dreulio eu dyddiau olaf adref, yn agos at eu teuluoedd, ac o ystyried bod nifer o gleifion yn byw mewn mannau gwledig, mae hyn wedi bod yn bwysig dros ben.

Roedd yn adnabyddus ar draws y gymuned Gofal Lliniarol yng Nghymru gyfan, drwy ei gadeiryddiaeth o Gynhadledd Gofal Lliniarol Gregynog, ac am addysgu cyrsiau gradd i ôl-raddedigion. Roedd hefyd yn arloeswr o ran datblygu canllawiau yng Nghymru i roi cymorth i weithwyr proffesiynol sy’n rhoi gofal diwedd oes a datblygodd swyddi hyfforddi ar draws Gogledd Cymru.

Roedd yn greiddiol yn natblygiad Strategaeth Cymru Gyfan ar Ofal Lliniarol a arweiniodd at ddatblygu mynediad teg i wasanaethau ar draws Cymru gyda chydnabyddiaeth bod gofal 24/7 i gleifion a’u teuluoedd yn hanfodol. Bu’n allweddol wrth ddatblygu Cynllunio Gofal Estynedig ar lefel Cymru gyfan, gan weithio i sicrhau bod llais y claf yn cael ei glywed.

Er bod Dr Fowell wedi ymddeol yn 2013, roedd yn dal i fod â chysylltiad gweithgar ag addysgu ac roedd yn ymddiriedolwr Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor.

Daeth Dr Fowell â nifer o gronfeydd elusennol a gwasanaethau’r GIG ynghyd; yn 2019, aeth ef ynghyd â chyn feddyg teulu o Fiwmares, Dr Steve MacVicar a Roger Thomas, cyn Brif Weithredwr Cyngor Cefn Gwlad Cymru, i’r afael â her beicio enfawr o Asia i Ynys Môn gan godi dros £20,000 tuag at Hosbis Dewi Sant yn Ynys Môn a Chymdeithas Clefyd Niwronau Motor.

Ynghyd â’i gyflawniadau proffesiynol, bydd Dr Fowell yn cael ei gofio am ei garedigrwydd, ei gyfeillgarwch a’i synnwyr difyrrwch bob amser. Roedd yn gyfaill annwyl i lawer, yn fentor i lawer a bydd colled mawr ar ei ôl.