Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr am dechnoleg arloesol a ddefnyddir yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar gyfer cleifion sydd â cherrig ar yr arennau

Mae llawfeddyg yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael gwobr arbennig am ddefnyddio technoleg arloesol i wella gofal cleifion.

Mr Mohamed Yehia Abdallah, Llawfeddyg Wrolegol Ymgynghorol, oedd cyd-enillydd y Categori Arloesedd sy’n Effeithio ar Gleifion yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ymchwil ac Arloesedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni.

Canmolwyd Mr Yehia gan y beirniaid am gyflwyno Technoleg MINIPERC yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar gyfer cleifion sydd â cherrig ar yr arennau.

Mae techneg MINIPERC yn defnyddio camerâu llai ac offer arbenigol i greu toriad llai yn y croen i gynnal llawdriniaeth twll clo sy’n creu archoll mor fach â phosib. Mae’r dechneg newydd yn cynnig gweithdrefn sy’n llawer mwy diogel ac yn caniatáu adferiad cyflymach i’r claf, sy’n aros llai o amser yn yr ysbyty wedi’r llawdriniaeth. Byddai hyn hefyd yn helpu i ddenu rhagor o gymrodyr clinigol a meddygon dan hyfforddiant er mwyn ehangu eu gwybodaeth a’u sgiliau llawfeddygol.

Dywedodd Mr Yehia: “Mae’r gwasanaeth hwn yn unigryw yng Ngogledd Cymru ac ar gael yn unig yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac mewn ychydig iawn o ganolfannau ledled y DU i berfformio llawdriniaethau o’r fath sy’n creu archoll mor fach â phosib.”

“Mae rheoli cerrig ar yr arennau yn heriol iawn i’r claf ac i’r clinigydd. Mae’r datblygiad newydd hwn wedi helpu i drin cleifion sydd â cherrig ar yr arennau, gan liniaru eu poen a lleihau hyd eu harhosiad yn yr ysbyty a’r risg o gymhlethdodau.”

“Rwyf wrth fy modd yn derbyn y wobr hon ac yn hynod o falch y gallwn ni gynnig y gwasanaeth hwn i’n cleifion ledled Gogledd Cymru, yn enwedig o gofio fod Ysbyty Maelor Wrecsam yn cael ei gydnabod fel canolfan ble gellir trin cerrig cymhleth ar yr iau. Ni fyddai’r cyflawniad hwn wedi bod yn bosibl heb gyfraniad cydweithwyr ar sawl lefel.”

Ychwanegodd Lynne Grundy, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydyn ni wrth ein bodd yn gallu cydnabod ein hymchwilwyr a’n harloeswyr sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i ofal cleifion.

“Roedd hi’n anodd iawn i’r beirniaid ddewis yr enillwyr oherwydd mae cymaint o waith da yn digwydd, ac roedd yr holl wobrau yn haeddiannol dros ben yn achos pawb.

“Rydym ni bellach yn edrych ymlaen at gynnig y gwobrau hyn bob blwyddyn.”

Dywedodd Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

“Rydym ni’n dymuno llongyfarch Mr Yehia a’r tîm yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Rydyn ni’n falch iawn o’r ymdrechion y mae staff wedi’u gwneud i barhau i ddarparu gofal heb ei ail yn ystod y pandemig.”