Neidio i'r prif gynnwy

Ystafell perthnasau wedi'i hagor yn swyddogol yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd

Mae staff yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd wedi gweithio mewn partneriaeth gyda'r elusen 2 Wish Upon a Star i agor ystafell deulu newydd ar gyfer rhieni mewn profedigaeth.

Sefydlodd Rhian Mannings MBE yr elusen 2 Wish Upon a Star yn 2012, ar ôl iddi golli ei mab blwydd oed, George. Darganfu Rhian a'i gŵr Paul mai ond ychydig o gefnogaeth oedd ar gael, a gan nad oedd yn gallu ymdopi gyda'r golled, bu farw Paul bum niwrnod wedyn.

Mae'r elusen wedi bod yn gweithio gyda'r tair ysbyty llym ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am nifer o flynyddoedd i greu gwasanaeth sy'n cynnig cefnogaeth i'r rhai sydd ei angen.

Mae'r elusen, sy'n sefydliad Cymru Gyfan ac sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phob bwrdd iechyd a'r heddlu, yn cefnogi pawb sydd wedi'u heffeithio gan farwolaeth sydyn ac yn aml yn drawmatig blentyn neu oedolyn ifanc 25 oed neu'n iau.

Ymwelodd Rhian ag Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar i agor yr ystafell berthnasau newydd yn swyddogol, ystafell a roddwyd drwy'r elusen. 

Dywedodd: "Rydym yn falch bod gan Ysbyty Gwynedd yn awr le addas i deuluoedd a staff eistedd mewn man tawel a phreifat i ffwrdd o fwrlwm yr uned brys prysur.

"Mae teuluoedd sy'n wynebu adegau anodd angen gallu eistedd gyda'i gilydd mewn man nad yw'n fan clinigol gyda mynediad at yr anwyliaid sydd wedi marw.

"Mae'r ystafell wedi cael ei rhoi gan 2 Wish gan ein bod yn teimlo ei fod yn hanfodol bod man fel hyn ar gael ym mhob ysbyty ble mae teuluoedd yn wynebu colled neu ofid.

"Rydym yn edrych ymlaen at barhau ein perthynas gyda'r staff arbennig yn Ysbyty Gwynedd i ddatblygu ein partneriaeth ymhellach."

Dywedodd Debbie Rooney, Prif Nyrs o'r Adran Achosion Brys, roedd y tîm yn falch iawn o groesawu Rhian i'r ysbyty i agor yr ystafell deulu.

Dywedodd: "Rydym yn falch iawn o allu cynnig yr ystafell newydd hon yn ein Hadran Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd a fydd yn rhoi cyfle i deulu a ffrindiau dreulio amser gyda'u hanwyliaid mewn amgylchedd tawelach ar adeg anodd iawn.

"Hoffwn ddiolch i'r elusen 2 Wish Upon a Star am eu cefnogaeth barhaus dros y blynyddoedd ac am eu rhodd garedig a fydd yn dod â chysur i nifer o deuluoedd."

Mae'r elusen hefyd yn rhoi cefnogaeth i staff yn dilyn marwolaeth sydyn ac annisgwyl plentyn neu oedolyn ifanc.

Dywedodd Julie Tomblin, Prif Nyrs yn yr Uned Achosion Brys eu bod yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth ychwanegol hon sydd ar gael gan yr elusen.

"Mae bob amser yn drist iawn pan rydym yn colli unigolyn ifanc yn ein hadran, mae'n effeithio pob un ohonom.

"Mae gennym dîm gwych yma ac mae gennym bob amser gefnogaeth ein gilydd yn dilyn digwyddiad mor drawmatig.

"Fodd bynnag, weithiau mae angen i chi siarad â rhywun y tu allan i'r gwaith ac mae'r ffaith bod yr elusen hon ar gael o fudd mawr i'n staff yn ogystal â'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid."

Am fwy o wybodaeth am yr elusen ewch ar:www.2wishuponastar.org