Neidio i'r prif gynnwy

Dynes o Fangor mewn adferiad o ddibyniaeth ar gyffuriau'n talu teyrnged i raglen therapi a newidiodd ei bywyd.

Mae dynes o Fangor a ddihangodd rhag bywyd o drais a bod yn gaeth i gyffuriau, diolch i raglen therapi a newidiodd ei bywyd, yn dweud ei bod am roi gobaith i eraill bod adferiad yn bosibl.

Treuliodd Saffron Roberts dri degawd yn gaeth i gyffuriau ac mewn perthnasoedd ble cafodd ei cham-drin yn gorfforol, cyn cael ail gyfle mewn bywyd trwy raglen Symud Ymlaen Yn Fy Adferiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae'r fam i ddau yn rhannu ei hanes rhyfeddol o adferiad i roi gobaith i  eraill sy'n cael trafferth gyda dibyniaeth.

Dechreuodd Saffron, 40 oed, ddefnyddio canabis, asid ac amffetaminau yn 14 oed, cyn cael ei chyflwyno i gocên a chrac cocên.

Er iddi fod yn benderfynol peidio byth â defnyddio heroin, ar ôl i'w brawd farw ar ôl gorddos yn 30 mlwydd oed, cafodd Saffron ei chyflwyno i'r cyffur gan bartner a oedd yn ei cham-drin.  Flynyddoedd yn ddiweddarach, byddai'n colli ail frawd i orddos o heroin.

Dioddefodd ing ar ôl i'w dau blentyn gael eu tynnu o’i gofal gan y gwasanaethau cymdeithasol, a dioddef ymosodiadau treisgar yn nwylo ei phartner a gwerthwyr cyffuriau eraill.

"Roedden ni'n byw gyda gwerthwyr cyffuriau a byddai ymosodiadau treisgar hirfaith" dywedodd.

"Dysgais yn gyflym iawn i wneud beth bynnag yr oedd gofyn i mi ei wneud a chadw fy ngheg ar gau. Dros y blynyddoedd nesaf, treuliais bob diwrnod yn chwistrellu cyffuriau, gwerthu cyffuriau, dwyn o siopau, dosbarthu parseli a beth bynnag yr oedden nhw'n gofyn imi am ei wneud. Daeth heddlu arfog i'r tŷ sawl gwaith, ond os oedd y gwerthwyr cyffuriau'n cael eu dal, byddai rhai eraill yn cymryd eu lle.

"Rydw i wedi torri fy asennau, torri fy mraich ac mae gen i lawer o greithiau lle rydw i wedi cael fy mrathu a fy mrifo.  Roeddwn i mewn poen gorfforol yn barhaus ac roeddwn i'n deffro yn y nos yn ceisio cael fy ngwynt ataf.  Roeddwn i wedi dod yn berffaith iawn gyda'r syniad y gallai'r nifer o gyffuriau yr oeddwn yn eu cymryd fy lladd.

"Doeddwn i ddim eisiau byw fy mywyd fel hyn a doeddwn i methu'n glir â dod o hyd i'r ffordd allan.  Nid oeddwn i'n gweld fy mhlant, roeddwn i wedi siomi fy nheulu ac wedi colli cymaint o Nadoligau, pen-blwyddi a digwyddiadau pwysig i'r teulu, gan gynnwys angladd fy Nhaid a phriodas fy mrawd."

Gyda'r boen barhaus o golli ei phlant yn sbardun iddi, cafodd Saffron y dewrder i ddianc o'i hen fywyd a rhoi'r gorau i ddefnyddio cyffuriau.

"Ar ôl cael fy nghuro'n ofnadwy o ddrwg, meddyliais, petawn i’n marw, bydd fy mhlant yn meddwl nad ydw i wedi ceisio brwydro drostyn nhw.  Roeddwn i wedi colli ffydd yn fy hun, ond doeddwn i ddim eisiau i fy mhlant gredu mod i wedi colli ffydd ynddyn nhw. 

"Ar 19 Ebrill 2018, gadewais y fflat ym Mae Colwyn ac aeth fy Nhad â mi i loches Cymorth i Ferched Cymru, lle cefais gefnogaeth gan Swyddog Cam-drin Domestig. Ffoniodd ambiwlans a doedd y Meddygon methu â chredu fy mod i'n dal i anadlu."

