Neidio i'r prif gynnwy

Cwpwl yn diolch i dîm Cardiaidd Wrecsam a Sir y Fflint a helpodd nhw i ddechrau ar eu ffordd o fyw iach a arweiniodd atynt i golli 10 stôn rhyngddynt

Cafodd Andrew Bibby ddiagnosis o fethiant y galon ar ôl ymgwympo yn ei gartref yn 2016 a chafodd driniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, ac wedyn yn Ysbyty’r Galon a’r Frest Lerpwl.

Cyfeiriwyd Andrew, 59, at y Gwasanaeth Adsefydlu Cardiaidd, sy’n cefnogi pobl sydd wedi cael digwyddiad cardiaidd, fel trawiad ar y galon, stent, rhydwelïau coronaidd neu fethiant y galon, a dechreuodd raglen 12 wythnos a oedd yn ymgorffori ymarfer corff a chyngor ar ddiet.  

Dyma ddechrau ffordd o fyw iach newydd i Andrew a’i wraig, Carole, sydd hefyd wedi colli pedair stôn trwy ymuno â’i gŵr yn y gampfa ym Mhafiliwn Jade Jones yn y Fflint.

“Pan gefais fy nghyfeirio at Ysbyty’r Galon a’r Frest Lerpwl cefais fy rhoi ar y rhestr am abladiad Cardiaidd, triniaeth i greithio neu ddinistrio’r meinwe yn fy nghalon a oedd yn achosi rhythm annormal y galon.  

“Roeddwn wedi dechrau’r rhaglen yn barod gyda’r tîm a chefais wybod gan fy meddyg ymgynghorol y byddai’n well i mi golli mwy o bwysau cyn cael y driniaeth.  

“Gan yr oeddwn yn barod yn mwynhau’r ymarfer corff rhoddais her i mi fy hun i golli pwysau i gyrraedd fy nharged gyda chefnogaeth fy ngwraig a oedd yn awyddus i golli pwysau hefyd.

Dywedodd Andrew. “Mae wedi newid ein bywydau’n llwyr, rydym yn awr yn mynd i’r gampfa bob dydd yn ogystal ag wedi newid ein diet yn gyfan gwbl.”

Llwyddodd Andrew i gyrraedd ei darged o bwyso 93 kilo erbyn mis Mai 2019 ac roedd ei driniaeth abladiad yn llwyddiant.

Ychwanegodd: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r GIG, llwyddodd y tîm Cardiaidd i ddechrau ein ffordd o fyw iach newydd ac roedd y gefnogaeth a gawsom ganddynt yn wych.

“Roedd y tîm yn Ysbyty’r Galon a’r Frest Lerpwl yn arbennig a byddwn yn fythol ddiolchgar am y gofal a gefais yno.

“Mae ein bywydau’n wych yn awr, rydym yn teimlo’n llawer mwy iach a ffit ac roeddem wir eisiau diolch i’r Tîm Adsefydlu Cardiaidd am bopeth y maent yn ei wneud.  

“Pan rydych yn cael bygythiad i’ch iechyd ac mae’n ymwneud â’ch calon, gall ymarfer corff ymddangos yn frawychus iawn. Mae’r tîm Cardiaidd yn tawelu’ch meddwl yn syth ac yn mynd drwy bob ymarfer gyda chi i wneud yn siŵr eich bod yn gyfforddus.

“Ni fyddwn byth yn gallu eu talu’n ôl am yr hyn y maent wedi’i wneud i ni – maent wedi newid ein bywydau’n llwyr.

“Yn ddiweddar aeth Carole a minnau i weld y tîm Cardiaidd i ddiolch iddynt, mae’r ddau ohonom wedi cael ein syfrdanu gyda pha mor gefnogol a gofalgar oedd y tîm gyda’r holl gleifion.”

Dywedodd Jessica Norman, Uwch Nyrs Adsefydlu Cardiaidd: “Mae ein gwasanaeth yn eithaf cymhleth yn mewngorffori tîm amlddisgyblaethol o nyrsys arbenigol, ffisiotherapyddion, ffisiolegwyr ymarfer corff, dietegydd, fferyllydd a therapyddion galwedigaethol, fel ein bod yn gallu cefnogi pobl ar ôl eu digwyddiad cardiaidd, waeth beth yw eu hanghenion cymhleth, ac yn y pen draw lleihau eu risg o ddigwyddiadau cardiaidd yn y dyfodol.

“Rydym hefyd yn cynnig sesiynau addysg cyn neu ar ôl ein sesiynau ymarfer corff ym mhob safle, sy’n cylchdroi bob 8 wythnos, yn cynnwys cyngor ar ddiet, gwybodaeth ar feddyginiaethau, ymarfer corff a lles yn gyffredinol.

“Rydym yn falch iawn o Andrew am yr hyn y mae wedi’i gyflawni ac yn falch o Carole hefyd, sydd wedi gweld pa fanteision y gall newid ei ffordd o fyw ei gael hefyd.

“Roedd yn emosiynol iawn gweld y ddau ohonynt eto a hoffwn ddiolch iddynt am yr adborth caredig ac rwy’n dymuno’n dda iddynt yn y dyfodol.”