Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r GIG yng Ngogledd Cymru wedi cael ei gydnabod unwaith eto am ei ymrwymiad i gefnogi cydraddoldeb a chynhwysiad ar draws ei weithlu

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dod y cyflogwr iechyd yng Nghymru â'r safle uchaf unwaith eto gan Stonewall, sef yr elusen gydraddoldeb lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn ei rhestr o'r 100 o Gyflogwyr Gorau ar gyfer 2020.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cyrraedd safle 39 allan o'r 100 o Gyflogwr Gorau eleni, a’r ail uchaf o'r holl sefydliadau GIG yn y Deyrnas Unedig a gymerodd ran.

Mae pob un o'r 100 Cyflogwr Gorau yn aelodau rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall sy'n helpu cyflogwyr i ymgorffori cynhwysiant LGBT+ ar draws eu gweithleoedd, yn eu gwasanaethau a gyda'r cymunedau maent yn rhan ohonynt.

Meddai Sue Green, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol:

"Rydym yn falch o gael ein cynnwys unwaith eto fel un o’r 100 o Gyflogwr Gorau Stonewall, yn enwedig fel y cyflogwr iechyd gorau yng Nghymru.

"Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymo i'w werthoedd o gydraddoldeb a thegwch, gan ymfalchio yn y ffaith ei fod yn gynhwysol i 17,000 o weithwyr a'r gymuned ehangach.  

"Mae hwn yn gyrhaeddiad arbennig ac yn cael ei roi i ddangos gwaith caled pawb yn y Bwrdd Iechyd sydd wedi gweithio i helpu cael derbyniad i bobl LGBT+ dros y flwyddyn ddiwethaf."

Wrth lunio rhestr y 100 Cyflogwr Gorau, mae Stonewall yn casglu miloedd o ymatebion yn ddienw gan weithwyr ar eu profiad o ddiwylliant ac amrywiaeth yng ngweithleoedd y Deyrnas Unedig.

Yna bydd sefydliadau yn cael eu sgorau, gan ganiatáu iddynt ddeall yr hyn sy'n mynd yn dda a lle mae angen iddynt ganolbwyntio eu hymdrechion arno, yn ogystal â gweld sut maent wedi perfformio o'i gymharu â'r sector a'r rhanbarth.

Gellir dod o hyd i'r rhestr lawn ar wefan Stonewall.