Neidio i'r prif gynnwy

Norofirws – lledaenwch y gair, nid y firws!

Gofynnir i bobl beidio ag ymweld ag ysbytai a chyfleusterau gofal iechyd eraill ar draws Gogledd Cymru os ydynt wedi cael unrhyw un o symptomau'r norofirws yn ddiweddar.

Fel arfer yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn rydym yn disgwyl gweld nifer yr achosion o ddolur rhydd a chwydu sydd wedi'u cofnodi yn y gymuned yn cynyddu. Felly gofynnir i bobl i helpu i atal y salwch hwn rhag lledaenu, yn enwedig i gleifion bregus, drwy beidio dod â'r salwch hwn i ysbyty.

Dywedodd Amanda Miskell, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio ar gyfer Atal Haint: "Ers dechrau mis Rhagfyr, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y cleifion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty gyda salwch firaol gan gynnwys norofirws.

"Rydym wedi cael cefnogaeth gadarnhaol iawn i'n cyngor gan y cyhoedd yn y blynyddoedd diwethaf ar beth i'w wneud os ydych yn meddwl bod gennych norofirws, neu unrhyw symptomau gastro-enteritis. Mae cefnogaeth pobl ar draws Gogledd Cymru yn hanfodol i helpu i leihau'r risg o ledaenu'r firysau hyn, ac eraill yn ein hysbytai a chymunedau ehangach.

"Er y bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwella o norofirws, er enghraifft, cyn pen ychydig ddiwrnodau gyda gorffwys ac ail-hydradu, gall fod yn fwy difrifol i bobl sydd eisoes yn wael, pobl ifanc iawn a'r henoed.

"Oherwydd gall norofirws, fel y rhan fwyaf o firysau, ledaenu'n gyflym o un i’r llall, ein cyngor yw i chi aros gartref hyd nes eich bod yn teimlo'n well. Hyd yn oed os yw eich symptomau wedi stopio, gallwch barhau i ledaenu'r firws am y 48 awr ganlynol, felly ceisiwch osgoi dod i'n hysbytai."

Y ffordd orau i stopio'r haint rhag lledaenu yw golchi eich dwylo gyda dŵr a sebon yn rheolaidd. Nid yw gel dwylo alcohol yn lladd norofirws.

Gallwch gael norofirws drwy:

  • gyswllt agos gyda rhywun sydd â norofirws
  • cyffwrdd arwynebau neu wrthrychau sy'n cynnwys firws, yna cyffwrdd eich ceg
  • bwyta bwyd sydd wedi cael ei baratoi neu ei drin gan rywun sydd â norofirws.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Galw Iechyd Cymru.