Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Atal Canser Serfigol: Llawfeddyg Gynaecoleg yn Ysbyty Gwynedd yn annog merched i gael prawf sgrinio serfigol

I nodi Wythnos Atal Canser Serfigol, mae'r Oncolegydd Ymgynghorol Gynaecoleg, Richard Peevor yn annog merched i sicrhau bod eu profion ceg y groth yn gyfredol.

Mae canser serfigol yn ffurfio yn y celloedd sy'n ffurfio ceg y groth ac efallai na fydd symptomau yn y camau cynnar, ond gellir ei atal drwy brofion sgrinio serfigol rheolaidd (prawf ceg y groth).

Y ffordd fwyaf effeithiol o atal canser serfigol yw drwy brawf sgrinio serfigol rheolaidd, sy'n caniatáu i unrhyw newidiadau cynnar i gelloedd ceg y groth gael eu canfod. Mae modd trin y newidiadau hyn, ond os nad ydynt yn cael eu canfod na'u trin, gallant arwain at ganser serfigol mewn rhai merched.

Dywedodd Mr Peevor, sy'n Arweinydd Clinigol ar gyfer Colposgopi a Chanser Gynaecoleg ar gyfer BIPBC: "Mae cael prawf ceg y groth yn bwysig iawn gan y gall ganfod unrhyw abnormaleddau o fewn ceg y groth arwain at gwell siawns o driniaeth lwyddiannus.

"Mae'n bwysig trosglwyddo'r neges nad yw prawf sgrinio serfigol yn brawf am ganser, ond yn hytrach mae'n caniatáu i abnormaleddau gael eu canfod yn gynnar.

"Mae canfod unrhyw newidiadau’n gynnar yn allweddol i gynyddu cyfraddau goroesi, felly mae addysgu pawb am y clefyd, ei symptomau a ffyrdd o'i atal yn bwysig iawn.

"Hoffwn achub ar y cyfle hwn i annog pob merch i drefnu eu hapwyntiad holl bwysig ar gyfer prawf sgrinio serfigol, dim ond tua phum munud mae'r prawf yn ei gymryd ac fe all achub eich bywyd."

Yn y DU, rydych yn cael eich gwahodd yn awtomatig am brawf sgrinio serfigol os ydych:

  • Rhwng 25 a 64 oed

Fe'ch gwahoddir chi:

  • bob tair blynedd rhwng 25 a 49 oed
  • bob pum mlynedd rhwng 50 a 64 oed

Mae'r rhan fwyaf o ganser serfigol yn cael ei achosi gan firws a elwir yn firws papiloma dynol (HPV) sy'n firws cyffredin y bydd 8 ym mhob 10 unigolyn yn ei gael. Fel arfer mae'n gwella heb achosi unrhyw broblemau.

"Fel arfer mae HPV yn cael ei basio drwy gyswllt rhywiol, a all wneud i rai pobl boeni a theimlo cywilydd. Ond nid oes dim i fod cywilydd ohono. Gan fod HPV yn byw ar ein croen, mae'n hawdd i chi ei gael ac yn anodd amddiffyn yn llwyr yn ei erbyn. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich system imiwnedd yn cael gwared â HPV heb achosi unrhyw broblemau.

"Bydd prawf sgrinio yn profi sampl o'ch celloedd serfigol am HPV yn gyntaf. Os bydd HPV yn cael ei ganfod, yna bydd yn edrych am newidiadau i gelloedd yn yr un sampl. Mae hyn yn helpu i ddynodi'r rhai sydd â'r risg mwyaf o ddatblygu canser serfigol fel y gallant gael y gofal cywir. 

"Nid yw bod gennych HPV risg uchel yn golygu y byddwch yn cael canser. Fel mathau eraill o HPV, mae HPV risg uchel yn diflannu heb achosi unrhyw broblemau,” ychwanegodd Mr Peevor.

Gellir cael mwy o wybodaeth a chefnogaeth am brawf sgrinio serfigol ar www.jostrust.org.uk a www.cervicalscreeningwales.wales.nhs.uk/home