Neidio i'r prif gynnwy

iPads wedi cael eu rhoi i Uned Gofal Dwys Ysbyty Glan Clwyd i helpu cleifion gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd

Mae Uned Gofal Dwys Ysbyty Glan Clwyd wedi derbyn rhodd o iPads i helpu cleifion aros mewn cysylltiad â'u teuluoedd.

Mae ymweliadau wedi'u hatal dros dro ar draws holl ysbytai Gogledd Cymru'r wythnos diwethaf er mwyn helpu i atal Coronafeirws (COVID-19) rhag lledaenu.

Fe achubodd Natalie Moore, o’r Fflint ar y cyfle hwn i ddechrau ymgyrch leol drwy'r cyfryngau cymdeithasol i apelio am iPads nad ydynt yn cael eu defnyddio er mwyn eu rhoi i'r Uned Gofal Dwys.

Dywedodd: "Aethpwyd â fy modryb Vicky i'r ysbyty ac ar ôl ei llawdriniaeth gyntaf, cafodd ei rhoi ar yr Uned Gofal Dwys.

"Roedd hi angen llawdriniaeth bellach a arweiniodd at ymestyn ei harhosiad ar y ward ac fe alluogodd hyn i ni feithrin perthynas gyda'r staff.

"Roedd y tîm yn wych ac yn dda iawn am roi gwybod i ni am ei datblygiad tra ei bod yno.

"Pan glywais fod ymweliadau â'r ysbyty wedi'u hatal roeddwn eisiau helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn gan fy mod yn gwybod pa mor bwysig ydyw i gleifion gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd."

Rhannwyd neges Natalie yn eang yn y gymuned a ysgogodd nifer o bobl i gysylltu a oedd am gyfrannu at ei hapêl.

"Mae cymaint o bobl eisiau helpu ein GIG ar hyn o bryd - maent yn gwneud gwaith gwych ac mae pawb eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

"Fe gysylltodd llawer o bobl gyda mi unwaith cafodd fy neges ei rhannu ac fe rannodd rai ohonynt eu profiad ar yr Uned Gofal Dwys a pha mor wych yw'r staff yno.

"Rwy'n gobeithio y bydd cael yr iPads ar y wardiau yn dod â chysur i'r cleifion hynny nad ydynt yn gallu gweld eu teuluoedd yn bersonol ar hyn o bryd," ychwanegodd Natalie.

Dywedodd Dr Brian Tehan, Meddyg Ymgynghorol Anaesthesia a Gofal Dwys yn Uned Gofal Dwys yr ysbyty, fod y tîm yn ddiolchgar iawn am y rhoddion.

Dywedodd: "Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Natalie am ddechrau'r apêl hon, rydym yn hynod o ddiolchgar iddi hi a'r rhai sydd wedi cyfrannu.

"Bydd cael yr iPads ar y ward o fudd mawr i'n cleifion, bydd yn sicrhau eu bod yn gallu aros mewn cysylltiad â'u teuluoedd a bydd hefyd yn caniatáu i ni ryngweithio â'u hanwyliaid ac i roi gwybod am ddatblygiad y claf.

"Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus ein cymunedau yn y cyfnod ansicr hwn.

"Hoffwn achub ar y cyfle hwn i bwysleisio pa mor bwysig yw hi bod pawb yn parhau i gadw at ganllawiau'r llywodraeth, yn enwedig y rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddal y firws hwn."

Gall unrhyw un sy'n dymuno rhoi wneud hynny drwy gysylltu â Thîm Cefnogi Awyr Las. Gallwch gysylltu dros y ffôn (01248 384 395) tecstio neu Whatsapp (07779165404) neu drwy e-bostio (awyrlas@wales.nhs.uk) neu drwy anfon neges uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol.