Neidio i'r prif gynnwy

Tri chyfle i ennill gwobr ar gyfer uned llygaid 'ysbrydolgar' ar ôl profiad myfyrwraig a wnaeth 'newid bywydau'

24/09/21

Lleoliad gwaith offthalmoleg “ysbrydolgar” myfyrwraig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd y catalydd ar gyfer tri enwebiad yn seremoni wobrwyo rhai o wobrau pwysicaf nyrsio.

Pan wnaeth y myfyriwr aeddfed Chloe Scott gyrraedd Uned Llygaid Stanley yn Ysbyty Abergele yn “nerfus” ym mis Chwefror, nid oedd hi'n gwybod faint fyddai hynny’n newid ei bywyd hi a bywydau ei mentoriaid.

Yn ystod ei lleoliad 12 wythnos, nid yn unig y gwnaeth y fyfyrwraig blwyddyn olaf yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor ddysgu gan y staff, fe wnaeth hi hefyd gyfrannu’n llawn at yr uned.

Yn sgil hynny, dywedodd yr uwch nyrs offthalmoleg Lisa Parkhill fod y fyfyrwraig 30 oed o Abergele wedi “newid ein bywydau”.

Ar ôl hynny, fe wnaeth Chloe enwebu’r nyrs staff Annie Sealey am wobr Goruchwyliwr Lleoliadau Gorau’r Flwyddyn ar gyfer gwobrau mawreddog Nursing Times 2021 ac enwebu’r uned gyfan am wobr Lleoliad Gorau’r Flwyddyn.

Fe wnaeth ei thiwtor Naomi Jenkins ei henwebu am wobr y Myfyriwr Mwyaf Ysbrydolgar, ar sail adroddiadau gan oruchwylwyr ei lleoliad.

Yn rhyfeddol, derbyniwyd y tri enwebiad i’w cynnwys yn eu rhestrau byr ar gyfer y noson wobrwyo serennog ym Mayfair, Llundain, ym mis Tachwedd.

Daw’r gydnabyddiaeth wrth i’r DU nodi Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid ac fe wnaeth hynny wneud i Lisa deimlo’n “emosiynol” ynghylch cyfnod Chloe yn eu huned.

Dywedodd hi: “Roedd Chloe yn ddihyder oherwydd y pandemig ac roedd hi wedi cael amser i ffwrdd oherwydd anaf. Y ffaith ei bod hi wedi dod yma ac yn dymuno cael gyrfa ym maes offthalmoleg yw’r gydnabyddiaeth orau i ni.

“Roedd hi’n stryd ddwyffordd o’r dechrau cyntaf. Fe wnaeth hi ddysgu gennym ni ac fe wnaethom ni ddysgu ganddi hi. Newidiodd Chloe ein bywydau. Dyna pam rydyn ni’n teimlo mor emosiynol am hynny yn fy marn i.”

Ar ôl troi cefn ar yrfa lwyddiannus ym maes adnoddau dynol gyda’r heddlu a’r gwasanaethau tân i ddod yn nyrs, cafodd y fyfyrwraig blwyddyn olaf anaf a bu’n rhaid iddi gael egwyl 18 mis o’i hastudiaethau cyn derbyn y lleoliad.

Roedd gallu bod yn rhan o dîm mor brofiadol a chlòs yn deyrnged i Chloe ac i’r staff a’i croesawodd hi.

“Fe wnaeth eu sgiliau arweinyddiaeth argraff arnaf i, ond maent yn bobl hyfryd, ac maent yn addysgu eu myfyrwyr mewn ffordd mor gyfannol,” meddai hi.

“Roeddent mor anogol a chefnogol, a theimlais fy mod i’n cael fy ngrymuso yng ngwir ystyr y gair i gynnig awgrymiadau. Ni wnaethant fyth wneud i mi deimlo fod fy syniadau neu fy nghwestiynau yn dwp, dim ond dweud ‘iawn’ a fy annog i. Ni wnes i deimlo fel ‘dim ond myfyrwraig’ ar unrhyw adeg.

“Maent mor ymroddgar i’w cleifion. Mae gan lawer ohonynt amryw o gyflyrau eraill yn ogystal â golwg gwael, felly byddant yn ystyried y cyfan.”

Fe wnaed cymaint o argraff arni hi, fe wnaeth hi anfon enwebiadau at y Nursing Times am wobrau i’r uned ac i’r nyrs Annie Sealey.

Dywedodd Annie: “Yr oeddwn i wedi fy rhyfeddu fod rhywun wedi treulio amser yn fy enwebu i a ninnau ond yn gwneud ein gwaith beunyddiol.

“Rwy’n gwerthfawrogi’r enwebiad ac rydym ni’n ymfalchïo ynddo. Mae angen i ni fuddsoddi mewn myfyrwyr oherwydd mae cymaint o nyrsys yn gadael.”

