Neidio i'r prif gynnwy

'Pencampwyr Atal-Cenhedlu' Ysbyty Maelor Wrecsam yn cael eu gwobrwyo

Mae grŵp o feddygon yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael gwobr am wella mynediad at ddulliau atal-cenhedlu ar ôl geni yn ystod pandemig COVID-19.

Enillwyd y wobr Arloesi mewn Cael Effaith ar Gleifion gan yr hyfforddwyr arbenigol Dr Noreen Haque, Dr Anu Ajakaiye, Dr Maria Kaloudi a’r Obstetregydd a Gynaecolegydd Ymgynghorol Dr Ruth Roberts o Adran Merched a Mamolaeth yr ysbyty, a hynny yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Ymchwil ac Arloesi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Dywedodd Dr Roberts: “Mae un mewn bob tri o feichiogrwydd yn y DU yn cael ei derfynu. Mae cael gafael ar ddulliau atal-cenhedlu yn ystod y pandemig wedi bod yn heriol ac mae niferoedd diweddaraf gan y llywodraeth yn dangos bod cyfraddau terfynu beichiogrwydd wedi codi yn ystod y cyfnod hwn.

“Mae terfynu beichiogrwydd yn benderfyniad anodd a all gael effaith negyddol ar iechyd meddwl unigolyn.

“Fel tîm roeddem yn gwybod bod angen gwneud newid er mwyn lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd heb ei gynllunio, yn ogystal â lleihau cyfraddau terfynu beichiogrwydd.”

Er mwyn hwyluso’r mynediad at ddulliau atal-cenhedlu, bu’r tîm wrthi’n gwella’r addysg oedd ar gael i staff a chleifion yn ogystal â gwella argaeledd atal-cenhedlu i ferched ar yr uned famolaeth.

Dywedodd Dr Haque: “Cyn gwneud unrhyw newid i’n polisi ysbyty cyfredol, mi wnaethon ni gynnal arolygon cleifion a staff i asesu faint oedd bobl yn ddeall am ddulliau atal-cenhedlu ar ôl geni a’r ffordd yr oeddent yn cael eu rhagnodi.

“Dangosodd yr arolwg staff bod 97 y cant o staff yn teimlo y byddant yn elwa o hyfforddiant ffurfiol ar atal-cenhedlu.

“Nod y prosiect oedd darparu hyfforddiant safonol ffurfiol i holl staff clinigol gyda chymorth pencampwyr atal-cenhedlu.

“Roedd hyn yn cynnwys meddygon, bydwragedd o bob gradd a chynorthwywyr gofal iechyd ac mae wedi gwella sgiliau cwnsela staff sydd yn ei dro wedi arwain at gynnydd yn y gofyn am ddulliau atal-cenhedlu ar ôl geni.”

Rhoddodd y tîm hefyd offer i staff i sicrhau eu bod yn rhagnodi dulliau atal-cenhedlu yn ddiogel.

Dywedodd Dr Ajakaiye: “Yn dilyn genedigaeth babi nid yw pob dull atal-cenhedlu yn ddiogel i’w ddefnyddio yn syth ac mae yna nifer o amodau.

“I helpu staff deimlo’n ddiogel am ragnodi dulliau atal-cenhedlu, fe wnaethon ni ddatblygu profformau a ddylai dynnu sylw at unrhyw faterion diogelwch. Anfonwyd y rhain hefyd at yr adran fferylliaeth efo’r presgripsiwn i sicrhau rhagnodi’n ddiogel. Cafodd Meddygon Teulu hefyd gopïau o’r profforma efo crynodeb o’r enedigaeth er mwyn sicrhau dilyniant o ran gofal a’r dull o atal-cenhedlu a ddewiswyd.

“Fe wnaethom hefyd ddatblygu posteri a thaflenni newydd i roi gwybodaeth fwy dibynadwy a pharod i gleifion am y dewisiadau atal-cenhedlu sydd ar gael a rhoddwyd y rhain mewn mannau aros yn yr uned yn ogystal â mewn clinigau yn y gymuned.”

Mae’r prosiect hefyd wedi arbed amser gwerthfawr i gleifion a staff o fewn gofal cychwynnol a gofal eilaidd.

“Roedd nifer o ganllawiau yn argymell y dylid trafod atal-cenhedlu yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl i’r babi gael ei eni. Drwy ddilyn yr argymhellion a gweithredu newidiadau rydym wedi arbed amser merched yn ogystal â chael gwared â rhai o’r rhwystrau o gael gafael ar ddulliau atal-cenhedlu addas yn ystod y pandemig.

“Mae’r apwyntiad gofal cychwynnol chew wythnos ar ôl y geni gan aml yn apwyntiad dwbl i roi digon o amser i drafod atal-cenhedlu. Mae ein newidiadau yn golygu y gellid o bosibl lleihau’r apwyntiad gyda’r Meddyg Teulu i un slot - bydd hyn yn arwain at arbed amser a chostau sylweddol yn y maes gofal cychwynnol,” ychwanegodd Dr Kaloudi.

Ym Mehefin 2020, 0.5 y cant o ferched a adawodd uned famolaeth Ysbyty Maelor Wrecsam gyda dull atal-cenhedlu. Yn Ebrill 2021, gadawodd 47 y cant gyda dull atal-cenhedlu addas.

Ychwanegodd Lynne Grundy, Cyfarwyddwr Cysylltiol Ymchwil ac Arloesi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn falch dros ben o gael cydnabod ein hymchwilwyr â'n harloeswyr sydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ofal cleifion.

“Cafodd y beirniaid waith caled yn dewis enillwyr gan fod cymaint o waith da yn mynd ymlaen, ac mae pob un yn haeddu gwobr.

“Rydym yn awr yn edrych ymlaen at gael cynnig y gwobrau hyn yn flynyddol.”

Y rhai a ddaeth yn ail yn y categori hwn oedd y Tîm Fferyllfa a Lleihau Niwed a gafodd gydnabyddiaeth am ddarparu gwasanaeth profi a thrin hepatitis C (HCV) ar gyfer cleifion digartref yn y gymuned.