Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs o Ogledd Cymru yw'r cyntaf yng Nghymru i dderbyn pigiad atgyfnerthu

16/09/21

Mae nyrs sydd wedi cael profiad uniongyrchol o effaith dorcalonnus COVID-19 wedi dod yr unigolyn cyntaf yng Nghymru ac yn un o'r rhai cyntaf yn y DU i dderbyn brechlyn atgyfnerthu.

Yn dilyn cyhoeddiad gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ddydd Mawrth, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi symud yn gyflym i gynnig pigiadau amddiffyn ychwanegol i'w staff sy'n delio â chleifion, ac mae’r brechlyn atgyfnerthu cyntaf wedi'i roi am 11:05am y bore 'ma.

Cafodd y pigiad atgyfnerthu cyntaf yng Nghymru ei roi i'r nyrs orthopaedig Ewa Syczuk, mewn clinig yn Llanelwy. Mae'r fam 50 oed i ddau o blant wedi bod yn gweithio ar reng flaen yr ymgyrch brechu rhag COVID-19 ers mis Ionawr 2021, a chafodd ei hysbrydoli i gymryd rhan yn dilyn ei phrofiad ei hun o'r firws.

Dywedodd: "Rydw i mor falch o gael y pigiad atgyfnerthu gan fy mod i wedi dal COVID ym mis Ebrill y llynedd. Roeddwn i'n sâl iawn ac roeddwn i'n ffodus iawn. Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n mynd i farw.

"Mae pythefnos na alla' i ei gofio - dywedodd fy mhartner ei fod wedi gorfod fy atgoffa am anadlu.

"Fis ar ôl i mi wella o’r salwch, roeddwn i ond yn gallu cerdded rhyw 500 cam ac yna, byddai'n rhaid i mi dreulio gweddill y dydd yn y gwely.

"Cymerodd chwe mis i mi ddychwelyd at y gwaith yn araf deg a hynny fesul cam.

“Mae'r brechlyn yn gaffaeliad - allwn i ddim aros i gael f'un i. Dylai pawb dderbyn y brechlyn er mwyn osgoi'r profiad hwnnw, oherwydd 19 mis ar ôl dal COVID, rydw i'n dal i ddioddef diffyg anadl a blinder weithiau.

"Nid yw rhywun yn gwybod a fydd yn mynd yn sâl - ac nid yw rhywun yn gwybod pa mor sâl a allai fod.

“Mae'n fwy na'r firws yn unig, mae'n ymwneud â'r effeithiau hirdymor hefyd. Mae'r brechlynnau wedi'u cymeradwyo'n llawn gan yr awdurdodau a chan bobl sy'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud.

"Mae mor braf gweld pobl yn dod i dderbyn y brechlyn - gan gynnwys pobl ifanc rhwng 16 a 17 oed.

"Mae'r pigiad atgyfnerthu mor bwysig i mi - mae amrywiolyn Delta yn fy nychryn i ac rydw i am amddiffyn fy hun gymaint â phosibl gyda'r pigiad atgyfnerthu."

Yn unol ag arweiniad JCVI, mae brechlynnau atgyfnerthu'n cael eu cynnig i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed oherwydd heintiau difrifol, cyn misoedd y gaeaf. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Y rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal preswyl i oedolion hŷn
  • Yr holl oedolion 50 oed neu'n hŷn
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen
  • Y sawl rhwng 16 a 49 oed sydd â chyflyrau iechyd isorweddol sy'n golygu eu bod â risg uwch o COVID-19 difrifol (fel y'i hamlinellir yn y Llyfr Gwyrdd), a’r rhai sy’n golygu am oedolion
  • Oedolion sydd â chyswllt ar yr aelwyd ag unigolion sydd â system imiwnedd wannach

Yn unol ag arweiniad JCVI, mae bwrdd iechyd Gogledd Cymru yn gwahodd y rhai sy'n gymwys i dderbyn pigiad atgyfnerthu yn seiliedig ar yr un trefn flaenoriaeth â'r cyfnod cyntaf, ar yr amod bod o leiaf chwe mis wedi mynd heibio ers eu hail ddos.

Dywedodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth BIPBC: "Rydym wedi bod yn cynllunio'r rhaglen pigiadau atgyfnerthu ers cryn amser ac rydw i'n hynod falch ein bod wedi gallu symud mor gyflym i gynnig y pigiad ychwanegol hwn i amddiffyn ein staff rheng flaen sy'n gweithio mor galed, ac sy'n parhau i wynebu’r risg ddyddiol sydd ynghlwm wrth weithio gyda chleifion sy'n bositif am COVID-19 yn ein hysbytai ac mewn lleoliadau cymunedol.

"Yn unol ag arweiniad JCVI, rydym yn gwahodd staff iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen i dderbyn eu brechlyn atgyfnerthu'n gyntaf. Gofynnwn i eraill sy'n gymwys i dderbyn y brechlyn i fod yn amyneddgar ac i gofio nad oes angen cysylltu â ni i drefnu apwyntiad. Byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol pan ddaw eich tro chi."

Gan y bydd y rhan fwyaf o oedolion iau ond yn derbyn eu hail ddos o frechlyn COVID-19 ddiwedd yr haf, caiff buddion brechiad atgyfnerthu yn y grŵp hwn eu hystyried yn ddiweddarach, gan JCVI, pan fydd mwy o wybodaeth ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen brechu rhag COVID-19 ewch yma.