Neidio i'r prif gynnwy

Gwahardd ymweliadau ar draws holl ysbytai Gogledd Cymru

Gweler ein diweddariad diweddaraf ar ymweld o 04/09/20

Mae ymweld â holl ysbytai Gogledd Cymru wedi’i wahardd er mwyn helpu i atal rhag ymledu COVID-19.

O heddiw (dydd Iau 26 Mawrth), dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y caniateir ymweld â chleifion nad ydynt wedi’u heintio â COVID-19:

  • Un rhiant neu warcheidwad ar gyfer cleifion mewnol paediatrig (Ward y Plant) a wardiau’r newydd-anedig;
  • Un ymwelydd ar y tro am gyfnod penodol ar gyfer cleifion sy’n derbyn gofal diwedd oes. Mae’n rhaid cael caniatâd prif nyrs y ward neu’r nyrs â chyfrifoldeb ymlaen llaw
  • Caniateir un partner geni o’r un cartref i gefnogi merched sy’n rhoi geni

Efallai y bydd eithriadau eraill mewn amgylchiadau arbennig ar ddisgresiwn prif nyrs y ward/nyrsys â chyfrifoldeb neu reolwyr, yn unol â chyngor ein Tîm Rheoli Atal Heintiau.

Ni ddylai ymwelwyr a phartneriaid geni ddod i’r ysbyty os ydynt yn sâl neu’n dangos symptomau COVID-19, sef peswch parhaus newydd a thymheredd uchel.

Ni chaniateir unrhyw ymwelwyr sy’n feichiog, o dan 12 oed, neu’r rheiny a ystyrir eu bod mewn categori risg fawr.

Bydd caniatâd i ymweld ag unrhyw gleifion sy’n profi’n bositif am COVID-19 yn cael ei roi mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, yn unol ag arweiniad ar y pandemig a chyngor gan ein tîm Rheoli Atal Heintiau. Yn achos cleifion gofal diwedd oes sy’n profi’n bositif am COVID-19, dylid cael caniatâd ymlaen llaw gan brif nyrs y ward neu’r nyrs â chyfrifoldeb ac os cytunir i hynny, dylai fod un ymwelydd ar y tro am gyfnod cytunedig o amser. Darperir cyfarpar diogelu personol (PPE), os yw’n briodol.

Mae’n rhaid i’r holl ymwelwyr gydymffurfio â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol cyn belled ag y bo’n bosibl ac mae’n rhaid iddynt gadw at ragofalon llym ar hylendid y dwylo a rheoli heintiau wrth gyrraedd a gadael. Ni chaiff ymwelwyr ymweld ag unrhyw gleifion eraill neu gyfleusterau eraill yn yr ysbyty ar eu ffordd yno.

Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn annog teulu a ffrindiau partneriaid sydd o dan ein gofal i ystyried ffyrdd eraill o gadw mewn cysylltiad, gan gynnwys defnyddio WiFi am ddim yn ein hysbytai i ddefnyddio FaceTime neu i wneud galwadau fideo.

Dywedodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth: “Rydym yn deall pa mor bwysig yw hi i gleifion gadw mewn cysylltiad â’u hanwyliaid. Ond mae diogelwch ein cleifion a staff o’r pwys mwyaf, ac mae’n hollbwysig i ni gymryd pob cam rhesymol er mwyn lleihau risg heintio yn ein hysbytai.

“Os nad oes modd i chi fod yno’n gorfforol, rydym yn cynnig WiFi am ddim ym mhob un o’n hysbytai. Felly i’r rheiny sy’n gallu defnyddio ffonau clyfar neu lechi electronig, byddem yn annog ymweliadau rhithwir fel ffordd wych o gadw mewn cysylltiad, lle bo’n briodol.”