Neidio i'r prif gynnwy

Meddygon a chleifion hŷn yn cadw mewn cysylltiad drwy ymgynghoriadau dros y ffôn

Mae cleifion hŷn sydd yn ynysu’n gymdeithasol oherwydd yr achosion o COVID-19 yn awr yn cael ymgynghoriadau dros y ffôn i gadw mewn cysylltiad â’u meddygon.

Mae cleifion sydd dan adrannau Gofal yr Henoed y Bwrdd Iechyd, a fyddai fel arfer wedi cael gofal dilynol mewn clinig cleifion allanol, yn awr yn cael ymgynghoriadau dros y ffôn yn lle.

Mae ymgynghoriadau dros y ffôn yn addas ar gyfer grŵp a ddewiswyd o gleifion sy’n cael eu hasesu gan feddygon i ddynodi os byddent yn cael budd o’r gwasanaeth.

Dywedodd Dr Indrajit Chatterjee, sy’n Ffisigwr Ymgynghorol ac yn gweithio ar Ward Gofal yr Henoed yn Ysbyty Glan Clwyd, ei fod wedi cael adborth positif gan ei gleifion hyd yn hyn.

Dywedodd: “Mae ymgynghoriadau dros y ffôn yn rhoi’r cyfle i ni asesu sut mae’r claf yn glinigol ac i weld a oes angen unrhyw gymorth neu gefnogaeth ychwanegol arno.

“Mae’n caniatáu i ni adolygu eu meddyginiaeth a chanlyniadau eu harchwiliad diweddaraf a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon neu ymholiadau sydd ganddynt. 

“Mae ymgynghoriadau fel hyn hefyd yn annog teuluoedd sy’n byw gyda’r claf i gymryd rhan weithredol yn y drafodaeth, fel byddent wedi’i wneud petaent wedi mynd i’r clinig.

“Rydym yn deall na allwn archwilio’r claf yn gorfforol trwy ymgynghoriadau dros y ffôn ond o leiaf mae’n dal yn rhoi cyfle i ni adolygu rhai elfennau o’u gofal.”

Dywedodd Dr Sally Jones, Ffisigwr Ymgynghorol, sy’n gweithio ar Ward Gofal yr Henoed yn Ysbyty Gwynedd ac sy’n arbenigo mewn clefyd Parkinson, bod yr ymgynghoriadau dros y ffôn yn rhoi cysur i’r claf a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod ansicr hwn.

Dywedodd: “Mae hon yn ffordd newydd o weithio i ni a hyd yn hyn rwyf wedi cael adborth positif gan fy nghleifion.

“Mae nifer o feddygon ymgynghorol gwahanol yn gweithio fel hyn ar draws y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd ac mae cleifion a’u teuluoedd wedi bod yn ddiolchgar iawn am gael clywed gennym. Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig nad ydynt yn teimlo fel petaent yn cael eu hanghofion  mewn cyfnod na welwyd mo’i debyg o’r blaen.

“Yn sicr mae’n wahanol i ni gan ein bod wedi arfer cael clinigau prysur ond rydym eisiau sicrhau y gallwn gynnig cymaint o ofal a chefnogaeth i’n cleifion ag y gallwn.”