Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect bywydau iachach, hapusach yn ganolog mewn ysgol gynradd yn Sir y Fflint

Dyma'r tro cyntaf y mae ysgol yng Nghymru wedi gosod negeseuon allweddol heneiddio'n dda, gan gynnwys iechyd esgyrn, ymwybyddiaeth am y synhwyrau, lles meddyliol, gweithgaredd/ymarfer corfforol a gwneud y mwyaf o faeth fel rhan annatod o gwricwlwm ffurfiol ysgol ar draws grwpiau oed.

Yn 2019, datblygodd y Tîm Atal Codymau ac Ysgol Owen Jones, Llaneurgain brosiect trawsnewid 'Dyfodol ein Hymgyrch Iechyd', prosiect sydd wedi'i ysgogi gan 'Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol’, Llywodraeth Cymru.

Daeth y prosiect â phlant, athrawon, rhieni, neiniau a theidiau ynghyd, a phwysleisiodd bwysigrwydd cysylltu â chymunedau i helpu i ledaenu negeseuon am iechyd a lles cadarnhaol.

Dywedodd Jo Davies, Arweinydd Clinigol Atal Codymau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Ysbyty Maelor Wrecsam: "Gall effeithiau heneiddio gynnwys cyfres gymhleth o ffactorau corfforol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ond mae heneiddio'n effeithio pobl wahanol ar amseroedd gwahanol.

“Mae amddiffyn ein poblogaeth hŷn yn aml yn adweithiol ond trwy gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth am fanteision heneiddio’n dda ymhlith ein poblogaeth iau y nod yw codi ymwybyddiaeth a’u grymuso i feddwl am eu lles corfforol a meddyliol cyn gynted â phosibl.”

Yn ystod chwe mis y prosiect, bu'r plant yn ymdrin â llawer o bynciau yn ymwneud ag ymarfer corff a maeth, gan edrych yn gynhwysfawr ar Ganllaw Bwyta'n Dda a'r hyn y dylent fod yn ei gynnwys yn eu diet i gael esgyrn iach a chynnal cryfder a swyddogaeth dda.

Fe ddysgon nhw hefyd am strwythur yr esgyrn ac archwiliwyd effaith tor asgwrn, yn enwedig gan y gall tor asgwrn sy'n gysylltiedig â syrthio arwain at golli annibyniaeth, hyder ac unigrwydd cymdeithasol. Mae tystiolaeth gan Gymdeithas Frenhinol Osteoporosis yn awgrymu y bydd 1 ym mhob 2 ferch a 1 ym mhob 5 dyn yn torri asgwrn ar ôl 50 oed yn bennaf o ganlyniad i iechyd esgyrn gwael.  Gall helpu plant i ddeall byw'n iach ar gyfer esgyrn cryf helpu i fuddsoddi yn y cynllun tymor hir o greu bywydau iachach a hapusach. Mae'r plant o bob dosbarth hefyd wedi cael eu penodi fel llysgenhadon iechyd i rannu'r taflenni hyn ar sail tystiolaeth yn eu bagiau bach sy'n cael eu hanfon adref i rieni eu darllen.

Dywedodd y Prifathro, Gareth Caughter bod yr ymgyrch wedi cael effaith anhygoel ar yr ysgol.

Dywedodd: "Mae gan y disgyblion yn awr well dealltwriaeth o ba mor bwysig yw arwain ffordd o fyw actif ac iach. Fe ymgysylltodd y plant â'u rhieni a'u neiniau a'u teidiau mewn ystod o ffyrdd, sydd hefyd wedi cael effaith cadarnhaol ar eu lles.

"Roedd yr ymgyrch yn cysylltu'n berffaith gyda’r Cwricwlwm Cenedlaethol Newydd ar gyfer Cymru a chynorthwyodd ni i ddatblygu dull ‘Mantle of the Expert ’ble mae’r plant yn dod yn arbenigwyr ac yn datrys problemau bywyd go iawn.

"Roedd lefel yr ymgysylltiad a chymhelliant drwy'r prosiect i'w weld yn glir yng ngwaith y plant a phan roeddent yn cyflawni eu rolau 'arbenigol' ar ddiwedd yr ymgyrch.

"Roedd y prosiect cyfan yn llwyddiant mawr, ac rydym i gyd yn falch o'r hyn mae'r disgyblion a'r staff wedi ei gyflawni."