Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen ddogfen nyrsio yn rhoi cip olwg ar fywyd Nyrs Gofal Dwys

Mae dwy nyrs sy'n gofalu am gleifion difrifol wael Ysbyty Gwynedd yn ymddangos ar raglen ddogfen newydd.

Yn y gyfres newydd 'Nyrsys', ar S4C, rydym yn clywed gan rai o nyrsys mwyaf profiadol Cymru a'r rhai sydd newydd ddechrau eu taith i fod yn nyrs cymwys.

Yn nhrydedd bennod y rhaglen ar 29 Ionawr am 9.30pm byddwn yn clywed gan Hâf Huws a Ceri Morgan sy'n gweithio ar Ward Cybi (Uned Gofal Dwys) yn Ysbyty Gwynedd.

Mae Hâf, sydd wedi gweithio ar Ward Cybi am chwe blynedd, yn disgrifio ei rôl yn yr Uned Gofal Dwys (ICU) fel un sy'n 'symud yn gyflym' ond yn wobrwyol iawn.

Dywedodd: "Mae'r Uned Gofal Dwys yn lle arbenigol iawn i weithio sy'n symud yn gyflym, mae pethau'n newid o funud i funud ac nid ydym byth yn gwybod beth sy'n dod drwy'r drws nesaf - dyma beth sy'n fy nghadw ar flaenau'n nhraed.

"Mae gennym yr hyfforddiant, y dechnoleg a'r sgiliau i ddarparu ymyriadau arbenigol i'r rhai sydd angen gofal critigol pedair awr ar hugain yng Ngogledd Cymru. Mae wir yn lle gwobrwyol i weithio ac mae'r datblygiad rydym yn ei weld yn ein cleifion yn wych. 

"Mae'r hyfforddiant rydym yn ei gael heb ei ail yma yn Ysbyty Gwynedd ac mae ein tîm yn wych. Setlais i mewn yn syth ac rwyf wedi gwneud ffrindiau oes ar hyd y daith.

"Roedd meddwl am yr Uned Gofal Dwys yn ddigalon ac yn ddychrynllyd i ddechrau, ond mae chwe blynedd wedi bod ers i mi ddechrau gweithio ar y ward ac nid wyf wedi edrych yn ôl unwaith."

Dywed Ceri, sy'n gobeithio datblygu ei gyrfa ymhellach o fewn yr adran ar ôl iddi gwblhau ei Modiwl Meistr ym Mhrifysgol Caer: mae rhan anoddaf ei rôl yn ymwneud â rhoi newyddion drwg i deuluoedd ac anwyliaid ei chleifion.

Dywedodd: "Gall bod yn nyrs fod yn anodd iawn ar adegau, a gall rhoi newyddion drwg i gleifion a'u teuluoedd fod y rhan anoddaf.

"Gall fod yn anodd i ni fel nyrsys yn emosiynol, oherwydd, nid yn unig mae'r cleifion yn dod yn rhan o'n Huned Gofal Dwys, ond rydym hefyd yn datblygu perthynas agos gyda'u teulu.

"Nid yn unig rydym yn darparu gofal nyrsio rhagorol, rydym hefyd yn rhoi cefnogaeth emosiynol a moesol i deuluoedd ein cleifion, a all fod yn anodd iawn ond yn wobrwyol iawn."

Darganfyddwch fwy am beth mae'n ei olygu i fod yn nyrs yng Nghymru heddiw yn y rhaglen Nyrsys, ar S4C bob nos Fercher am 9.30pm.