Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau i ymestyn gwasanaeth Parcio a Theithio Ysbyty Glan Clwyd am 12 mis arall

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymestyn y gwasanaeth Parcio a Theithio yn Ysbyty Glan Clwyd am 12 mis ychwanegol wrth i gynlluniau ar gyfer gwelliannau hir dymor i’r ddarpariaeth parcio yn yr ysbyty gael eu datblygu.

Cyflwynwyd y gwasanaeth Parcio a Theithio i ddechrau fel mesur dros dro i helpu’r amodau parcio ar y safle tra’r oedd y gwaith i dynnu asbestos ac ail wneud yr ysbyty yn mynd rhagddo ac roedd y gwasanaeth i fod i ddod i ben ddiwedd y mis.

Mae adolygiad o’r galw a’r capasiti parcio yn Ysbyty Glan Clwyd ar fin cael ei gwblhau.

Oherwydd yr adolygiad parhaus hwn, mae’r Bwrdd Iechyd yn bwriadu cadw’r gwasanaeth parcio a theithio y tu hwnt i 31 Mawrth 2020, yn dibynnu ar gynnydd Achos Busnes i Lywodraeth Cymru am gapasiti parcio newydd ar y safle.

Dywedodd Rod Taylor, Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau: “Rydym yn parhau i ofyn i ymwelwyr ein helpu i leihau effaith traffig ar y safle.

“Anogir ymwelwyr i ystyried defnyddio cludiant cyhoeddus pan fo’n bosibl ac i ystyried yr amser sydd ei angen i ddod o hyd i le parcio wrth gynllunio ymweliad â’r safle.

“Gofynnwn i staff ystyried trefniadau rhannu car i helpu i ryddhau mannau parcio. Gall staff hefyd ddefnyddio’r cynllun beicio i’r gwaith.

Yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, mae parcio yn Ysbyty Glan Clwyd yn dal am ddim.