Neidio i'r prif gynnwy

Nofel gyntaf awdur o Fôn yn anelu at amlygu iechyd meddwl, hunanladdiad a phrofedigaeth

Mae dynes o Fôn a brofodd drasiedi colli plentyn oherwydd hunanladdiad wedi ysgrifennu llyfr er mwyn helpu eraill trwy eu gofid.

Dywedodd Carol Horne ei bod yn gobeithio y bydd ei nofel, The Alchemy of Kindliness: A Testament, yn cynnig "cipolwg gwerthfawr a phositif, uwchlaw popeth, ar broses iacháu a gwellhad i eraill."

Mae'r nofel, a gyhoeddir gan Herbary Books yng Nghaernarfon, yn manylu ar daith dwy ddynes sy'n byw yn Ynys Môn 50 mlynedd ar wahân, sy'n cael anhawster i ddod i delerau â'r cyfnod yn dilyn lladd baban a hunanladdiad. 


Wrth i'r ddwy stori gael eu dinoethi, mae paralelau'n dechrau dod i'r amlwg sy'n fodd o gysylltu gorffennol a phresennol y ddwy ddynes a'u cysylltiad â'r fferm fach yn Ynys Môn sy'n gartref i'r ddwy.

Dywedodd Carol, sydd wedi bod yn gweithio fel Gweinyddwr yn Ysbyty Gwynedd dros y 20 mlynedd diwethaf: "Mae'r llyfr yn dangos ffrwyth llafur fy ymdrechion i godi ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl a'r cyfnod sy'n dilyn trasiedi personol; ac felly i roi cyd-destun i ddarllenwyr sydd wedi'u heffeithio mewn rhyw ffordd gan ddigwyddiadau tebyg lle y gallent gael cymorth a dewisiadau, gan wybod nad ydynt ar eu pennu eu hunain. 


“Ychydig iawn sy'n cael ei ysgrifennu am yr agwedd hon ar farwolaeth dreisgar i'r sawl sy'n goroesi - sy'n cynnwys teulu, ffrindiau, ysgolion a'r gymuned gyfan. Er ei bod yn un ffuglennol, mae'r stori'n naratif cymysg gyda sail ffeithiol hanesyddol, ynghyd â'm hatgofion fy hun ac atgofion llawer un arall yr ydw i wedi siarad â nhw yng Nghymru a'r Gororau dros gyfnod o saith mlynedd, a aeth trwy drasiedi tebyg i mi tua'r un adeg."

“Mae un rhan o'r stori'n canolbwyntio ar y cyfnod ar ôl y rhyfel ac mae'n disgrifio effeithiau cymdeithasol a theimladau ar hyd a lled y DU ynghylch ffoaduriaid/mewnfudwyr Pwylaidd ar yr adeg honno - a'r canlyniadau personol trasig i'r ffoadur ifanc, Annie.  

“Mae'r rhan arall yn digwydd tua'r flwyddyn 2000 ac mae adrodd stori'n ymwneud â sut mae mam o'r enw Sarah, yn delio â hunanladdiad ei merch, ac sydd, dros y blynyddoedd yn cael mewnwelediad personol dwfn, yn dysgu ystyr trugaredd ac yn llwyddo, gobeithio, i achub ei phriodas, yn y pen draw. 

Bydd Carol yn rhoi 50% o freindaliadau gwerthu'r llyfr i helpu rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Ymyriadau Hunanladdiad Cymwysedig gan Mind Gwynedd a Môn a Josh's Lighthouse Project - sef prosiect nid-er-elw a sefydlwyd er cof am Josh Llwyd-Hopcroft, unigolyn ifanc yn ei arddegau, a laddodd ei hun yn drychinebus yn 2016.

Er ei bod yn awdur cynhyrchiol gydol oes o straeon byrion a barddoniaeth, The Alchemy of Kindliness yw llyfr hyd lawn cyntaf Carol.

Dyddiad ryddhau disgwyliedig y llyfr yw 1 Mawrth a gellir ei archebu ymlaen llaw fel llyfr clawr papur neu Kindle ar Amazon: www.amazon.co.uk/dp/1916339603 neu o Waterstones neu WH Smiths