Neidio i'r prif gynnwy

Deg Awgrym Da ar Sut i Guro Hwyliau Gwael Mis Ionawr

Ar ôl goleuadau llachar a gormodedd yr ŵyl, mae Mis Ionawr yn gallu teimlo fel y mis mwyaf tywyll o'r flwyddyn. Wrth ychwanegu hynny at y tywydd gwael, y dyddiau byr, y dyledion sydd wedi casglu dros y Nadolig a gweld llai o’ch ffrindiau a’ch teulu, nid yw'n syndod y gall pobl deimlo'n ddiflas ac yn isel.

Mae Teresa Owen, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhannu deg awgrym da ar sut i guro hwyliau gwael Mis Ionawr.

1. Treuliwch amser yng ngolau dydd.

Er efallai na fydd hyn yn apelio oherwydd y tywydd oer, gall bod yn yr awyr agored yng ngolau'r haul wneud i chi deimlo'n well a rhoi mwy o egni i chi. Mae dod i gysylltiad â golau naturiol yn cynyddu lefelau'r serotonin yn yr ymennydd, sy'n gysylltiedig â gwella hwyliau unigolyn.

2. Ymarfer Corff

Un o'r ffyrdd gorau i wella lles a hwyliau yw gwneud ymarfer corff.  Gall cerdded yn sionc gyda ffrindiau fod yn ffordd wych o gael awyr iach a rhyddhau endorffinau sy'n gallu gwneud i chi deimlo'n well.

3. Bwyta'n iawn

Mae beth yr ydym yn ei roi yn ein cyrff yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i'n hwyliau.  Wrth deimlo'n isel, rydych chi'n fwy tebygol o fwyta'n wael, a naill ai bwyta gormod neu dim digon. Mae cael diet amrywiol, cytbwys yn gallu gwneud gwyrthiau i wella eich hwyliau.

4. Cael digon o gwsg

Mae patrwm cwsg gwael yn gallu cael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl ac yn arwain i chi boeni neu deimlo’n bigog ac yn bryderus. Ewch i wefan MIND am awgrymiadau defnyddiol ar sut i wella eich patrwm cwsg <https://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/sleep-problems/>

5. Adnabod eich pryderon

Ceisiwch adnabod yr hyn sy'n gwneud i chi deimlo’n bryderus neu'n drist.  Cofiwch, does dim byd yn bod gyda gofyn am gymorth.  Mae rhannu sut yr ydych yn ei deimlo gydag aelodau o'r teulu, ffrindiau neu rywun yr ydych yn ymddiried ynddynt yn gallu bod y cam cyntaf i wella pethau.  Sylwer ar restr o sefydliadau a all fod o gymorth i chi ar waelod yr erthygl yma

6. Darllenwch lyfr da

Mae darllen er pleser yn ffordd wych o dynnu'ch meddwl oddi ar sut yr ydych chi'n teimlo. Mae gan eich llyfrgell leol amrywiaeth o lyfrau iechyd meddwl Darllen yn Dda, sy'n darparu gwybodaeth ddefnyddiol a chymorth ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin.  Am fwy o wybodaeth, ewch i: :<https://reading-well.org.uk/wales>

7. Byddwch yn garedig â chi eich hun

Mae llawer o bobl yn gosod addunedau Blwyddyn Newydd ac mae'n tynnu'r gwynt o hwyliau rhywun pan na fyddent yn gallu cadw atynt.  Cofiwch arafu a chymryd ychydig o amser i ofalu amdanoch eich hun.

8. Byddwch yn gyfrifol a diffoddwch eich dyfeisiau technoleg

Mae bod ar ddyfeisiau technoleg yn gallu effeithio'n negyddol ar eich hwyliau.  Mae diffodd ffonau symudol a thabledi o leiaf 90 munud cyn i chi fynd i'r gwely yn gallu eich helpu i ymlacio, teimlo'n llai pryderus a chael noson dda o gwsg

9. Dysgwch rywbeth newydd

Gwnewch rywbeth newydd. Cofrestrwch ar gyfer cwrs. Ymgymerwch â chyfrifoldeb newydd. Trwsiwch feic. Dysgwch rysáit newydd neu ddysgu sut mae chwarae offeryn newydd.  
Gosodwch nod newydd. Gall dysgu rhywbeth newydd fod yn hwyliog, gwneud i chi deimlo'n dda a'ch helpu i fagu hyder

10. Defnyddiwch y Pum Ffordd at Les  (Cymryd Sylw, Cysylltu, Bod yn Egnïol, Dal ati i Ddysgu, Rhoi) i helpu i godi'ch hwyliau

Mae'r Pum ffordd at Les yn gyfres o negeseuon sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi eu hanelu i wella iechyd meddwl a lles y boblogaeth gyfan. Cliciwch yma i ddysgu mwy: https://bipbc.gig.cymru/cyngor-iechyd/5-ways-to-wellbeing/pum-ffordd-at-les/

Dolenni Defnyddiol:

Cyngor ar ddyledion
Llinell Genedlaethol Dyledion (elusen dyled genedlaethol)

https://www.nationaldebtline.org 08088084000

StepChange (elusen dyled genedlaethol)
https://www.stepchange.org

Cefnogaeth Iechyd Meddwl
Llinell Gymorth CALL (Llinell gymorth 24 awr dros Gymru gyfan)
0800132737 www.callhelpline.org.uk

MIND (elusen iechyd meddwl cenedlaethol)
https://www.mind.org.uk/

Darllen yn Dda ar gyfer iechyd meddwl
Mae Darllen yn Dda ar gyfer iechyd meddwl yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol a chymorth ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredinol, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd  https://reading-well.org.uk/wales

Y Pum Ffordd at Les
Gwybodaeth ar sut i ymgorffori

https://bipbc.gig.cymru/cyngor-iechyd/5-ways-to-wellbeing/pum-ffordd-at-les/