Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen ddogfen newydd yn dangos yr heriau a'r gwobrau o fod yn nyrs yn Ysbyty Gwynedd

Mae nyrsys yn Ysbyty Gwynedd yn sêr ar raglen ddogfen newydd sy'n dilyn eu bywydau ar y wardiau. 

Mewn cyfres newydd ar S4C - Nyrsys - rydym yn clywed gan rai o nyrsys mwyaf profiadol Cymru a'r rhai sydd newydd ddechrau am eu profiadau nyrsio.

Yn y rhaglen gyntaf ar 15 Ionawr am 9.30pm byddwn yn clywed gan Elin Williams a Llinos Stephen sy'n gweithio yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd. Maent yn sôn am eu profiadau o ddelio â phob math o achosion meddygol difrifol brys.

Dywedodd Elin: "Rwyf wrth fy modd fel nyrs yn yr Adran Achosion Brys oherwydd natur anrhagweladwy'r Adran.

"Rwy'n mwynhau pa mor brysur yw'r swydd ac mae gennym dîm gwych yn ein Hadran Achosion Brys.

"Rydym yn gweld nifer o wahanol salwch ac anafiadau sy'n peryglu bywyd yn ein rôl.

"Oherwydd hyn, gall bobl farw'n sydyn - yn aml nid yw pobl yn cael y cyfle i ffarwelio neu afael yn llaw rhywun."

Dywed Llinos, sydd wedi gweithio yn Ysbyty Gwynedd am 16 mlynedd, a ddechreuodd ei gyrfa ar y ward Trawma ac Orthopaedig: y rôl gorau iddi ei gael erioed yw gweithio yn yr Adran Achosion Brys.

Dywedodd: "Mae'n rhaid i chi fod yn fath arbennig o nyrs i weithio yn yr Adran Achosion Brys. Mae'n brysur, yn gyffrous ac yn anrhagweladwy.

"Mae'n rhaid i chi allu newid eich proses o feddwl o ofalu am oedolyn sy'n ddifrifol wael i blentyn sy'n ddifrifol wael mewn eiliadau.

"Mae'n rhaid i ni fel nyrsys fod yn gyfrifol am wneud yn siŵr ein bod yn diweddaru ein harfer drwy gyrsiau a diwrnodau ymarfer trawma rheolaidd er mwyn rhoi'r gofal gorau i'n cleifion.

"Ein cleifion sy'n dod gyntaf ac mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer unrhyw beth a phopeth."

Darganfyddwch fwy am beth mae'n ei olygu i fod yn nyrs yng Nghymru heddiw yn y rhaglen Nyrsys, ar S4C bob nos Fercher am 9.30pm.