Neidio i'r prif gynnwy

Canolfannau galw heibio iechyd meddwl a lles yn agor yng Nghonwy a Sir Ddinbych

Bydd canolfannau galw heibio'n ei gwneud hi'n haws i bobl yng Nghonwy a Sir Ddinbych gael mynediad at gymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u lles.

 

Bydd y Canolfannau Cymunedol MI FEDRAF (I CAN) ym Mhrestatyn, Y Rhyl a Llandudno yn agor eu drysau am y tro cyntaf dros yr wythnosau nesaf.

Mae'r Canolfannau MI FEDRAF yn leoliadau cymunedol sy'n rhoi cyfle i bobl siarad am eu problemau gyda pobl sy'n gwrando heb farnu, a chael mynediad at y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.

Mae’r canolfannau’n dod ag ystod o sefydliadau at ei gilydd o dan un to i gefnogi pobl sy'n cael trafferth â materion perthnasol i iechyd meddwl, problemau cyffuriau neu alcohol, perthnasau’n torri, anhawsterau â chyflogaeth, profedigaeth, dyled, tai ac unigrwydd.

Byddant yn cael eu cefnogi gan rwydwaith o wirfoddolwyr a staff o asiantaethau cymorth, a fydd yn gweithio'n agos â Meddygfeydd yn yr ardal i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth amserol sydd ei angen arnynt.

Mae'r canolfannau, y gellir cael mynediad atynt drwy alw heibio, heb gael eich cyfeirio na threfnu apwyntiad, yn brosiect ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Drwy ddefnyddio cyllideb o Gronfa Trawsnewid Cymru Iachach, mae'r bwrdd iechyd a'r awdurdodau lleol yn gweithio gydag ystod o elusennau ac asiantaethau cymorth i sefydlu Canolfannau Cymuned MI FEDRAF dros y rhanbarth.

Dywedodd Lesley Singleton, Cyfarwyddwr Partneriaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:  "Mae'r Canolfannau Cymuned MI FEDRAF yn ein galluogi i weithio mewn ffordd llawer yn fwy integredig gyda'n sefydliadau partner i sicrhau bod gan bobl rywle i fynd ble byddant yn cael amser a gofod i siarad am eu problemau gyda rhywun sy'n gwrando arnynt heb farnu, a'u cyfeirio at y gefnogaeth sydd ei angen arnynt.

"Rydym yn gwybod na fydd hyn yn digwydd dros nos, ond mewn amser, rydym yn disgwyl y bydd pobl yn cael y cymorth cynnar sydd ei angen arnynt yn eu Canolfan Cymuned MI FEDRAF lleol, a fydd yn arwain at leihau amseroedd aros a gwella'r canlyniadau ar gyfer y nifer llai o bobl sydd angen cymorth arbenigol ein gwasanaethau iechyd meddwl."

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley sef Prif Aelod Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer Annibyniaeth a Lles:  “Bydd Canolfannau Cymunedol MI FEDRAF yn rhoi gwell mynediad i breswylwyr i ystod o gyngor proffesiynol ac yn eu helpu i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

"Mae hyn yn enghraifft wych o bartneriaeth yn gweithio o fewn ein cymunedau a thrwy weithio gyda'n gilydd gallwn greu cymunedau gwydn a gwella bywydau ein preswylwyr."

Dywedodd y Cynghorydd Louise Emery, Aelod o'r Cabinet dros Ofal Cymdeithasol y Gymuned ac Oedolion yng Nghyngor Bwrdeistref Sir Conwy:  "Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i gynnig amrywiaeth o wasanaethau i unigolion sydd â phryderon iechyd meddwl a hynny mewn amgylchedd sefydlog a chefnogol.   Rydym eisiau cysylltu pobl gydag eraill, gyda gwasanaethau a chefnogaeth heb eu cyfeirio na threfnu apwyntiad - gan wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael y gofal sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt."

Bydd Canolfannau MI FEDRAF pellach yn cael eu hagor ar draws Gwynedd, Ynys Môn, Sir Y Fflint a Wrecsam yn yr wythnosau nesaf.

·    Mae Canolfan Cymuned MI FEDRAF Y Rhyl yn Adeiladau Clwyd, Stryd Clwyd, Y Rhyl ar agor o ddydd Gwener i Ddydd Llun rhwng 11am a  6pm

·    Mae Canolfan Cymuned MI FEDRAF Prestatyn yn Neuadd yr Eglwys Uwch ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. 

·          Mae Canolfan Cymuned MI FEDRAF Conwy, yn 3 Sgwâr y Drindod, Llandudno ar agor ar Ddydd Llun, Dydd Iau a Dydd Gwener bob wythnos o 11am a 3pm