Yn y misoedd dilynol, cafodd Saffron ei chefnogi gan Cymorth i Ferched Cymru a gwasanaeth camddefnyddio sylweddau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cyn cael ei chyfeirio at Dŷ Penrhyn sydd ar gyrion Bangor, sy'n helpu pobl yn eu hadferiad ar ôl camddefnyddio sylweddau hir dymor.

Yno y cafodd ei chyflwyno i Symud Ymlaen Yn Fy Adferiad, sy'n cael y clod am helpu cannoedd o bobl ledled Gogledd Cymru i wella'n barhaus ar ôl bod yn gaeth i sylweddau.

Yn annhebyg i nifer o raglenni  traddodiadol, mae Symud Ymlaen Yn Fy Adferiad wedi cael ei ddatblygu gyda defnyddwyr gwasanaeth yn seiliedig ar yr hyn sydd wedi gweithio iddynt hwy wrth iddynt wella. Mae'n cael ei ddarparu gan unigolion sydd wedi byw â dibyniaeth, ochr yn ochr â staff o wasanaethau triniaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Darganfyddodd astudiaeth ddiweddar a gafodd ei chyllido gan Alcohol Change UK fod y rhaglen Symud Ymlaen Yn Fy Adferiad yn effeithiol wrth helpu i bobl gyflawni adferiad cynaliadwy o ddibyniaeth.  Hefyd, darganfuwyd bod y rhaglen yn gwella hyder, sgiliau bywyd, y gallu i ddelio ag anawsterau bywyd pobl yn ogystal â lleihau gorbryder a hwyliau isel.

"Roedd dibyniaeth wedi fy ninistrio ac roeddwn yn gragen wag, wedi torri ac roeddwn ofn popeth", meddai Saffron.

"Doeddwn i ddim yn gwybod pwy oeddwn i neu beth oeddwn i'n ei hoffi.  Doeddwn i'n gwybod dim am adferiad a doeddwn i erioed wedi bod i unrhyw gyfarfodydd neu grwpiau o'r blaen.  Ond, roedd pobl yn Nhŷ Penrhyn eisiau fy helpu.  Roedden nhw'n chwerthin yn aml ac roedden nhw'n gofalu am ei gilydd ac yn gofalu amdanaf i."

Bellach, mae Saffron wedi rhoi'r gorau i gamddefnyddio sylweddau ers bron i ddwy flynedd ac mae wedi dysgu i adeiladu "pwyntiau angor" yn ei bywyd i'w helpu i barhau i ymatal.  Mae'r rhain yn cynnwys atgyweirio ei pherthynas gyda'i phlant a'i theulu ehangach, yn ogystal â mynychu cwrs ysgrifennu creadigol, dosbarthiadau boxercise ac ysgrifennu barddoniaeth.

Hefyd, mae'n gwirfoddoli yn Nhŷ Penrhyn yn aml ble mae'n helpu i hwyluso sesiynau therapi Symud Ymlaen.

"Roedd fy nibyniaeth yn swydd lawn amser, felly rydw i'n trin fy adferiad yr un fath achos heb fy adferiad, does gen i ddim byd," esboniodd.

"Rwyf wedi dechrau ysgrifennu at fy merch.  Mae'n 11 mlwydd oed bellach a dydw i heb ei gweld ers ei bod yn 5 mlwydd oed.  Rwy'n gweithio ar wella ein perthynas.  Mae gen i berthynas wych gyda fy mab a'm tri brawd. 

"Rwy'n gwybod o Symud Ymlaen yn fy Adferiad y gallwn wella drwy gyfrannu i eraill. 

"Rwyf am sicrhau nad yw’r blynyddoedd o ddirywiad a phoen yn cael eu gwastraffu trwy ddefnyddio fy stori o brofiad, cryfder a gobaith i helpu rhywun arall i wella. Oherwydd dim ond drwy rhannu rhywbeth gydag eraill y gallwn gadw’r hyn sydd gennym ni."

Gall cyfeiriadau i raglen Symud Ymlaen Yn Fy Adferiad gael eu gwneud drwy Wasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

**Mae DAN 24/7 yn llinell gymorth ffôn a chyfrinachol am ddim sy’n darparu un pwynt cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau mwy o wybodaeth neu help ynglŷn â chyffuriau neu alcohol.  Ffoniwch radffôn 0808 808 2234 neu tecstiwch 'DAN' i 81066**