Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn rhaglen dreialu glinigol sy'n astudio brechlyn ymchwiliol yn erbyn COVID-19.
Mae dros £220,000 wedi ei roddi i Ysbyty Maelor Wrecsam tuag at offer hanfodol diolch i wirfoddolwyr Gwasanaeth Gwirfoddol Maelor.
Wrth i’r cyfnod atal byr ddod i rym ar draws Gogledd Cymru heno, mae Meddyg o Ysbyty Maelor Wrecsam yn annog y cyhoedd i ddilyn y cyfyngiadau sydd ar waith i helpu i ddod ag achosion COVID-19 o dan reolaeth unwaith eto.
Mae llawdriniaeth fawr canser y bledren wedi dychwelyd i Ogledd Cymru yn dilyn ymgyrch recriwtio lwyddiannus am lawfeddygon newydd.
Mae canolfan brofi trwy ffenestr y car Ysbyty Alltwen bellach ar agor i'r cyhoedd er mwyn ei gwneud yn haws i bobl yn yr ardal fanteisio ar brawf COVID-19 yn agosach i'w cartrefi.
Mae grŵp o redwyr wedi cwblhau gweithgaredd codi arian heriol 24 awr i helpu teuluoedd sydd â phlant gwael ar draws Gogledd Cymru.
Mae canolfan brofi newydd wedi agor yng Nghorwen i’w gwneud yn haws i bobl yr ardal gael apwyntiad am brawf COVID-19 yn nes at eu cartrefi.
Mae staff ar linell gymorth iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru'n atgoffa pobl ei fod yn iawn i beidio â bod yn iawn, wrth i'r ardal wynebu cynnydd yn nifer yr achosion COVID-19.
Mae porthor yn Ysbyty Glan Clwyd a dreuliodd bum niwrnod ar beiriant anadlu ar ôl dal COVID-19 wedi dychwelyd i'r gwaith.
Mae pobl yng Ngogledd Cymru sy'n cael anawsterau iechyd meddwl yn cael eu hannog i gael mynediad at ystod o gyrsiau therapi am ddim ar-lein, sydd ar gael heb gyfeiriad gan eu Meddyg Teulu.
Mae nyrs diabetes yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth a hunanreolaeth o hypoglycaemia ymysg oedolion â diabetes, fel rhan o ymgyrch genedlaethol codi ymwybyddiaeth.
Mae cannoedd o brydau iach wedi eu gweini wrth i’r Bwrdd Iechyd gyflwyno ei fenter bwyta’n iach yn ystod y pandemig COVID-19.
Mae'r tîm Dermatoleg yn Ysbyty Gwynedd, sydd wedi trawsnewid eu gwasanaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ar restr fer am wobr genedlaethol fawreddog.
Mae nyrs Gofal Critigol a gollodd ei nain, yn anffodus, i COVID-19 yn annog eraill i ddilyn y canllawiau er mwyn atal rhag lledaenu'r firws.
Gofynnir i bobl sy'n dymuno cael triniaeth yn Unedau Mân Anafiadau Llandudno, Dinbych a Threffynnon ffonio'r uned cyn ei mynychu.
Mae dynes o Lŷn wedi canmol staff yn Ysbyty Gwynedd am drawsnewid ei bywyd a'i helpu i gael ei thraed 'tani.
Actor Gymru Michael Sheen yn apeilio arnom fobl Gogledd Cymru i gael y brechlyn Fliw.
Y Tîm Poen Cronig yn Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r cyntaf yng Nghymru i ddarparu rhaglen rheoli poen rhithwir ar gyfer eu cleifion.
Mae uwch nyrs sy'n arwain Nyrsys Ardal Abergele wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr y Deyrnas Unedig gyfan. Mae Amanda Hughes, sy'n Arweinydd Tîm, yn y ras i ennill gwobr Rheolwr Nyrsio’r Flwyddyn yng ngwobrau Gweithlu'r Nursing Times.
Mae gwasanaeth ymgynghori newydd, Attend Anywhere, yn cael ei ddefnyddio er mwyn helpu cleifion o Ogledd Cymru i gael apwyntiadau heb adael eu cartrefi