Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd – 10 Medi 2021

Mae’n bwysig gwybod bod cefnogaeth ar gael i unrhyw un sy’n teimlo fel nad oes ganddynt unrhyw le i droi neu os ydynt yn teimlo’n hunanladdol.  Os ydych angen siarad â rhywun ynghylch sut rydych chi’n teimlo, mae gwasanaethau cefnogi ar gael.

Os ydych yn cael meddyliau neu deimladau hunanladdol mae’r gwasanaeth GIG 111 wrth law i ddarparu cyngor a chefnogaeth am ddim 24/7, fe all fod yn ddefnyddiol hefyd i siarad â gwasanaeth gwrando am ddim neu sefydliad cefnogi arall.

Meddai Dr Alys Cole-King (Seiciatrydd Cyswllt Ymgynghorol):

“Mae meddyliau hunanladdol yn fwy cyffredin nag y mae pobl yn ei sylweddoli.  Gall unrhyw un gael meddyliau hunanladdol felly’r allwedd yw gwybod sut i gadw’ch hun yn fwy diogel trwy fod yn ymwybodol o’r hyn gallwch chi ei wneud drosoch eich hun a sut i gael y gefnogaeth briodol.  Mae’n bwysig gwybod nad yw hunanladdiad yn anochel ac mae’n hanfodol fod pawb yn gwybod sut i gael drwy’r amseroedd caled.  Thema Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byw yw ‘Creu gobaith trwy weithredu’. Mae gobaith yn rhan allweddol o atal hunanladdiad ac mae rhannu gobaith yn rhywbeth y gall pawb ei wneud.  

Er bod hunanladdiad yn gymhleth ac nid oes un rheswm sengl dros hunanladdiad, rydym yn gwybod beth all helpu.  Gall fod yn anodd i rywun sy’n teimlo’n isel, yn stryglo neu yn meddwl a yw bywyd werth ei fyw, ofyn am help.  Felly mae gan bob un ohonom rôl i edrych allan am y rhai sydd o’n cwmpas, ‘estyn allan’ a gofyn sut mae pobl.

P’un ai ydyw ar ffurf neges feddylgar, galwad ffôn neu ofyn dwywaith sut mae rhywun wir yn teimlo gallwn helpu rhywun sy’n brwydro.  Gall bob un ohonom chwarae rôl i gefnogi’r rhai sy’n profi argyfwng hunanladdol neu’r rhai sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad.

Gall fod yn anodd gwybod sut i siarad â’ch ffrindiau, teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol am feddyliau hunanladdol.  Ond mae nifer o bobl yn teimlo wedi’u cefnogi ac yn llai unig ar ôl siarad â rhywun.

I bob unigolyn, mae’r rhesymau isorweddol yn wahanol.  Mae nifer o bobl yn cadw eu meddyliau hunanladdol yn gyfrinach.  Bydd y rhesymau dros beidio â cheisio am gymorth ar gyfer meddyliau hunanladdol yn wahanol i bob unigolyn, ond fe all gynnwys rhesymau megis stigma, cywilydd, ddim yn gwybod wrth bwy i ddweud neu ofn na fydd rhywun yn eu cymryd o ddifrif.  Ar y llaw arall, efallai bydd rhai yn dewis peidio dweud wrth unrhyw un am eu meddyliau hunanladdol oherwydd bod neb yn gofyn a oes unrhyw beth o’i le.   Mae’n hanfodol bwysig felly os ydych yn poeni am rywun eich bod yn ymateb mewn ffordd ofalgar ac anfeirniadol a chael sgwrs efo nhw, a’u hannog i geisio am help proffesiynol.

Os ydych chi’n meddwl bod rhywun rydych chi’n ei adnabod yn cael meddyliau neu deimladau hunanladdol, mae’n bwysig codi’r pwnc gyda gofal a dealltwriaeth.

