Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith ar y gweill i wella capasiti gofal iechyd ar draws Gogledd Cymru

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn symud ymlaen gyda’i gynlluniau i wella capasiti i ofalu am gleifion sydd â COVID-19.

Mae nifer y gwelyau wedi cynyddu ar bob un o’n tri phrif ysbyty, a fydd yn ein helpu i gynnig gofal dros yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod ar gyfer y rheiny sydd â’r angen mwyaf.

Mae gwaith ar y gweill hefyd i ddatblygu ysbytai maes i ffwrdd o’n safleoedd ysbyty er mwyn cynyddu ymhellach nifer y gwelyau sydd ar gael i ni.

Mae tri safle wedi’u nodi fel y rhai cyntaf i gael eu datblygu’n ysbytai maes dros dro i ofalu am gleifion sydd â COVID-19. Rydym bellach yn gweithio gyda’n partneriaid er mwyn cymeradwyo cynlluniau ar gyfer y lleoliadau hyn, a byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth amdanynt dros y diwrnodau nesaf.

Mae gennym gynllun dwysáu fesul cam ar waith er mwyn cynyddu nifer y gwelyau’n sylweddol ar gyfer y cleifion mwyaf sâl dros yr wythnosau sydd i ddod, ac mae cynlluniau ar waith i wella ein capasiti o ran gwelyau sydd wedi’u gwyntyllu.

Rydym hefyd yn symud ymlaen o ran cyfleoedd i greu capasiti ychwanegol ym mhob un o’n hysbytai. Er enghraifft, mae gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau er mwyn gosod 80 o welyau ychwanegol yn Ysbyty Glan Clwyd, gan ddefnyddio mannau gwag o ganlyniad i waith ailddatblygu’r ysbyty yn ddiweddar, a fyddai’n barod i’w defnyddio ddiwedd mis Ebrill.

Ar yr un pryd, mae gwasanaethau gofal cychwynnol a chymunedol yn gweithio’n ddyfal i sicrhau bod pobl yn parhau i fod yn iach ac i osgoi argyfwng. Bydd hyn yn sicrhau bod ein gwasanaethau llym arbenigol ar gael i’r bobl hynny sydd â’r angen mwyaf amdanynt.

Rydym hefyd yn cymryd mesurau i wella nifer y staff sydd gennym ar gael i ofalu am ein cleifion. Hyd yma, mae mwy na 200 o bobl wedi datgan diddordeb mewn ymuno â’n banciau staff neu mewn cael contract cyfnod penodol. Mae’r timau banc yn gweithio i sicrhau bod y staff nyrsio, bydwreigiaeth, meddygol a deintyddol hyn yn cael cofrestru a’u bod ar gael i weithio cyn gynted â phosibl.

Mae mwy na 1,100 o staff sydd wedi’u cyflogi eisoes mewn ardaloedd anghlinigol wedi ymuno â chronfa ddata o staff hefyd a gallai’r rhain gael eu hadleoli i gefnogi ardaloedd clinigol pan fo angen.

Rydym hefyd yn sicrhau bod darpariaethau ar gael er mwyn cadw pob un o’n staff yn ddiogel. Mae Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)  addas a digonol ar gael a bydd mwy o stoc yn cyrraedd i’w dosbarthu dros y diwrnodau a’r wythnosau sydd i ddod. Yr wythnos hon, gwnaethom dderbyn cyflenwad sylweddol o PPE fydd yn cryfhau ein stoc ar gyfer y dyfodol agos.