Neidio i'r prif gynnwy

Cyfnod newydd i endosgopi wrth i gamera ar ffurf pilsen gael ei gyflwyno mewn ysbytai yng Ngogledd Cymru

Mae technoleg o'r radd flaenaf er mwyn canfod abnormaleddau yn y coluddyn bach ar gael erbyn hyn i gleifion yng Ngogledd Cymru.

Mae endosgopi trwy gapsiwl yn ddelfrydol i ymchwilio i waedu Gastroberfeddol (GI) aneglur mewn cleifion a'r rheiny a allai fod â llid yn y coluddyn oherwydd cyflyrau fel Clefyd Crohn.

Caiff y capsiwl ei lyncu gan y cleifion, a byddant wedyn yn rhydd i ddychwelyd i'r gwaith neu'r cartref yn ddiweddarach. Ar ei daith trwy'r oesoffagws, y stumog a'r coluddyn bach, mae'n tynnu rhyw 100,000 o ddelweddau, sy'n cael eu trawsyrru'n ddiweddarach i gofnodydd data ar y gwregys.

Wyth awr ar ôl llyncu'r bilsen, bydd y claf yn dychwelyd at yr Adran Endosgopi lle bydd y gwregys yn cael ei dynnu a chaiff y delweddau eu lawrlwytho a'u hadolygu gan endosgopydd clinigol. Mae'r bilsen sy'n cynnwys y camera'n dafladwy a'r cwbl y bydd yn rhaid i'r claf ei wneud yw ei fflysio i lawr y toiled.

Mae Adran Endosgopi Ysbyty Maelor Wrecsam, a ddechreuodd gynnig y gwasanaeth tuag at ddiwedd 2019, eisoes yn gweld buddion y gwasanaeth newydd.

Dywedodd Mandy Collins, Endosgopydd Nyrsio Arweiniol: “Caiff y capsiwl ei ddefnyddio fwy na dim i archwilio'r coluddyn bach er mwyn eithrio gwaedu Gastroberfeddol (GI) aneglur yn achos cleifion sydd ag anaemia diffyg haearn a symptomau GI eraill lle nad yw endosgopi a cholonosgopi wedi canfod unrhyw achos amlwg.

“Caiff ei ddefnyddio hefyd i ymchwilio i gleifion a'u hasesu sydd â Chlefyd Crohn er mwyn helpu i benderfynu p'un a oes angen triniaeth bellach.

“Mae'r canlyniadau yr ydym wedi'u cael hyd yn hyn o ddefnyddio Endosgopi trwy Gapsiwl yn addawol iawn, ac mae'r adborth gan ein cleifion wedi bod yn wych.

“Gweithred anymwthiol ydyw ac mae'n caniatáu i gleifion barhau â'u harferion o ddydd i ddydd."

Mae darparu'r gwasanaeth yng Ngogledd Cymru yn caniatáu i gleifion fanteisio ar y weithred yn agosach at eu cartrefi, oherwydd tan yn ddiweddar, byddent wedi cael eu cyfeirio at Ysbyty Brenhinol Lerpwl.

Dywedodd y Gastroenterolegydd Ymgynghorol, Dr Jonathan Sutton, yn Ysbyty Gwynedd, sy'n edrych ymlaen at ddechrau'r gwasanaeth hwn dros yr ychydig wythnosau nesaf: “Prif fantais endosgop y coluddyn bach yw ei allu i gynnig delweddau cyflawn ac uniongyrchol i feddygon er mwyn gwerthuso'r coluddyn bach. Mae hyn yn gwella ein gallu i ganfod abnormaleddau fasgwlaidd sy'n achosi gwaedu GI a symptomau eraill.

“Mae hefyd yn caniatáu i ni gynnig gweithred nad yw'n rhy ymwthiol i gleifion heb fod angen tawelyddion.

“Gall y claf lyncu'r bilsen, a pharhau â'i fywyd normal o ddydd i ddydd gan gael archwiliad llawn o'r coluddyn bach, a dychwelyd yr offer ar ddiwedd y dydd.

“Rydym yn hynod falch y byddwn yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn yn fuan yn Ysbyty Gwynedd, bydd yn darparu gwasanaeth gastroberfeddol hanfodol ar gyfer ein cleifion yn lleol heb orfod teithio i ysbyty arall."