Gall fod yn gynorthwyol i fod yno a gadael iddynt wybod nad ydynt eu hunain.  Efallai na chawn fyth wybod faint bydd ein gweithredoedd yn helpu rhywun sy’n brwydro ond dylech wybod nad oes raid i chi fod yn arbenigwr i wneud gwahaniaeth.  Ond mae’n bwysig cofio efallai na allwch eu helpu ar eich pen eich hun”.

Os ydych yn poeni am rywun sy’n teimlo’n hunanladdol ac eisiau helpu, ceir rhywfaint o awgrymiadau isod i geisio helpu’r sgwrs i fynd yn dda:

  • Peidiwch â phoeni os nad oes rhywun eisiau siarad eto.  Efallai nad ydynt yn barod ac mae gwybod eich bod chi yno yn ddefnyddiol.
  • Ceisiwch ddod o hyd i amgylchedd cyfforddus sy’n rhydd o unrhyw amhariadau
  • Gwrandewch arnynt a dangos agwedd garedig a gofalgar
  • Ceisiwch beidio â dangos sioc am yr hyn maen nhw’n ddweud neu yn ei deimlo ac arhoswch yn ddigynnwrf.
  • Peidiwch â beirniadu na’u beio nhw am eu teimladau, gadewch i’r unigolyn wybod eich bod chi eisiau eu cefnogi – hyd yn oed os ydych yn anghytuno
  • Dylech wybod y gall meddyliau neu deimladau hunanladdol ddod o ddelio gyda phoen emosiynol neu sefyllfa anodd
  • Gall fod yn ddefnyddiol i bobl wybod bod ganddynt rywun y gallent ymddiried ynddynt i wrando a cheisio deall beth maen nhw’n ei feddwl neu deimlo.
  • Ceisiwch eu cefnogi gyda chynllunio er diogelwch os ydynt yn teimlo’n gyfforddus i siarad amdano.  Mae cynllunio er diogelwch yn helpu i ddod o hyd i ffyrdd i reoli’r meddyliau a’r teimladau hynny os ydynt yn codi eto.  Mae mwy o wybodaeth ar gynllunio er diogelwch drwy’r ddolen GIG isod

 

 Prif Neges

  1. Mae meddyliau o hunanladdiad yn arwydd o ofid emosiynol, arwydd bod rhywbeth arall o’i le. Mae’n aml oherwydd eu bod yn ei chael hi’n anodd ymdopi gydag emosiynau neu sefyllfaoedd gofidus.  
  2. Diolch byth, mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cael meddyliau neu deimladau hunanladdol, yn enwedig os oes ganddynt gefnogaeth, yn gallu datblygu ffyrdd o ymdopi a rheoli’r emosiynau anodd hyn.  
  3. I gael mwy o wybodaeth, strategaethau ymdopi a sut i wybod pryd i geisio cefnogaeth broffesiynol, ewch i https://www.nhs.uk/mental-health/feelings-symptoms-behaviours/behaviours/help-for-suicidal-thoughts/

Sefydliadau sy’n Cefnogi:

Dyma restr o bobl i gysylltu â nhw os ydych yn teimlo fel eich bod yn boddi neu yn poeni am rywun arall.  Dyma eu manylion:

C.A.L.L. Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru: Gwasanaeth 24/7 sy’n cynnig cefnogaeth emosiynol am ddim a gwybodaeth/llenyddiaeth ar iechyd meddwl a materion perthnasol i bobl yng Nghymru.

Ffoniwch: 0800 132 737

Tecstiwch: 'help' i 81066.

Samariaid: Ar gael i bawb 24/7

Ffoniwch: (am ddim): 116 123

E-bost: jo@samaritans.org (amser ymateb 24 awr)

Llinell Gymraeg y Samariaid: Ar agor 7pm-11pm bob dydd

Ffoniwch: (am ddim) 0808 1640123

Campaign Against Living Miserably (CALM): - 5pm i hanner nos bob dydd Ffoniwch: 0800 58 58 58

Papyrus (hyd at 35 oed): – 9am – hanner nos bob dydd

Ffoniwch: 0800 068 4141

E-bost: pat@papyrus-uk.org

Childline: 24/7

Ffoniwch: 0800 1111