Neidio i'r prif gynnwy

Anturiaethwr yn diolch i Dîm Orthopaedig Ysbyty Gwynedd am lawdriniaeth a newidiodd ei fywyd

Mae cyn ddarlithydd o Brifysgol Bangor yn ôl ar ei draed ac wedi dod yn ôl ar ôl bod yn hyfforddi cwrs arweinyddiaeth mynyddoedd yn India yn dilyn cael llawdriniaeth i'w glun a newidiodd ei fywyd y llynedd.

Dechreuodd Tim Jepson, 67, o Fynydd Llandygai, gael anystwyther yn ei ddwy glun yn gyntaf tua deng mlynedd yn ôl cyn cael diagnosis o arthritis. 

Oherwydd ei hoffter o fod allan yn yr awyr agored, parhaodd Tim i ddringo a beicio ond nid oedd yn gallu parhau i gerdded bryniau gan fod y boen yn ei gluniau yn gwaethygu'n raddol. 

Dywedodd: "Ceisiais osgoi cael llawdriniaeth am gyn gymaint ag y gallwn ond roedd y boen yn dechrau gwaethygu ac yn fy rhwystro rhag gwneud gweithgareddau penodol yn yr awyr agored, fel cerdded bryniau, yr wyf yn ei fwynhau'n fawr iawn. 

"Cefais fy rhoi ar y rhestr aros a chefais fy llawdriniaeth gyntaf ar fy nghlun ym mis Chwefror 2019 a’r ail lawdriniaeth ar fy nghlun arall ym mis Awst yr un flwyddyn.

"Roeddwn yn hapus iawn gyda'r canlyniad ar y ddau achlysur ac rwyf wir yn gwerthfawrogi'r gofal a gefais gan fy llawfeddyg, Mr Muthu Ganapathi, a'i dîm.  

"O fewn ychydig o wythnosau roeddwn yn gallu dechrau ymarfer corff ac roeddwn wrth fy modd fy mod yn gallu dechrau mwynhau cerdded bryniau unwaith eto."

Mae Tim, a oedd yn arfer darlithio mewn Addysg yr Awyr Agored, wedi dod yn ôl o Mumbai yn ddiweddar ar ôl gweithio fel hyfforddwr ar gwrs Arweinyddiaeth Mynyddoedd 10 diwrnod i Dywyswyr Teithio India lleol yn Sahyadri. 

"Roeddwn yn fwriadol wedi peidio â gwneud hyn am gyfnod hir ond yn dilyn y llawdriniaeth roeddwn yn teimlo'n hyderus y gallaf wneud hyn eto.

 "Roedd y cwrs yn cynnwys hyfforddiant ymarferol mewn sgiliau arwain teithiau ac yn cynnwys cerdded, dringo a gwersylla yn y mynyddoedd. 

"Mae fy symudedd yn gadarn ac nid wyf mewn poen unwaith eto, yn awr gallaf deithio dros lawr garw gyda'r un sioncrwydd a oedd gennyf yn 40 oed! 

"Rwy'n ddiolchgar iawn am y llawdriniaeth hon, mae wedi gwella fy ansawdd byw yn sylweddol ac wedi fy nghaniatáu i wneud y pethau rwy'n ei garu unwaith eto.” 

Ychwanegodd Tim: "Hoffwn ddiolch i'r tîm llawfeddygol yn Ysbyty Gwynedd, yn ogystal â'r staff nyrsio ar Ward Enlli, a'r Ffisiotherapyddion a'r Therapyddion Galwedigaethol a helpodd fi i fynd yn ôl ar fy nhraed yn dilyn fy llawdriniaeth."

Mae Mr Ganapathi, Llawfeddyg Orthopaedig Ymgynghorol, wedi diolch i Tim am ei eiriau caredig tuag at y tîm yn Ysbyty Gwynedd ac yn falch ei fod yn gwneud cystal yn dilyn y llawdriniaeth.  

Dywedodd: "I ddechrau daeth Mr Jepson i fy ngweld gyda poen ac anystwythder yn sgil arthritis difrifol yn ei ddwy glun.  Roedd wedi cyrraedd pwynt lle nad oedd hyd yn oed yn gallu gwneud ei weithgareddau bob dydd, heb sôn am weithgareddau yn yr awyr agored. 

"Cawsom drafodaeth hir am y dewisiadau a oedd ar gael yn cynnwys cael clun newydd a p'un ai a oedd am barhau gyda'i angerdd am weithgareddau'r awyr agored ai peidio.  Er nad yw gweithgarwch lefel uchel fel arfer wedi bod yn gysylltiedig â’r canlyniadau yn dilyn cael cluniau newydd yn y gorffennol, gyda thechnegau llawfeddygol modern a phrotocolau adsefydlu, mae llawer o gleifion i'w weld yn cyrraedd swyddogaeth o lefel uchel ar ôl cael clun newydd. 

"Cafodd Mr Jepson ddwy glun newydd yn defnyddio’r dull mewnwthiol lleiaf posibl.

"Rwy'n falch ei fod wedi gallu parhau gyda'i weithgareddau'r awyr agored, sef yr hyn y mae'n angerddol amdano.  Mae'n amlwg bod cymhelliad ac agwedd bositif Mr Jepson wedi chwarae rhan sylweddol iddo gael y lefel hwn o weithgarwch hefyd."