Neidio i'r prif gynnwy

Skype yn helpu cleifion a theuluoedd i gadw mewn cysylltiad ar ward ysbyty yn Wrecsam

Mae staff parod eu cymwynas ar ward yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi trefnu ymweliadau rhithwir trwy Skype er mwyn sicrhau bod eu cleifion yn gallu cadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd.

Er mwyn helpu i atal COVID-19 rhag ymledu, mae'r holl ysbytai ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhoi amseroedd ymweld cyfyngedig ar waith.

Er mwyn sicrhau bod cleifion yn dal yn gallu cadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid, gwnaeth staff ar Ward Morris, sy'n gofalu am gleifion hynaf yr ysbyty, greu cyfrif Skype ar gyfer eu ward.

Dywedodd Emma Jayne Walsh, Gweithiwr Cymorth Dementia: “Pan ddaeth y cyfyngiadau ar ymweld i rym, roeddem ni am wneud yn siŵr bod ein cleifion yn dal yn gallu cadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd gymaint â phosibl.

“Ar ein ward ni, mae gennym ni lawer o gleifion oedrannus, ac mae llawer ohonynt yn byw gyda dementia, felly mae'n hynod bwysig eu bod yn cadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd.

“Mae llawer o ymwelwyr ar ein ward yn oedrannus hefyd felly roeddem ni'n gwybod gyda'r cyfyngiadau newydd sydd ar waith, y byddai hyn yn ei gwneud yn anodd iddynt ddod i'r ward hefyd.

“Fel tîm, gwnaethom ni benderfynu creu cyfrif Skype ar gyfer ein ward ac mae hyn wedi bod yn hynod fuddiol i'n cleifion.

“Rydym ni wedi cael adborth gwych gan y teuluoedd ac mae'n golygu bod ein cleifion yn cadw cyswllt gweledol sy'n hynod bwysig iddynt.

“Mae wardiau eraill ar draws y Bwrdd Iechyd sydd bellach yn ystyried gwneud hyn ac mae hynny'n newyddion gwych ac rydw i'n siŵr y bydd wir yn helpu teuluoedd i gadw mewn cysylltiad."

O ddydd Mercher, 19 Mawrth, cyfyngir ar ymweliadau i 15 munud yn ein prif ysbytai, wardiau iechyd meddwl ac ysbytai cymunedol. Cyfyngir ar ymweliadau rhwng 2pm - 4pm a 6pm - 7.30pm.

Dim ond un ymwelydd fesul claf a ganiateir, ac ni fydd modd i blant o dan 16 oed ymweld ag ardal y wardiau erbyn hyn.