Neidio i'r prif gynnwy

Ymgyrch SEXtember yn annog myfyrwyr a chymuned Gogledd Cymru i osgoi loteri iechyd rhyw

Bydd myfyrwyr newydd mewn colegau a phrifysgolion ar draws Gogledd Cymru yn cael Llun o Dr Ushan Andrady cynnig cyngor iechyd rhyw fel rhan o ymgyrch SEXtember blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae’r bwrdd iechyd yn gweithio gydag undebau myfyrwyr a darparwyr addysg i gyflwyno negeseuon rhyw diogel ac arweiniad ynghylch beth i’w wneud os yw myfyrwyr angen archwiliadau neu gefnogaeth iechyd rhyw.  

Mae’r ymgyrch yn ceisio codi proffil y gwasanaethau iechyd rhyw sydd ar gael i bawb yng Ngogledd Cymru – a chynnig cyngor ychwanegol i fyfyrwyr wrth iddynt ddechrau tymor newydd ymysg cyfyngiadau COVID-19 wedi’u llacio.

 

'Hapus ac iach'

Dr Ushan Andrady, Meddyg Ymgynghorol mewn Iechyd Rhyw a HIV yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor sy’n arwain ar y fenter sy’n para am fis.   

“Mae ein hymgyrch SEXtember yn hyrwyddo bywydau rhywiol hapus ac iach, ac mae’n helpu i gefnogi iechyd rhywiol ein cymunedau,” meddai.  

“Mae’r ymgyrch flynyddol wedi’i chynllunio i annog pobl i siarad am ryw, a chodi proffil materion pwysig fel atal cenhedlu, profion STI a mynediad at wasanaethau iechyd rhyw heb stigma na chywilydd.

“Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl ifanc yn cymryd eu camau nesaf mewn bywyd trwy ddechrau addysg prifysgol a choleg yng Ngogledd Cymru. Yn bwysicaf, bydd ein hymgyrch yn helpu’r bobl ifanc hyn – nifer a fydd wedi bod yn gaeth i gyfnodau clo a chyfyngiadau COVID-19 ers iddynt fod yn 16 oed – i ddeall mwy am y gwasanaethau iechyd rhyw a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt petaent ei angen yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.   

“Ni ddylai eich iechyd rhyw fod yn loteri, felly mae ein hymgyrch yn annog pawb i aros yn ddiogel – a gwneud eu hiechyd rhyw yn flaenoriaeth.”

 

Webinar

Mae SEXtember hefyd yn cynnwys webinar addysg ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, i’w helpu i roi gwell cefnogaeth i gleifion all fod angen cyngor neu driniaeth yn ymwneud â’u hiechyd rhyw.   

Mae mwy o wybodaeth ar yr ymgyrch SEXtember, gan gynnwys deunyddiau i’w llawr lwytho, ar gael o dudalen we’r ymgyrch.