Yn ei henwebiad am y wobr, dywedodd Chloe fod Annie wedi “cynnig arweiniad” iddi hi ynghylch meysydd dysgu newydd ac wedi’i “grymuso i arwain â gofal cleifion cyn gynted ag oeddwn i’n teimlo’n gyfforddus”.

Ychwanegodd Chloe: “Dylai Annie ennill y wobr hon oherwydd mae hi’n cynrychioli’r holl nodweddion cadarnhaol y dylai unrhyw oruchwyliwr feddu arnynt. Yn ogystal â bod yn nyrs ryfeddol o dda, mae hi’n wych ac yn ysbrydolgar.

“Ni wnaethom ni sylweddoli pa mor arwyddocaol oedd y gwobrau hyn,” eglurodd yr uwch nyrs offthalmoleg brofiadol Lisa Parkhill. “Roeddem ni’n credu y byddem ni’n cael llinell a llun yn y Nursing Times, ond ar ôl edrych yn fanylach, fe wnaethom ni sylweddoli y dylem ni fod yn neidio i fyny ac i lawr.

“Nid yn unig y mae hyn yn bwysig i ni, mae’n bwysig i Betsi yn gyffredinol. Mae’n dangos y gallwn ni wneud pethau yn hynod o dda.”

Ychwanegodd fod yr enwebiadau yn gydnabyddiaeth i bob aelod o’r uned, gan gyfeirio’n benodol at yr ymgynghorydd plastigau llygadol, Mrs Claire Morton, un o ysgogwyr y tîm.

Yn ystod y pandemig, mae’r uned wedi gorfod gweithio â llai o welyau, ond maent wedi llwyddo i leihau cyfanswm yr amser cyswllt yn yr ysbyty ar gyfer cleifion y mae arnynt angen Pigiadau i’r Llygaid (IVT) 

Mae’n rhywbeth y maent yn awyddus i’w gynnal wrth i’r gymdeithas agor yn raddol.

Un o’r pethau cyntaf yr anogir myfyrwyr nyrsio i’w wneud wrth gychwyn lleoliad yw gwisgo sbectol arbennig, sy’n rhoi cipolwg di-oed iddynt ar yr anawsterau mae cleifion y llygaid yn eu hwynebu.

Mae’r sbectolau yn dynwared effeithiau colli golwg claf, sy’n cael ei achosi gan gyflyrau megis achludiad gwythiennau neu ddirywiad y macwla gwlyb.

Ymhlith pethau eraill, gweithiodd Chloe yn yr ystafell IVT yn trin cleifion y mae’r cyflyrau hynny arnynt, a datblygodd ddealltwriaeth o’r llwybr gofal llawn, o apwyntiadau cychwynnol i glinigau wedi triniaeth.

Mae ganddi hi ddau leoliad yn weddill yn ei blwyddyn olaf, sy’n dod i ben fis Awst nesaf, ond mae hi hefyd wedi cael cyfle fel un o blith dim ond 50 o fyfyrwyr nyrsio yn y DU i ymgymryd â rhaglen arweinyddiaeth arbennig.

Caiff y cwrs ei redeg gan Gyngor y Deoniaid, ac mae’n caniatáu i’r sawl a gaiff wahoddiad ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth a rhedeg prosiect neu gyfres o brosiectau yn ystod y rhaglen naw mis.

Daeth y cyfle hwn o ganlyniad i gynnydd Chloe yn ystod ei lleoliad.

Ar waethaf ei llwyddiant, dywedodd Chloe, sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, mai yng Ngogledd Cymru mae dyfodol ei gyrfa, ac mae hi’n dymuno hyrwyddo’r gwasanaeth i eraill sydd efallai’n teimlo’n anniddig yn eu gyrfa.

Dywedodd hi: “Gobeithio y gwnaiff fy stori annog pobl i gael gyrfa ym maes nyrsio. Rwy’n falch iawn fy mod i wedi gwneud hynny – mae’r cyfan wedi bod fel corwynt a dweud y gwir.”

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Nick Lyons: “Rwyf i wrth fy modd fod y tîm yn Uned Llygaid Stanley yn Ysbyty Abergele wedi cael cydnabyddiaeth o’r fath.

“Mae cael yr enwebiadau hyn am Wobrau Nursing Times yn amlygu eu hymroddiad a’u hymrwymiad i ofal y llygaid a datblygu staff.

“Mae enwebiad y fyfyrwraig nyrsio Chloe Scott yn sgil ei lleoliad yn atgyfnerthu hynny – ac rwy’n llongyfarch pawb sydd wedi cyfrannu.

“Mae’n gyflawniad hynod ac fe hoffwn ddiolch i’r nyrs staff Annie Sealey a’r tîm cyfan, sy’n sicrhau fod myfyrwyr nyrsio yn cael y sylfaen orau posibl ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid, trowch at: Vision Matters - Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid