Neidio i'r prif gynnwy

Arbenigwyr y Galon yn gofyn i'r cyhoedd ymuno â helfa drysor diffibrilwyr yng Ngogledd Cymru

Mae arbenigwyr y Galon yn gwahodd plant ysgol Gogledd Cymru i gymryd rhan mewn helfa drysor all achub bywyd.

Mae Julie Starling, nyrs Arrhythmia a Tomos Hughes, swyddog cefnogi Diffibrilwyr Cymuned Mynediad Cyhoeddus Gogledd Cymru eisiau i wylwyr roi gwybod os ydynt yn gweld diffibrilwyr cyhoeddus heb sticer wyrdd nodedig arno.

Mae'r tîm yn gobeithio y bydd yr helfa drysor yn helpu i ddynodi diffbrilwyr i'r cyhoedd nad ydynt wedi'u cofrestru â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Mewn argyfwng, gall y rhai sy'n delio â galwadau 999 anfon y sawl sy’n galw at eu diffibrilwyr agosaf, gan ddefnyddio cofrestr o ddiffribilwyr hysbys y mae gan y cyhoedd fynediad atynt.

Fodd bynnag, mae adegau ble nad yw'r gwasanaethau brys yn cael gwybod am ddiffibrilwyr sydd newydd eu gosod, sy'n golygu na all y Gwasanaeth Ambiwlans drosglwyddo gwybodaeth am eu lleoliad.

Mae XXX o ddiffibrilwyr cyhoeddus cofrestredig yng Ngogledd Cymru, ond efallai bod rhai eraill nad ydynt wedi'u cofrestru.

Dywedodd Julie: "Rydym wedi clywed am achosion ar draws y DU ble mae gwaith codi arian gwych yn cael ei wneud i osod diffibrilwr, ond nid yw'r gwasanaeth ambiwlans lleol yn cael gwybod amdano.

"Dyma gam hanfodol wrth wneud yn siŵr bod yr adnoddau achub bywyd hyn ar gael i gael eu defnyddio, ond yn ddealladwy, weithiau maent yn cael eu rhoi ar waith heb i'r dasg honno gael ei chyflawni.

"Dyna pam rydym wedi lansio ein helfa drysor i'n helpu ni ddarganfod os oes unrhyw ddiffibrilwyr yng Ngogledd Cymru sydd heb eu cofrestru.

"Rydym wedi teithio ar draws Gogledd Cymru ac wedi rhoi sticer arbennig gyda thic gwyrdd arno ar bob diffibrilwr sy'n hysbys i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.

"Rŵan rydym yn gofyn am help y cyhoedd i ddweud wrthym os ydynt yn dod ar draws un nad ydynt o bosibl yn gwybod amdano.

"Os oes unrhyw un yn gweld diffibrilwr yn unrhyw le yng Ngogledd Cymru heb sticer tic gwyrdd arno, golyga nad yw'r gwasanaethau brys yn gwybod amdano o bosibl.

"Y cwbl rydym yn gofyn amdano yw gwybodaeth i'n helpu i leoli'r bocsys hyn. Gall hyn gynnwys llun o leoliad y ddifibrilwr, y cyfeiriad neu fanylion cyswllt i'n helpu i'w ychwanegu at y gronfa ddata."

Bydd pob plentyn sy'n cymryd rhan yn yr helfa drysor yn cael clod helfa drysor yn gyfnewid, os ydynt hefyd yn darparu cyfeiriad.

I gymryd rhan, e-bostiwch unrhyw gyfraniadau at BCU.CardiologyAED@wales.nhs.uk