Neidio i'r prif gynnwy

Taith Gerdded Yr Wyddfa 2021

Bydd Wythnos Genedlaethol Rhoi Organau yn dechrau ar 20 Medi 2021 ac i godi ymwybyddiaeth, hoffem eich gwahodd i ymuno â ni i gerdded at gopa'r Wyddfa er cof am eich anwylyn ac un o'r rheiny a achubodd fywydau eraill trwy roi.

Byddwn yn mynd i'r afael â'r her ddydd Mercher, 22 Medi a deallwn y bydd hwn yn ddigwyddiad na all pawb gymryd rhan ynddo.

Efallai y byddwch yn awyddus i ymuno â ni i'n cefnogi wrth i ni gychwyn ar y daith, neu eich bod am ymuno â ni i gerdded rhywfaint o'r llwybr.

Mae croeso hefyd i chi anfon ffotograff o'ch anwylyn atom fel y gallwn fynd ag ef i'r copa ar eich rhan.

Os ydych yn bwriadu cymryd rhan, gofynnwn i chi gymryd eich amser i ystyried pa esgidiau, dillad ac offer y gallai fod eu hangen arnoch. Mae ychydig o wybodaeth fuddiol, awgrymiadau a phethau i'w hystyried mewn cwestiynau cyffredin

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu os oes unrhyw beth yr hoffech ei drafod, mae croeso i chi anfon e-bost i admin@raw-adventures.co.uk neu ffonio.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, ewch yma.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestriadau yw 9am, ddydd Llun, 13 Medi.