Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Ddogfen yn rhoi cipolwg o fywydau prysur nyrsys llawfeddygol Ysbyty Gwynedd

Mae Nyrsys sy'n gweithio ar ddwy ward llawfeddygol yn Ysbyty Gwynedd yn gobeithio ysbrydoli eraill i'r alwedigaeth drwy raglen ddogfen newydd.

Mewn cyfres newydd ar S4C - Nyrsys - rydym yn clywed gan rai o nyrsys mwyaf profiadol Cymru a'r rhai sydd newydd ddechrau am eu profiadau nyrsio.

Yn y bedwaredd raglen ar 5 Chwefror am 9.30pm rydym yn clywed gan Cath Jones a Sophie Burgess sy'n gweithio ar y wardiau llawfeddygol yn Ysbyty Gwynedd.

Mae Cath, sy'n gweithio ar Ward Ogwen, sef ward Trawma ac Orthopaedeg, wedi gweithio fel nyrs am dros 30 mlynedd.

Dywedodd: "Dechreuais fy ngyrfa fel nyrs yn yr Adran Achosion Brys yn 1985 ac rwyf wedi aros yn y proffesiwn ers hynny.

"Mae llawer wedi newid yn y maes nyrsio ers i mi ddechrau, ond rwyf wedi mwynhau fy ngyrfa dros y blynyddoedd.

"Mae'n swydd werthfawr iawn ac nid oes dim gwell na gadael ar ôl sifft hir yn gwybod eich bod wedi gofalu am eich claf y gorau y gallwch a’ch bod wedi gwneud gwahaniaeth iddynt."

Dewisodd Sophie, sy'n gweithio ar Ward Tegid, ac sy'n gofalu am gleifion colorectol ac wroleg, ymddangos ar y rhaglen i ysbrydoli eraill i mewn i'r proffesiwn.

Dywedodd: "Roeddwn yn awyddus iawn i ymddangos ar y rhaglen gan fy mod eisiau ysbrydoli eraill i ystyried nyrsio fel gyrfa a'r cyfleoedd yn y maes nyrsio. Ond yn fwy na dim i'r cyhoedd gael gweld beth rydym yn ei wneud.

"Yr hyn rwyf yn ei hoffi fwyaf am fy rôl yw gwneud gwahanaiaeth i'n cleifion. Wrth weithio ar ward lawfeddygol rydym yn gweld cleifion ar eu gwaethaf, yna maent yn cael llawdriniaeth ac fel arfer rydym yn eu gweld yn gwella ac yn mynd adref.

"Nid oes dim byd gwell na gweld ein cleifion yn cael eu hansawdd bywyd yn ôl."

Darganfyddwch mwy am beth mae wir yn ei olygu i fod yn nyrs yng Nghymru heddiw yn Nyrsys, ar S4C bob nos Fercher am 9.30pm.