Neidio i'r prif gynnwy

Sefydlu Unedau Profi i roi profion blaenoriaeth i staff y GIG am y Coronafeirws Newydd

Mae Unedau Profi Covid-19 newydd drwy ffenest y car wedi eu sefydlu mewn tri lleoliad ar draws Gogledd Cymru i gefnogi'r ymateb i fynd i’r afael â’r Coronafeirws Newydd (COVID 19).

 

Ar hyn o bryd, bydd yr Unedau Profi ond yn rhoi profion blaenoriaeth i weithwyr y GIG sy'n ymwneud â'r ymateb i achosion Covid-19.

 

Bydd hyn yn lleihau'r risg o Staff y GIG yn heintio cleifion eraill, neu'n gorfod bod yn absenoldeb o'r gwaith i hunan-ynysu os ydynt yn datblygu symptomau, heb gadarnhad a oes ganddynt y feirws ai peidio.

 

Mae'r unedau profi, sydd wedi’u sefydlu yn dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, wedi'u lleoli yn Ysbyty Alltwen, Tremadog; Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan; ac ar safle Ysbyty Maelor Wrecsam. Byddant yn dechrau profi yfory (dydd Gwener 20 Mawrth).

 

Roedd yr unedau profi wedi'u sefydlu i ddarparu profion blaenoriaeth yn ystod cam cyfyngu swyddogol achosion, ond cawsant eu cau dros dro wrth i'r DU symud i'r cyfnod oedi.

 

Nid yw'r unedau newydd yn gweithredu gwasanaeth galw heibio ac ni fyddant yn rhoi prawf heb apwyntiad ymlaen llaw ar gyfer staff y GIG nac aelodau’r cyhoedd.

 

Nid oes perygl ychwanegol i bobl sy'n byw yng nghyffiniau’r unedau hyn. Mae ystod o ragofalon a mesurau atal heintiau wedi cael eu hystyried a'u rhoi ar waith, gan gynnwys protocolau clinigol llym a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol, i gadw staff, cleifion a phobl sy'n byw ac yn gweithio gerllaw yn ddiogel.

 

Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Bydd yr Unedau'n rhoi profion i staff y GIG sydd â rôl hanfodol i'w chwarae wrth fynd i’r afael ag achosion Covid-19. 

"Nid canolfannau galw heibio yw'r rhain ac rydym yn gofyn i'r cyhoedd beidio ymweld â'r unedau, oherwydd ni fyddant yn cael prawf, ond efallai byddai hynny’n achosi oedi i staff y GIG. Hoffwn roi sicrwydd nad oes perygl ychwanegol i bobl sy'n byw yng nghyffiniau’r unedau hyn.

"Rydym yn annog pobl i barhau i ddilyn y cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bellach, nid oes angen i bobl gysylltu â gwasanaeth 111 y GIG os ydynt yn credu eu bod wedi dal y Coronafeirws Newydd (COVID-19). Dylai pobl sydd â thwymyn neu beswch cyson aros gartref am saith niwrnod os ydynt yn byw ar eu pennau eu hunain ac am 14 diwrnod os ydynt yn byw gyda phobl eraill. 

"Dylai unrhyw un sy'n byw gyda rhywun sy'n dangos symptomau coronafeirws ynysu ei hun ac aros gartref am 14 diwrnod hefyd. Ni ddylent fynd i’r feddygfa, y fferyllfa neu’r ysbyty.  

“Dim ond os ydynt yn teimlo na allant ymdopi â'u symptomau gartref, bod eu cyflwr yn gwaethygu, neu nad yw eu symptomau'n gwella ar ôl saith niwrnod y dylent gysylltu â gwasanaeth 111 y GIG"