Neidio i'r prif gynnwy

Clinig dysffagia un stop yn darparu gwasanaeth mwy effeithlon yn Ysbyty Gwynedd

Mae clinig dysffagia un stop yn Ysbyty Gwynedd yn darparu gwasanaeth mwy effeithlon i gleifion, gan roi diagnosis yn gynt a'r amseroedd aros lleiaf posibl ar gyfer apwyntiadau. 

Mantais unigryw y gwasanaeth hwn yw ei fod yn caniatáu i gleifion, sy'n cael problemau llyncu, gael eu hymgynghoriad cyntaf wedi'i ddilyn gan endosgopi a'u hymgynghoriad dilynol ar yr un diwrnod, gan leihau'r angen i fynd i'r ysbyty sawl gwaith.  

Arweinir y gwasanaeth, a gafodd ei gyflwyno yn gyntaf fel prosiect peilot, gan Jonathan Sutton, Gastroenterolegydd Ymgynghorol, a Daniel Marshall, Nyrs Endsgopydd. 

Dywedodd Daniel:  "Rydym yn falch iawn ein bod wedi datblygu'r Clinig Dysffagia Un Stop hwn, mae’n ddull holistig sy’n cynnwys asesiad mewn clinig wedi'i ddilyn gan endosgopi ar yr un diwrnod, sy'n rhoi'r canlyniadau i chi ar yr un diwrnod. 

"O gofio hyd daearyddol Gorllewin Gwynedd, mae’n arbed llawer o deithio i gleifion.

"Ar hyn o bryd rydym yn gweld oddeutu wyth claf yn ein clinigau a gynhelir dwywaith yr wythnos, mae hyn yn helpu i leihau amseroedd aros, ac yn boblogaidd iawn ymysg ein cleifion. 

"Mae'n foddhaol iawn i'n holl staff yn yr adran Endosgopi i weld cymaint mae hyn wedi gwella'r llwybr diagnostig i'n cleifion.  Yn hytrach na bod cleifion yn gweld meddyg yn yr adran i gleifion allanol, cael apwyntiad am endosgopi ar ddiwrnod arall, weithiau gydag wythnosau rhyngddynt, ac yna dod yn ôl ar ddiwrnod arall i gael y canlyniadau, yn awr gallwn wneud popeth ar un diwrnod yn yr un adran."

Llwyddodd Daniel i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru yn 2019 ar ôl cael ei gydnabod am wneud gwahaniaeth sylweddol i ofal cleifion sy'n cael gofal endosgopi a gastroenteroleg. 

Dywedodd Joanna Elis-Williams, Rheolwr Cyffredinol y Gyfarwyddiaeth Feddygol yn Ysbyty Gwynedd: "Mae Daniel yn batrwm ymddwyn positif i'r tîm nyrsio yn yr ysbyty ac mae'n dysgu ac yn goruchwylio nyrsys newydd a nyrsys iau yn yr Uned Endosgopi. 

"Mae wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i ofal cleifion sy'n cael gofal endosgopi a gastroenteroleg; mae hyn yn amlwg trwy adborth positif gan gleifion a drwy holiaduron boddhad cleifion. 

"Rydym yn falch iawn o allu cynnig Clinigau Dysffagia Un Stop yn Ysbyty Gwynedd, maent wedi bod yn llwyddiannus iawn ers iddynt gael eu sefydlu'r llynedd ac yn helpu i gyflymu diagnosis cynnar."