Neidio i'r prif gynnwy

Canolfannau Asesu Lleol i gefnogi gofal yn y gymuned ar draws Gogledd Cymru

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithio gyda phractisau meddygon teulu ar draws Gogledd Cymru sy'n sefydlu Canolfannau Asesu Lleol er mwyn helpu i reoli trin cleifion sydd â symptomau COVID-19 yn y gymuned.

Mae llawer o bractisau meddygon teulu ar draws Gogledd Cymru yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn darparu gwasanaeth ar gyfer eu holl gleifion gan geisio atal COVID-19 rhag ymledu.  

O ganlyniad, bydd y ffordd y caiff gwasanaethau meddygon teulu eu darparu yn newid o'r wythnos hon ymlaen.

Bydd y Canolfannau Asesu Lleol yn asesu cleifion sydd â symptomau COVID-19, naill ai i reoli eu symptomau yn y cartref neu i gael eu cyfeirio am driniaeth bellach.

Dylai cleifion sydd angen manteisio ar driniaeth a gwasanaethau barhau i ffonio eu practis meddyg teulu arferol yn gyntaf er mwyn gofyn am gymorth.

Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ffonio pob claf er mwyn trafod eu hanghenion gofal.

Os nad yw'r cymorth a ofynnir amdano yn ymwneud â COVID-19, efallai y byddant yn cael gwahoddiad i fynd i'w meddygfa arferol neu bractis cyfagos arall am gymorth pellach.

Os tybir bod gan y sawl sy’n ffonio COVID-19, efallai y byddant yn cael eu cyfeirio’n hytrach at un o’r Canolfannau Asesu Lleol a restrir isod.

Ni fydd y Canolfannau Asesu Lleol yn profi cleifion am COVID-19, ac maent wedi'u bwriadu ar gyfer cleifion sy'n cael cynnig apwyntiad yn unig. Nid ydynt yn cynnig gwasanaeth galw heibio.

Bydd cleifion yn cael cyfarwyddiadau clir ar beth i'w wneud wrth ddod i apwyntiad mewn Canolfan Asesu Leol er mwyn sicrhau bod pob claf, gofalwr a staff y Ganolfan yn ddiogel.

Mae datblygu Canolfannau Asesu Lleol yn dilyn arweiniad cenedlaethol, ac mae newidiadau tebyg eisoes yn cael eu rhoi ar waith mewn mannau eraill yng Nghymru.

Dywedodd Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Cychwynnol a Gwasanaethau Cymunedol: “Mae datblygu Canolfannau Asesu Lleol yn gam pwysig arall yn ein cynlluniau i reoli lledaeniad COVID-19 yng Ngogledd Cymru.

“Bydd y Canolfannau Asesu Lleol yn helpu practisau meddygon teulu i barhau i gynnig gwasanaethau gan osgoi tarfu gymaint â phosibl.

“Dylai cleifion barhau i ffonio eu practis meddyg teulu cofrestredig yn y ffordd arferol, ond efallai y byddant yn cael eu cyfeirio at fan arall gan ddibynnu pa driniaeth sydd ei hangen arnynt.

“Gwyddom y gallai hyn arwain at deithiau pellach i gleifion mewn rhai achosion, ac mae'n wirioneddol ddrwg gennym am hynny. Ond, rydym yn gobeithio bod pobl yn deall bod hwn yn ddatblygiad y bu'n rhaid i ni ei wneud er mwyn helpu i gadw pawb, gan gynnwys ein staff Gofal Cychwynnol, mor ddiogel â phosibl."

"Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a ddangoswyd gan y rhan fwyaf o'r cyhoedd yn dilyn arweiniad y Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol.

“Mae llwyddiant y cynlluniau yr ydym yn eu rhoi ar waith i reoli lledaeniad COVID-19 yn dibynnu ar y cyhoedd i ddilyn yr arweiniad hwn. Diolch am helpu i gefnogi'r GIG yng Ngogledd Cymru trwy ddilyn y cyngor cenedlaethol."

Mae'r tîm yn y Ganolfan Asesu Leol yn cynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn eich cymuned leol a phractisau meddygon teulu, ac efallai y bydd meddyg teulu neu nyrs o bractis arall yn eich gweld. 

Mae Canolfannau Asesu Lleol wedi dechrau ar y gwaith, neu maent wrthi’n cael eu sefydlu, yn y lleoliadau a ganlyn:

  • Caergybi (Meddygfa Longford House)
  • Llanfair PG (Canolfan Iechyd)
  • Pwllheli (Ysbyty Bryn Beryl)
  • Dolgellau (Ysbyty Dolgellau)
  • Bae Colwyn (Canolfan Feddygol West End)
  • Y Rhyl (Meddygfa Tŷ Elan, meddygfa gangen Canolfan Feddygol Clarence House)
  • Gallt Melyd (Canolfan Gymunedol Gallt Melyd, meddygfa gangen Healthy Prestatyn Iach)
  • Dinbych (Clwb Rygbi Dinbych)
  • Cei Connah (Canolfan Iechyd y Cei)
  • Y Fflint (Canolfan Iechyd a Lles y Fflint)
  • Canolfan Feddygol Glanrafon, Bradley's (Y Wyddgrug)
  • Wrecsam (Meddygfa Parc Borras)

 

Caiff rhagor o Ganolfannau Asesu Lleol eu cyflwyno dros yr wythnosau nesaf.