Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r cyntaf yng Nghymru i lansio Rhaglen Rheoli Poen Rhithwir

Y Tîm Poen Cronig yn Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r cyntaf yng Nghymru i ddarparu rhaglen rheoli poen rhithwir ar gyfer eu cleifion.

Mae'r tîm wedi parhau i fod yn weithredol trwy gydol pandemig COVID-19 ac maent wedi addasu'n gyflym at ffyrdd newydd o weithio, gan sicrhau parhad y gwasanaeth yn y lle cyntaf trwy gyswllt dros y ffôn, cyn symud ymlaen i gynnig asesiadau ac ymyriadau fideo o bell.

Efallai y caiff rhai pobl sy'n derbyn triniaeth mewn clinig poen gynnig rhaglen rheoli poen (PMP) ac fel arfer, caiff y rhain eu cyflwyno trwy gyfres o sesiynau grŵp yn yr ysbyty.

Dywedodd Dr Katy Knott, Seicolegydd Clinigol: “Byddai ein Gwasanaeth Poen fel arfer yn cynnig tair rhaglen rheoli poen bob blwyddyn.

“Ymyriad grŵp yw hwn yn cynnig cyfuniad o ymagweddau seicolegol a chorfforol er mwyn helpu unigolion i fyw bywyd gwerth chweil ochr yn ochr â'u poen, sy'n cael ei hwyluso gan Arbenigwr Nyrsio Clinigol, Ffisiotherapydd Arbenigol a minnau, Seicolegydd Clinigol.  

“Roedd yn dasg hynod anodd addasu i gynnig yr ymyriad hwn o bell.  Nid oedd fawr ddim cynsail yn hyn o beth ar draws y DU ac ychydig iawn o arweiniad ar gynnig rhaglenni rheoli poen o bell.  Fel tîm, gwnaethom goladu llenyddiaeth berthnasol a gwnaethom siarad â chydweithwyr a oedd ag ychydig o brofiad yn cynnig rhaglenni rheoli poen o bell. 

“Roeddem yn awyddus i osgoi amseroedd aros cynyddol ac felly, gwnaethom fanteisio ar y wybodaeth hon gan addasu ein sesiynau rhaglenni rheoli poen a'n pecynnau adnoddau'n gyflym er mwyn ein galluogi i ddechrau'r rhaglen rithwir gyntaf i reoli poen yn y bwrdd iechyd, a ddechreuodd ym mis Awst." 

Ar hyn o bryd, mae gan y tîm saith o unigolion yn cymryd rhan yn eu rhaglen rithwir 12 wythnos, un o'r unigolion hynny yw Angela Wynn Brighouse, sydd wedi cael profiad positif o'r rhaglen hyd yn hyn.

Dywedodd: “Rydw i'n meddwl bod y tîm yn gwneud gwaith anhygoel, mae cystal â bod yn yr ystafell ddosbarth ond gyda'r bonws ychwanegol o allu defnyddio fy mhad gwres.

“Mae wedi bod yn brofiad gwych hyd yma yn enwedig i bobl fel minnau sy'n ei chael hi'n anodd cyfarfod â phobl newydd felly mae'n wych bod modd i mi gymryd rhan mewn cyrsiau fel hwn."

Dywedodd Ruth Burgess, Arbenigwr Nyrsio Clinigol mewn Rheoli Poen: “Mae llawer o gleifion wedi rhoi gwybod i ni eu bod yn ei gweld hi'n haws cymryd rhan yn y grwpiau hyn gan nad oes angen iddynt deithio i ymuno â nhw, mae hyn yn lleihau teimladau gofidus o ran cymryd rhan mewn ymyriadau grŵp.   

“Rydym yn bwriadu cynnal grŵp ffocws ac i werthuso mesurau canlyniadau er mwyn llywio darpariaeth rhaglenni rheoli poen rhithwir yn y dyfodol. 

“Yn y tymor hwy, y gobaith yw y bydd modd i ni barhau i gynnig y grwpiau o bell hyn ochr yn ochr â'n rhaglenni rheoli poen wyneb-yn-wyneb arferol er mwyn gwella hygyrchedd a dewis i gleifion."