Neidio i'r prif gynnwy

Sefydlu Unedau Profi Cymunedol i helpu i gefnogi diagnosis o Coronavirus Newydd

Mae tair Uned Profi Cymunedol (CTU) wedi cael eu sefydlu yng Ngogledd Cymru i gefnogi’r ymateb i fynd i’r afael â Coronavirus Newydd (COVID 19).

Bydd yr unedau gyrru i mewn yn helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fodloni’r galw am brofion dros yr wythnosau nesaf.

Dim ond cleifion sydd wedi cael asesiad cychwynnol drwy’r gwasanaeth ffôn 111 Cymru gyfan ac sydd wedi cael apwyntiad fydd yn cael eu profi yn yr unedau. Ni fydd aelodau’r cyhoedd sy’n mynd i’r unedau heb gael asesiad drwy 111 yn cael eu profi. Nid yw’r unedau yn gweithredu gwasanaeth cerdded i mewn ac ni fyddant yn rhoi prawf heb apwyntiad.

Dylai unrhyw un sy’n bryderus bod ganddynt symptomau coronavirus wirio Gwiriwr Symptomau GIG Cymru yn www.nhsdirect.wales.nhs.uk neu gysylltu â’r GIG drwy ffonio 111. Ni ddylent fynd i unrhyw leoliad gofal iechyd, yn cynnwys ysbytai na meddygfeydd.

Mae’r Unedau Profi Cymunedol yng Nghlinig yr Orsedd (Rossett), Wrecsam; Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan; ac Ysbyty Alltwen ym Mhorthmadog.

Yn dilyn asesiad cychwynnol gan Galw Iechyd Cymru neu 111 ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gofynnir i gleifion sy’n bodloni diffiniad yr achos o fod wedi cael eu heintio o bosibl, ac sy’n ddigon da i allu gyrru, fynd i’r Uned am brawf COVID-19. Mae hwn yn swab syml yn y gwddf a’r trwyn.

Mae’r unedau gyrru i mewn, sy’n helpu i gadw cleifion posibl wedi eu hynysu yn eu cerbydau, yn cefnogi profi mewn cartrefi pobl, sydd wedi cael ei ddefnyddio yng Ngogledd Cymru a bydd yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu gyrru neu deithio i’r unedau gyrru i mewn.

Nid oes risg ychwanegol i bobl sy’n byw yng nghyffiniau’r unedau hyn. Mae ystod o ragofalon a mesurau atal haint wedi cael eu hystyried a’u rhoi ar waith, yn cynnwys protocolau clinigol caeth a’r defnydd o Offer Amddiffynnol Personol i gadw staff, cleifion a phobl sy’n byw ac yn gweithio gerllaw yn ddiogel.

Dywedodd Dr David Fearnley, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Nid canolfannau galw heibio yw ein Unedau Profi Cymunedol. Dim ond pobl sydd wedi cael eu cyfeirio yno yn dilyn diagnosis drwy wasanaeth 111 GIG Cymru fydd yn cael eu profi.

“Dylai unrhyw un â symptomau coronavirus gysylltu â’r GIG drwy ffonio 111 cyn mynd i unrhyw leoliad gofal iechyd yn cynnwys ysbytai a meddygfeydd.

“Pan fydd asesiad drwy’r gwasanaeth 111 wedi ei wneud, bydd cleifion yn cael cyngor a ddylent fynd i un o’r canolfannau neu gwneir trefniadau i un o’r timau profi gartref ymweld â’u cartref. Hoffem ddiolch i’n staff am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i amddiffyn iechyd ein cymunedau yn y sefyllfa hon sy’n esblygu.”

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus ar gael ar wefannau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.