Neidio i'r prif gynnwy

Annog pobl sy'n byw â chyflyrau resbiradol i aros yn iach dros y Gaeaf.

Mae uwch nyrs yng Ngogledd Cymru yn annog pobl sydd â pherygl o anawsterau anadlu i gymryd gofal ac aros yn iach dros y misoedd nesaf.

Anogodd Dr Angela Roberts, Nyrs Arweiniol Gofal Cychwynnol (Ardal y Canol) i bobl sy'n byw â chyflyrau resbiradol megis COPD neu asthma ddilyn cyngor meddygol i leihau'r risg o fod yn sâl dros y gaeaf.

Ers mis Awst 2019, roedd dros 3,500 o achosion yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam yn gysylltiedig â chwynion resbiradol.

Yn ystod misoedd y gaeaf, mae pobl sydd â COPD, Asthma neu gyflyrau resbiradol eraill mewn mwy o berygl o fod yn sâl neu waethygu symptomau eu cyflwr.

Ond, drwy ddilyn cyngor ymarferol i gynnal eich iechyd a'ch lles, gallwn leihau'r risg o fod yn sâl yn y lle cyntaf.

Dywedodd Angela: “Rydym ni'n gwybod weithiau nad oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud ynglŷn â chael annwyd neu'r ffliw, ond mae yna gamau y gallwn ni i gyd eu cymryd i geisio cadw ar ben ein hiechyd a lleihau'r risg honno.

"Gall camau syml megis golchi eich dwylo'n rheolaidd, peidio â rhannu cwpanau, tyweli ac eitemau eraill y tŷ, a gofal personol syml megis cael digon o gwsg wneud gwahaniaeth.

"Os ydych yn gymwys, gall cael y brechiad ffliw hefyd roi'r amddiffyniad gorau sydd ar gael i chi.

 “Dylai pobl sydd â mewnanadlydd, sydd fel arfer yn frown, fod yn eu defnyddio bob dydd fel y rhagnodir. Drwy ddilyn y cyfarwyddiadau'n gywir, gallwch chi eich hunain roi'r cyfle gorau i’ch amddiffyn eich hun.

"Os ydych hefyd yn defnyddio mewnanadlydd glas dair gwaith yr wythnos neu fwy, dylech drefnu i weld eich meddyg neu nyrs asthma i siarad am p'un a ydych angen triniaeth bellach.

“Efallai ei fod yn amlwg, ond bydd sicrhau eich bod wedi'ch lapio i gadw'n gynnes mewn tywydd ofnadwy o oer yn gwneud gwahaniaeth.

"Fe allwch wisgo sgarff llac i orchuddio eich ceg a'ch trwyn. Gall sgarff stopio'r aer oer rhag mynd i mewn i'ch llwybr anadlu, a all sbarduno peswch, gwichian neu frest dynn."