Neidio i'r prif gynnwy

Tad a roddodd ei aren er mwyn achub bywyd ei ferch yn galw ar fwy o bobl i drafod rhoi organau

Mae tad a roddodd ei aren er mwyn achub bywyd ei ferch ifanc yn annog yr holl deuluoedd i siarad am roi organau.

Gwnaeth Gareth Charlton, o Ddyffryn Ardudwy, roi rhodd bywyd i'w ferch, Jennie, ym mis Chwefror 2019.

Cafodd Jennie, ddiagnosis methiant yr arennau ychydig cyn ei phenblwydd yn 18 oed ym mis Chwefror 2017.

Bu'r ferch 20 oed yn derbyn dialysis am ddwy flynedd ond nid oedd modd dod o hyd i roddwr arennau iddi a bu'n rhaid iddi ohirio ei hastudiaethau safon uwch yn y coleg ym Mhwlheli am ddwy flynedd.

Cafodd Gareth a'i wraig, Helen, eu profi i weld p'un a oeddent yn addas i roi aren i'w merch.

“Gwnaeth Jennie dreulio rhyw fis ar Ward Hebog yn Ysbyty Gwynedd. Gwnaeth hi dreulio ei phenblwydd yn 18 oed ar y ward a gwnaeth y staff bopeth o fewn eu gallu i gael cacen ac i addurno ei hystafell iddi - roedden nhw mor glên.

“Ar ôl gadael yr ysbyty, bu'n derbyn dialysis gartref yn y lle cyntaf ac yna aeth i unedau arennol Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alltwen.

“Roeddwn i a'm gwraig, Helen, yn benderfynol o wneud unrhyw beth a allem i helpu Jennie a pham cawsom ein profi, daeth i'r amlwg mai fi oedd fwyaf addas.

“Cafodd y llawdriniaeth ei chwblhau yn Lerpwl ym mis Chwefror llynedd ac roedd yn llwyddiant sydd wedi trawsnewid ei bywyd yn gyfan gwbl erbyn hyn," meddai Gareth.

Mae'r teulu wedi'u siomi ar yr ochr orau am y cymorth maent wedi'i gael gan staff ysbyty a hefyd gan Gymdeithas Cleifion Arennol Ysbyty Gwynedd, ac mae Gareth yn bwriadu gwneud taith gerdded noddedig erbyn hyn er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian i'r elusen.

Ychwanegodd: "Rydw i'n gobeithio codi arian at Gymdeithas Cleifion Arennol Ysbyty Gwynedd, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r angen am roddwyr organau, pwysigrwydd trafod eich dymuniadau gyda'ch anwyliaid a hefyd godi ymwybyddiaeth o roi'n anhunanol, lle bo unigolyn yn rhoi organ i ddieithryn.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi gofalu amdanom a'n cefnogi dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

“Bu'r staff ar Ward Hebog, yr unedau arennol yn Ysbyty Gwynedd ac Alltwen, tîm dialysis y cartref, y cydlynwyr a'r trefnwyr trawsblannu oll yn arbennig.

“Nhw yw'r arwyr gwirioneddol ac maen nhw'n dod i'r gwaith bob dydd gan fynd gam ymhellach. Alla' i ddim eu canmol nhw ddigon ac iddyn nhw mae'r diolch bod ein merch yn dal i fod gyda ni."

Bydd Gareth yn cerdded 25 milltir o'r uned arennol yn Ysbyty Alltwen i'r uned arennol yn Ysbyty Gwynedd ar 14 Chwefror, i'w noddi, ewch i: https://www.sponsorme.co.uk/garethcharlton/gareths-kidney-donation-walk.aspx