Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion o'r Bwrdd Iechyd

14/04/21
Cleifion iechyd meddwl yn ymrwymo i wasanaethu'r gymuned mewn ymdrech i godi arian.

Mae cleifion yn Uned Diogelwch Canolig Tŷ Llywelyn Llanfairfechan yn cefnogi'r gymuned leol yn ystod y pandemig COVID-19 drwy roi un droed o flaen y llall.

08/04/21
Dietegydd yn annog merched beichiog i gymryd ychwanegiadau asid ffolig

Mae'r Dietegydd Iechyd Cyhoeddus, Andrea Basu, yn annog merched beichiog a'r rhai sy'n ceisio beichiogi i sicrhau eu bod yn cael digon o asid ffolig, yn dilyn pryderon bod y pandemig COVID-19 wedi cael effaith ar allu teuluoedd i gael mynediad at fitaminau.

06/04/21
Archwilio safle newydd ar gyfer uned iechyd meddwl o'r radd flaenaf yn Sir Ddinbych

Gall uned iechyd meddwl cleifion mewnol o’r radd flaenaf gael ei adeiladu mewn lleoliad newydd ar gampws Ysbyty Glan Clwyd, ar ôl i ganiatâd cynllunio ar gyfer lleoliad gwell gael ei wrthod.

01/04/21
Annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus a defnyddio'r gwasanaethau gofal iechyd yn ddoeth dros benwythnos y Pasg

Wrth i benwythnos y Pasg agosáu, mae arweinwyr awdurdodau lleol a staff gofal iechyd yn annog y cyhoedd i barhau i gadw at y cyfyngiadau cyfredol i atal lledaeniad pellach COVID-19.

 

31/03/21
Ap adfer i gefnogi pobl sy'n profi effeithiau tymor-hir COVID-19

Anogir pobl sy’n profi effeithiau tymor hir COVID-19 i lawr-lwytho ap i olrhain eu symptomau a derbyn cefnogaeth ychwanegol. 

30/03/21
Gwobr ymchwil i Nyrs Arbenigol Diabetes, Carolyn

Mae nyrs o Ogledd Cymru wedi ennill gwobr academaidd am ei gwaith i asesu sut gall gwelliannau i wasanaethau gael effaith bositif ar ofal cleifion. Y Nyrs Arbenigol Diabetes Carolyn Thelwell yw enillydd 2020 Gwobr Frederick Banting Prifysgol Abertawe.

29/03/21
Grŵp elusennol yn rhoi pecynnau rhoddion i staff iechyd meddwl y GIG

Mae sefydliadau a busnesau Wrecsam wedi rhoi pecynnau rhoddion i staff iechyd meddwl sydd wedi'u lleoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam. 

24/03/21
Bydd gwelyau cleifion mewnol yn Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy yn cau y dydd Gwener hwn, 26 Mawrth

Gan ein bod yn hyderus y gallwn fodloni’r galw yn ein safleoedd presennol, bydd y gwelyau mewnol yn Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy yn cau y dydd Gwener hwn, 26 Mawrth

21/03/21
Ewch am brawf er mwyn diogelu Ynys Gybi

Mae holl drigolion a gweithwyr ar Ynys Gybi yn cael eu hannog i gymryd prawf Covid-19 wrth i ni ymateb o’r nifer cynyddol o achosion yn lleol.

10/03/21
Dathlu Diwrnod Dim Ysmygu yng Ngogledd Cymru

Mae pobl ar draws Gogledd Cymru yn cael eu hannog i wella eu hiechyd a’u lles a rhoi’r gorau i ysmygu.

10/03/21
Nyrsys Ffilipinaidd yn dathlu 20 mlynedd o ofalu am gleifion yng Ngogledd Cymru

Mae nyrsys a symudodd o Ynysoedd y Pilipinas i helpu i ofalu am gleifion yng Ngogledd Cymru yn dathlu ugain mlynedd o ofal ym mis Mawrth. 

03/03/21
Bydd mwy na hanner pobl Gogledd Cymru yn cael mynediad at wasanaethau'r GIG mewn ffordd wahanol yn y dyfodol oherwydd y pandemig COVID-19.

Bydd mwy na hanner pobl Gogledd Cymru yn cael mynediad at wasanaethau'r GIG mewn ffordd wahanol yn y dyfodol oherwydd y pandemig COVID-19.

01/03/21
Cip ar y gwirfoddolwyr ar reng flaen rhaglen frechu fwyaf erioed Gogledd Cymru

Mae byddin fechan o wirfoddolwyr yn chwarae rhan flaenllaw yn y frwydr yn erbyn y coronafirws yng Ngogledd Cymru.

26/02/21
Astudiaeth fawr yn ymwneud ag effeithiau iechyd hirdymor COVID-19

Mae clinigwyr ac ymchwilwyr ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cymryd rhan mewn astudiaeth genedlaethol yn ymwneud ag effeithiau iechyd hirdymor COVID-19 i gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty gyda'r clefyd.

26/02/21
Bydd yr holl safleoedd ysbyty ar draws Gogledd Cymru yn ddi-fwg o'r wythnos nesaf

Mae pobl sy'n byw ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu hatgoffa y bydd yr holl diroedd ysbyty'n ddi-fwg o ddydd Llun.

25/02/21
Oedi llawdriniaethau wedi'u cynllunio yn Ysbyty Gwynedd

Bydd mwyafrif y llawdriniaethau a gynlluniwyd yn cael eu gohirio yn Ysbyty Gwynedd yr wythnos hon a’r nesaf ac eithrio rhai achosion dydd, mamolaeth a phaediatreg.

24/02/21
Bwrdd Iechyd yn lansio digwyddiad iechyd a lles rhithiol

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn cynnal stondin rhithiol sy’n canolbwyntio ar y rhaglenni profi a brechu COVID-19 yn ei ddigwyddiad iechyd a lles dydd Iau, 25 Chwefror. 

22/02/21
Datblygu cyn Ysbyty Cymuned y Fflint

Bydd cynlluniau i ddatblygu cartref gofal newydd ar gyfer Y Fflint yn symud gam ymlaen wrth i waith ddechrau ar ddymchwel cyn Ysbyty Cymuned y Fflint.

19/02/21
Peidiwch ag anwybyddu arwyddion cynnar o ganser y fron yn ystod COVID-19

Mae dynes o Wrecsam yn gwella o lawdriniaeth canser y fron yn annog pobl i beidio ag oedi cyn cysylltu â'u Meddyg Teulu yn ystod y pandemig COVID. 

19/02/21
Nyrsys Iechyd Meddwl yn rhannu eu profiadau am flwyddyn eithriadol, ar Diwrnod Nyrsys Iechyd Meddwl

Mae nyrsys iechyd meddwl sy'n gweithio ar reng flaen y pandemig COVID-19 wedi rhannu eu profiadau o ddarparu gofal yn ystod y flwyddyn fwyaf heriol o'u gyrfa.